Coronafeirws: 11 yn rhagor o farwolaethau
- Cyhoeddwyd
Mae 11 yn rhagor o bobl wedi marw o ganlyniad i coronafeirws yn ôl ffigyrau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru.
O ganlyniad mae cyfanswm nifer y marwolaethau Covid-19 drwy Gymru yn 2,376.
Cafodd 808 o brofion positif ychwanegol am Covid-19 eu cofnodi, gan ddod â'r cyfanswm i 72,341.
Cafodd 14,005 o brofion eu cynnal ddoe ac mae cyfanswm nifer y profion bellach yn 1,398,003.
O'r achosion newydd, roedd 87 yng Nghasnewydd, 80 yng Nghaerdydd, 77 yn Abertawe, a 70 yng Nghaerffili.
Mae cyfradd yr achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth dros y saith niwrnod diwethaf ar ei huchaf ym Mlaenau Gwent, gyda 435.1 ymhob 100,000.
Yn ail ar y rhestr mae Castell-nedd Port Talbot gyda 272.8, ac mae'r gyfradd yn 261.9 ymhob 100,000 o'r boblogaeth ym Merthyr Tudful.
Yn y cyfamser, dywed cyngor y dref honno fod 977 o bobl wedi cael eu profi am goronafeirws ar ddiwrnod cyntaf profion torfol yn yr ardal ddydd Sadwrn.
Fe welwyd naw canlyniad positif am yr haint yn dilyn cynnal y profion hyn.
Cafodd oddeutu 175 o swyddogion y lluoedd arfog eu defnyddio i roi cymorth wrth i bobl giwio am brofion yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2020