Corff newydd i blismona dŵr, llygredd aer a gwastraff
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau ei bod yn ffafrio sefydlu corff neu gomisiynydd annibynnol newydd i blismona cyfraith amgylcheddol.
Byddai'n disodli'r trefniadau presennol sy'n ymwneud â'r Comisiwn Ewropeaidd.
Cafodd opsiynau eraill eu gwrthod - gan gynnwys dibynnu ar gorff newydd sydd wrthi'n cael ei sefydlu yn Lloegr gan Lywodraeth y DU.
Ond mae gweinidogion yn dweud nad oes amser i baratoi a phasio'r ddeddfwriaeth angenrheidiol tan ar ôl etholiad y Senedd ym mis Mai.
Poeni am yr oedi
Mae hynny'n golygu y gallai gymryd blynyddoedd cyn bod y drefn newydd ar waith, gydag ymgyrchwyr yn rhybuddio bod na fwlch yn mynd i fodoli o ran amddiffyn yr amgylchedd.
Gwrthod hynny mae'r llywodraeth gan ddweud bod "asesydd amgylcheddol dros dro" yn cael ei recriwtio ar hyn o bryd, er na fydd ganddyn nhw yr un pwerau â'r corff neu gomisiynydd sydd dan ystyriaeth.
Gyda diwedd cyfnod trosglwyddo Brexit yn prysur agosáu, mae'r Gweinidog Amgylchedd Lesley Griffiths wedi wynebu pwysau gan wrthbleidiau yn y Senedd i wneud cyhoeddiad ynglŷn â beth fydd y drefn newydd.
Ar hyn o bryd, gall aelodau o'r cyhoedd gwyno'n rhad ac am ddim i'r Comisiwn Ewropeaidd, all wedyn benderfynu ymchwilio ar eu rhan a yw llywodraethau'n cadw at gyfreithiau gwyrdd ar bethau fel ansawdd dŵr, llygredd aer a gwastraff.
Mae enghreifftiau diweddar yng Nghymru yn cynnwys cwyn am ymdrin â llygredd amaethyddol mewn afonydd, a lefelau allyriadau gwenwynig o bwerdy glo Aberddawan ym Mro Morgannwg.
Yn Lloegr, mae corff newydd - Swyddfa Amddiffyn yr Amgylchedd - wedi'i gynnig fel rhan o Fesur Amgylchedd Llywodraeth y DU.
Roedd Ms Griffiths wedi gofyn i grŵp arbenigol gyflwyno argymhellion ar gyfer Cymru - ac fe roddwyd eu hadroddiad nhw iddi ym mis Ebrill.
Bellach mae wedi cyhoeddi ei hymateb - gan dderbyn bod angen sefydlu comisiwn amgylcheddol, sy'n annibynnol o'r llywodraeth.
Dywedodd adroddiad y panel y dylid rhoi "swyddogaethau priodol" i'r corff "nid yn unig i dderbyn ac ymateb i gwynion gan ddinasyddion yng Nghymru ond hefyd i gynnal ymholiadau lle nodwyd materion systemig drwy ymchwiliadau a chraffu".
Nodwyd hefyd y dylai fod ganddo bwerau i uwchgyfeirio materion lle bo angen i stopio neu atal niwed amgylcheddol.
Byddai hyn yn amrywio o "gynghori cyrff cyhoeddus yng Nghymru i orfodi a defnyddio mecanweithiau adolygiad amgylcheddol gerbron yr Uwch Dribiwnlys".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2019
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2016
- Cyhoeddwyd26 Mawrth 2015