Coronafeirws: Prawf 20 munud i ymwelwyr â chartrefi gofal
- Cyhoeddwyd
Bydd profion Covid-19 sy'n rhoi canlyniadau o fewn 20 munud yn cael eu rhoi i ymwelwyr i gartrefi gofal yng Nghymru'r wythnos nesaf.
Dywedodd y gweinidog iechyd y byddai'r cynllun peilot, sy'n rhan o beilot ehangach dros y DU, yn digwydd mewn 15 o gartrefi.
Os yn llwyddiannus, fe fydd mwy o gartrefi gofal yn cynnig y profion o ganol Rhagfyr.
Mae'r profion yn rhoi canlyniadau llawer cynt na'r profion coronafeirws sydd ar gael yn gyffredinol.
Dyma'r un math o brawf sy'n cael ei gynnig i bobl Merthyr Tudful yn y cynllun profi torfol.
Bydd unedau bach dros dro hefyd yn cael eu gosod ar gyfer ymwelwyr â chartrefi gofal er mwyn ei gwneud hi'n haws ymweld ag anwyliaid dros y Nadolig a misoedd y gaeaf.
Dywedodd y gweinidog Vaughan Gething: "Bydd y profion yn rhoi hyder ychwanegol i reolwyr cartrefi gofal y gall ymweliadau ddigwydd heb i'r coronafeirws ddod i mewn i'r cartref.
"Nid yw'r profion yma yn cymryd lle mesurau eraill, fel rheoli heintiau, cadw pellter cymdeithasol a hylendid dwylo, sydd mor bwysig wrth atal lledaeniad y coronafeirws, yn enwedig mewn cartrefi gofal."
175 achos i bob 100,000
Cafodd naw o farwolaethau ychwanegol eu cofnodi yn ffigyrau dyddiol Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Llun, yn ogystal ag 892 o achosion newydd o'r feirws.
Roedd 112 o'r achosion yn Rhondda Cynon Taf, 96 yng Nghaerdydd ac 80 yng Nghaerffili.
Yng nghynhadledd y llywodraeth ddydd Llun, dywedodd y gweinidog bod sefyllfa Cymru yn "parhau'n sefydlog".
"Mae'r gyfradd saith diwrnod ar gyfer Cymru yn parhau yn 175 ar gyfer pob 100,000 o bobl," meddai Mr Gething
"Ond rydym yn dechrau gweld arwyddion sy'n achosi pryder mewn rhai ardaloedd, mae'r gyfradd ar gyfer Blaenau Gwent er enghraifft wedi cynyddu'n sydyn iawn dros yr wythnos diwethaf."
Ychwanegodd fod cynnydd hefyd wedi bod yn y siroedd cyfagos sef Caerffili, Torfaen a Chasnewydd.
Dywedodd Mr Gething bod y Gwasanaeth Iechyd yn "brysur iawn ar hyn o bryd", a bod niferoedd "sylweddol" mewn gwelyau ysbyty.
Er hynny dywedodd bod y lefel yn dechrau arafu.
Ystyried cynllun haenau i'r Nadolig
Wrth drafod y Nadolig, awgrymodd y gweinidog ei fod yn ystyried system o haenau yn debyg i'r rhai yn Lloegr a'r Alban, mewn ymgais i sicrhau cynlluniau tebyg rhwng y gwledydd.
Dywedodd bod angen meddwl am y mesurau yng ngwledydd eraill Prydain - sydd yn debyg i'w gilydd.
"Felly byddwn ni'n meddwl dros yr wythnos nesaf am os ydyn ni angen cynllun tebyg, yn nhermau sut rydyn ni'n gofyn i bobl newid eu bywydau.
"Ac fe all hynny olygu bod newidiadau."
Ychwanegodd bod rhywfaint o lacio i'r rheolau wedi ei drafod gyda llywodraethau eraill y DU, a threfniadau cyson ar gyfer teithio ar draws y DU.
Ond nid oes unrhyw beth wedi ei gytuno eto, meddai.
Yn ddiweddarach, dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth nad oedd system o haenau dan ystyriaeth, ond bod cyfyngiadau tebyg i rai gweddill y DU yn cael eu trafod.
'Syniad rhesymol'
Wrth ymateb i'r awgrym y gallai tri chartref gyfarfod dros gyfnod penodol adeg y Nadolig, dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd bod hynny'n "syniad rhesymol".
"Wrth gwrs maen nhw'n dal i edrych ar hynny, dydyn ni ddim yn gwybod pa gasgliad y byddan nhw'n dod iddo, bydd rhaid aros, ond dwi'n falch bod y trafodaethau'n parhau", meddai Paul Davies AS.
Ychwanegodd ei fod yn "hanfodol" bod rheolau cyson ar draws y DU dros y Nadolig.
Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Rwy'n croesawu unrhyw gamau i hwyluso ymweliadau diogel i gartrefi gofal.
"Fe wnes i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gynharach y mis hwn i annog mesurau i ganiatáu ymweliadau a hynny er lles preswylwyr.
"Mae mabwysiadu cynllun profion cyflym wedi bod yn araf yng Nghymru, ond rydym nawr angen sicrhau fod y cynlluniau peilot yn cael eu hehangu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2020