Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 4-0 Sutton United
- Cyhoeddwyd
Cafodd Wrecsam eu buddugoliaeth orau o'r tymor trwy guro'r tîm a ddechreuodd y noson yn ail safle'r Gynghrair Genedlaethol yn hawdd.
Fe rwydodd Kwame Thomas gyda foli wych wedi 27 o funudau i roi Wrecsam ar y blaen.
Dri munud cyn diwedd yr hanner cyntaf, fe lwyddodd Jay Harris i ddyblu'r fantais, ar ôl cael y cyffyrddiad allweddol wedi i gic rydd i'r chwith lanio yng nghanol nifer o chwaraewyr.
Roedd yna gyfle gwych arall i Thomas cyn diwedd yr ail hanner ond fe darodd y postyn.
Daeth drydedd gôl y tîm cartref wedi 73 o funudau, diolch i ergyd yr eilydd, Adi Yussuf.
Sgoriodd Kwame Thomas ei ail gôl o'r noson bum munud yn ddiweddarach, ar ôl curo golwr Sutton United i gyrraedd pêl hir yn gyntaf.
Mae'r canlyniad - eu trydedd buddugoliaeth o'r bron - yn golygu fod Wrecsam wedi codi pum safle i fod yn chweched yn y tabl gyda 16 o bwyntiau.