Cynnig brechlyn 'o fewn wythnos' i gael sêl bendith
- Cyhoeddwyd
Dywed Mark Drakeford y bydd brechlyn ar gyfer coronafeirws yn barod i'w ddefnyddio yng Nghymru o fewn wythnos iddo gael sêl bendith gwyddonol.
Dywedodd y Prif Weinidog wrth raglen Dros Ginio ar BBC Radio Cymru fod Llywodraeth Cymru yn "gweithio ar y capasiti nawr. Mae llawer o'r gwaith wedi'i wneud eisoes".
Pan ofynnwyd iddo am gyhoeddiadau yn Lloegr ac yn Yr Alban am gyflwyno'r brechlyn yno, dywedodd Mr Drakeford fod "yr hyn mae llefydd eraill wedi'i wneud ydy dangos uchelgais".
"Yr hyn yr ydym yn ei wneud yma yng Nghymru yw cynllunio yn gyntaf cyn i ni wneud cyhoeddiad."
Roedd yn siarad cyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru gyhoeddi bod 1,251 o achosion newydd o Covid-19 wedi'u cadarnhau yng Nghymru yn y 24 diwethaf gan fynd â chyfanswm yr achosion i 75,986.
Cafodd 28 o farwolaethau yn rhagor eu cofnodi yn yr un cyfnod. Mae 2,474 o bobl bellach wedi marw gyda coronafeirws yng Nghymru, ond mae ICC yn cydnabod bod y gwir ffigwr yn debygol o fod yn sylweddol uwch na hynny.
Mae Prif Weinidog Yr Alban wedi dweud eu bod yn gobeithio brechu 1m o bobl erbyn diwedd mis Ionawr, a'r bwriad yn Lloegr yw brechu pawb sydd yn agored i niwed erbyn y Pasg.
Ychwanegodd Mr Drakeford: "Nid ydym yn gwybod eto, ac nid yw pobl yn Yr Alban yn gwybod eto faint o'r brechlyn fydd ar gael oherwydd nad yw'r system wedi'i sefydlu eto."
Pan ofynnwyd iddo am gynlluniau i dynhau cyfyngiadau cymdeithasol cyn y Nadolig, mynnodd Mr Drakeford fod y "clo byr yn llwyddiannus" a'i fod "yn gwneud popeth yr oeddem yn disgwyl iddo ei wneud" ond roedd hefyd yn cydnabod bod nifer y bobl â choronafeirws yn cynyddu.
Dywedodd fod Llywodraeth Cymru yn edrych ar yr hyn sy'n digwydd mewn rhannau eraill o'r DU i "weld a oes pethau y gallwn eu dysgu ac a oes pethau y gallwn eu rhoi ar waith i'n helpu gyda'r ffigyrau rydyn ni'n eu gweld nawr".
Ychwanegodd: "Rydym yn derbyn, os ydym yn mynd i wneud rhywbeth yn y sector lletygarwch, yna bydd yn rhaid i ni ddod o hyd i fwy o gefnogaeth i'r sector a'i gadwyn gyflenwi."
Dywedodd Mr Drakeford fod sgyrsiau yn parhau ynglŷn â sut i ddod o hyd i arian i gefnogi'r sector lletygarwch a'r ffordd orau i'w ddosbarthu.
Dywedodd wrth Dros Ginio: "Rydyn ni'n gweithio ar bethau heddiw - pa arian allwn ni ddod ag ef at ei gilydd ac i ba bwrpas allwn ni ei ddefnyddio i helpu pethau ond dydyn ni ddim wedi dod i ddiwedd y trafodaethau hynny eto."
Dywedodd cadeirydd y BMA yng Nghymru bod llawer o gynllunio wedi digwydd, ond bod y cyfan yn ddibynnol ar gael sêl bendith i'r brechlynnau.
"Dy'n ni'n gobeithio brechu staff a phobl mewn cartrefi gofal yn Rhagfyr, os ddaw sêl bendith", meddai Dr David Bailey.
"Dy'n ni ddim yn gwybod yn union [beth fydd rôl meddygon], ond dy'n ni'n disgwyl yn yr ail don, pan ddaw brechlyn Rhydychen, y bydd meddygon teulu yn chwarae rhyw ran..."
Ychwanegodd: "Mae llawer o gynllunio wedi digwydd ar frechu'r mwyaf bregus, gan fod nifer fawr o'r marwolaethau wedi digwydd mewn cartrefi gofal, felly'r peth cyntaf i'r llywodraeth wneud, a ni fel meddygon, ydy amddiffyn y cleifion bregus yna."
'Dim yn ddigon da'
Mewn ymateb i gynlluniau brechu Llywodraeth Cymru, dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth bod cael grŵp cynllunio gweithredol yn unig "ddim yn ddigon da ar hyn o bryd".
"Mae Plaid Cymru wedi bod yn gofyn am gynllun brechu brys, clir a chynhwysfawr gan Lywodraeth Cymru," meddai.
"Mae gweld y math o gynlluniau sydd yn cael eu cyflwyno yn Yr Alban yn atgyfnerthu'r angen am gynllun yr un mor glir yng Nghymru.
"Rhaid i ni wybod sut - unwaith y rhoddir cymeradwyaeth ar gyfer y brechlyn - y bydd y brechlyn yn cael ei gyflwyno yng Nghymru, gan gynnwys amseriadau, pwy fydd yn cael ei dderbyn, a'r trefniadau.
"Ni all Llywodraeth Cymru fod yn amwys ynglŷn â mater mor bwysig."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2020
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2020