Galw am ganiatáu mwy o bysgota ym Mae Ceredigion
- Cyhoeddwyd
Mae pysgotwyr ac ymgyrchwyr amgylcheddol yn anhapus am y diffyg "camau ymlaen" ar ôl penderfyniad gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu mwy o bysgota am gregyn bylchog, neu 'scallops', ym Mae Ceredigion.
Dywed yr ymgyrchwyr fod unrhyw gynnydd mewn pysgota yn gorfod ystyried effeithiau niweidiol ar amgylchedd hynod sensitif, tra bod pysgotwyr yn mynnu bod cyfle i wneud bywoliaeth yn cael ei golli.
Mae Robbie a John Gorman yn dad a mab sy'n pysgota o harbwr Aberystwyth.
Mae ganddyn nhw dri chwch gan gynnwys y 'Joanna' - cwch sy'n tyrchu am gregyn bylchog.
Pysgota am gimwch a chrancod yw eu prif gynhaliaeth ond mae'r cregyn bylchog yn rhoi incwm angenrheidiol dros fisoedd y gaeaf.
Ar hyn o bryd, mae rheolau llym yn caniatáu iddyn nhw bysgota mewn un ardal fach neu 'bocs' o Fae Ceredigion am gyfnod penodol.
Ond mae Robbie yn mynnu bod 'na botensial i gynyddu'r ardal honno, heb niweidio'r amgylchedd.
"Dyw e ddim yn neud unrhyw sens. Dyw e ddim yn niweidio'r amgylchedd - mae'n rhywbeth sy'n gallu cael ei gynaeafu yn synhwyrol.
"Ni'n dal niferoedd cymharol fach o'r cregyn wedyn ma' ardal sy' ar gau drws nesa, tu hwnt i linell ble ma' digonedd ohonyn nhw.
"Mae'n wastraff pur - marw o henaint fyddan nhw... jest yn gorwedd yna'n pydru. Ble ma'r sens yn hynna?"
Yn dilyn cyfnod o or-bysgota ym Mae Ceredigion ar ddechrau'r ganrif, penderfynodd Llywodraeth Cymru i gau'r cyfle i bysgota am grefyn bylchog yn gyfan gwbl.
Ond yn 2010, ail-agorwyd ardal fechan ac yn 2016 bu ymgynghoriad cyhoeddus i weld os oedd hi'n bosib caniatáu pysgota ehangach yn yr ardal.
Cyhoeddodd y llywodraeth byddai'r rheolau yn newid ond tair blynedd yn ddiweddarach, yr un yw'r sefyllfa.
Mae amgylcheddwyr yn dweud eu bod wedi gorfod derbyn y penderfyniad ond dal yn teimlo dylai ffyrdd arall o ddal y cregyn fod dan ystyriaeth.
Mae Mick Green, sy'n llunio polisi ar gyfer mudiad Gwarchod Morfilod a Dolffiniaid yn dweud fod angen sicrhau balans teg.
"Ni ddim yn hapus, ond mae'r penderfyniad wedi cael ei wneud ac mae'n rhaid i ni dderbyn hynny.
"Ond ma' 'na opsiynau eraill - er enghraifft mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Swydd Efrog wedi ymuno gyda phobl sy'n defnyddio cafnau arbennig er mwyn dal cregyn bylchog.
"Does dim angen tyrchu ar hyd gwely'r môr - dim ond codi'r cafnau.
"Petai Llywodraeth Cymru wedi treulio dwy flynedd yn edrych ar bethau felly, bydden ni wedi symud ymlaen erbyn hyn.
"Newn ni weithio gyda'r pysgotwyr er mwyn neud yn siŵr bod cyn lleied o ddifrod â phosib fel bod nhw'n gallu neud bywoliaeth a ni'n gallu gwarchod y bywyd gwyllt."
'Datblygiadau sylweddol'
Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn gwbl benderfynol o gyflwyno sustem fwy hyblyg ar gyfer pysgota cregyn bylchog.
Ychwanegodd llefarydd fod gofynion gadael yr Undeb Ewropeaidd wedi arafu'r gwaith yma ond bod y Gweinidog ar gyfer yr Amgylchedd, Lesley Griffiths, yn disgwyl datblygiadau sylweddol yn ystod eleni.
Maen nhw'n dweud bod yna 39 o gychod sydd â chaniatâd i bysgota am gregyn bylchog oddi ar arfordir Cymru a bod unrhyw newid yn y rheolau i ymestyn yr ardal dan sylw yn gorfod ystyried unrhyw oblygiadau ar yr amgylchedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Tachwedd 2019
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2019