Rhybudd am 'effaith ddifrifol' coronafeirws ar bysgotwyr

  • Cyhoeddwyd
Sion Williams
Disgrifiad o’r llun,

Sion Williams: 'Mae'r marchnadoedd i gyd wedi cau'

Go brin fod unrhyw weithgaredd na diwydiant sydd heb gael ei effeithio mewn rhyw fodd gan coronafeirws.

Fyddai rhywun ddim yn meddwl, er enghraifft, y byddai'r feirws yn effeithio ar y diwydiant pysgota, gan fod y pysgotwyr allan ar y môr ar eu pen eu hun.

Ond nid felly y mae hi.

Oherwydd bod popeth ar y lan wedi cau, does dim marchnad i'r pysgod a'r cregyn mae ein pysgotwyr yn eu dal.

Dim marchnad, dim incwm, a hynny ar ben y gaeaf mwyaf stormus i'r diwydiant ei wynebu ers 20 mlynedd - a dim gobaith am wythnosau rhoi'r cychod yn y dŵr.

Mae Sion Williams yn pysgota o Borth Colmon ar Benrhyn Llŷn.

"Mae o wedi effeithio yn ddifrifol ofnadwy, mae'r marchnadoedd i gyd wedi cau, yn Ewrop, yn Asia a'r marchnadoedd adra," meddai.

"Mae'r bwytai i gyd wedi cau, mae'r proseswyr wedi cau ac mae'r masnachwyr wedi stopio prynu, a does 'na ddim llawer o obaith ar y gorwel chwaith o bethau yn gwella yn y misoedd i ddod."

Hyd yn oed cyn i'r feirws daro'r diwydiant doedd Sion Williams ddim wedi gallu mynd allan i bysgota fawr ddim ers y Nadolig oherwydd y stormydd a'r gwyntoedd cryfion.

Roedd wedi gobeithio y byddai'n gallu gwneud yn iawn am rywfaint o'r golled honno nawr bod y tywydd yn gwella.

"Does yna ddim arian yn dod i mewn," meddai.

"Mae gen i bobl sy' arnyn nhw arian i mi cyn hyn ac maen nhw methu talu ac mae biliau yn dod i mewn 'run peth.

"Rydan ni hefyd fel diwydiant wedi bod yn paratoi ein hoffer a chynllunio ymlaen, ac mae gen i beiriannau newydd i'r cwch i fod i gyrraedd ym mis Mai.

"Mae'r pysgotwyr i gyd yn yr un sefyllfa a fi, gwario lot yn y gaeaf yn barod at yr haf a rŵan biliau mawr a dim arian yn dod i mewn i dalu amdanyn nhw."

Cymorth

Ddydd Mawrth fe gyhoeddodd Canghellor y DU, Rishi Sunak gynlluniau i roi grant o hyd at £2,500 y mis i weithwyr hunangyflogedig.

Mae Llywodraeth y DU yn rhagweld y bydd hyn yn amddiffyn 95% o bobl hunan-gyflogedig.

Mae Mr Williams yn dadlau fod y diwydiant pysgota yn wahanol i ddiwydiannau eraill ac felly angen cymorth arbenigol.

"'Dan ni isio cymorth ariannol ar frys i sicrhau'r pysgotwyr ac mae rhaid cysidro fod gan nifer o'r pysgotwyr griw yn gweithio iddyn nhw," meddai.

"Rhaid cofio bod yna bobl eraill yn ddibynnol arnon ni hefyd a rhaid eu cefnogi nhw, neu pan fydd pethau'n gwella bydd y rhwydwaith sy'n ein cefnogi ni fel diwydiant ddim yn bodoli."