Gorchymyn gwasgaru wedi ymddygiad treisgar Pwllheli
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi cyhoeddi y bydd gorchymyn gwasgaru mewn grym ym Mhwllheli dros y penwythnos.
Daeth y gorchymyn i rym am 14:00 ddydd Gwener, ac fe fydd yn bodoli am 48 awr.
Cafodd y penderfyniad i gyhoeddi'r gorchymyn ei wneud yn dilyn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol a thrais ymysg rhai o bobl ifanc y dref yn ddiweddar.
Mae fideo o tua 15 o ferched ifanc yn ymladd ger gorsaf fysiau'r dref, wedi ymddangos ar wefannau cymdeithasol, ac mae wedi dod i'r amlwg fod yna ddigwyddiadau eraill wedi bod yn y dref yn ystod yr wythnosau diwethaf hefyd.
Dywedodd Maer Pwllheli y Cynghorydd Eric Roberts fod y lluniau ar y fideo yn ei dristau gan fod y digwyddiad wedi dod yng nghanol cyfnod mor bryderus i lawer.
Apeliodd ar drigolion y dref i gadw at ganllawiau Covid a'r rheolau am ymgasglu.
Dywedodd ei fod yn croesawu ymyrraeth yr heddlu ac yn gobeithio y bydd pawb yn parchu'r gorchymyn: "Mae'n bwysig ein bod i gyd yn gwneud ein rhan yn enwedig yn y dyddiau yma, a dwi'n apelio yn ddirfawr ar i bawb gydymffurfio hefo'r rheolau ar ymgynnull."
Dywed yr heddlu y bydd yn rhaid i unrhyw un sy'n cael gorchymyn i adael yr ardal benodol gan heddwas wneud hynny ac fe fydd dychwelyd i'r ardal yn gallu arwain at arestio unigolion.
Dywedodd yr Arolygydd Rhanbarthol Lisa Jones o Heddlu'r Gogledd: "Rydym wedi ymrwymo i sicrhau nad yw gweithredoedd lleiafrif afreolus yn effeithio ar ein cymuned, ac ni fyddwn yn goddef ymddygiad sy'n dod â thrallod i'n preswylwyr.
"Mae hwn yn un o nifer o fesurau sydd ar gael inni, a bydd ein swyddogion yn patrolio yn yr ardal trwy gydol y cyfnod gwasgaru.
"Hoffwn ddiolch i'r gymuned leol am eich cefnogaeth barhaus."