Ymchwiliad cyhoeddus i gynllun tyrbinau llanw Ynys Lawd
- Cyhoeddwyd
Bydd ymchwiliad cyhoeddus yn dechrau ddydd Mawrth i gynllun ynni llanw ger Ynys Môn, allai ddatblygu i fod ymhlith y mwyaf o'i fath yn y byd.
Mae Menter Môn, sy'n gyfrifol am brosiect Morlais, yn dweud y gallai greu 160 o swyddi yn lleol, yn ogystal â chreu ynni dibynadwy carbon isel.
Ei gobaith ydy datblygu safle 35 cilomedr sgwâr o'r môr ger Ynys Lawd, gan osod hyd at 625 o dyrbinau yn y dŵr.
Ond mae rhai mudiadau cadwriaethol yn poeni am yr effaith posib ar fywyd gwyllt a maint y datblygiad ei hun.
Lliwio'r tyrbinau
"Mae o fel pwll glo lle tydi'r glo byth yn rhedeg allan," meddai Gerallt Llewelyn Jones o Fenter Môn.
"'Da ni'n bwriadu datblygu 100 megawat erbyn 2030, a bydd hynny'n cynhyrchu 100 o swyddi tymor hir. A bydd hefyd yn creu'r cyfle i gael 60 arall yn y gadwyn gyflenwi."
Bydd y trydan yn cael ei gynhyrchu gan gyfres o dyrbinau llanw, wedi'u lleoli o dan y môr, sy'n defnyddio egni'r llanw i gynhyrchu trydan.
Mae Mr Jones yn cydnabod y bydd rhywfaint o effaith gweledol, gyda rhannau o'r tyrbinau fyddai hyd at chwe medr o uchder, yn nofio ar wyneb y môr.
Ond mae'n dweud y byddan nhw'n defnyddio lliwiau fydd yn lleihau'r effaith.
Ond mae Cymdeithas Gwarchod Adar yr RSPB yn bryderus, yn sgil adroddiad sy'n awgrymu y gallai'r tyrbinau arwain at farwolaeth miloedd o adar môr sy'n nythu yn yr ardal.
"Mae Ynys Lawd yn bwysig i Gymru fel safle i adar môr - mae o'n le anhygoel," meddai Alun Pritchard o'r RSPB.
"Mae nifer o'r adar yma'n plymio am eu bwyd, a dyna pryd fyddan nhw'n hitio'r tyrbeins."
Mae Tom Roberts, sydd â busnes ger y safle ac sydd hefyd yn aelod o Grŵp Treftadaeth Ynys Lawd, hefyd yn bryderus.
"Yr hyn maen nhw'n gwneud cais amdano mewn gwirionedd yw diwydiannu'r morlun hardd hwn o'n cwmpas yma," meddai.
"Mae gwir angen ynni glân - dwi'n cytuno 100% - ond yr hyn 'da ni ddim ei angen yw colli ein lleoedd gwyllt a'n bioamrywiaeth."
Mae Menter Môn yn mynnu bod pob cam yn cael ei gymryd i gyfyngu ar yr effaith weledol, ac y bydd y datblygiad llawn yn digwydd yn raddol, fel bod modd asesu a gweithredu ar unrhyw effaith amgylcheddol.
"Rydyn ni wedi treulio llawer o amser ac wedi rhoi llawer o ymdrech i sicrhau bod ceblau yn cael eu claddu, yn hytrach na bod peilonau'n cael eu codi," meddai Gerallt Llewelyn Jones.
"Mae'r is-orsafoedd ar ddau ben y broses hon wedi'u cynllunio'n ofalus iawn ac wedi'u gosod yn ofalus iawn.
"Bydd rhywfaint o effaith weledol ar y morlun, ond ein cred yw na fydd hynny'n tarfu mewn unrhyw ffordd yn yr ardal hon."
Mae Mr Jones hefyd yn anghytuno â honiadau eu bod yn bwrw ymlaen â'r cynllun er gwaethaf gwybod y gallai gael effaith ddifrifol ar fywyd gwyllt.
'Menter gymdeithasol'
Dywed aelod Ynys Môn o'r Senedd, Rhun ap Iorwerth, ei fod yn gwerthfawrogi'r pryderon sy'n cael eu codi ond ei fod yn credu bod cynllun Morlais yn gyfle rhy dda i Ynys Môn ei golli.
"Mae'n ddealladwy ac yn bwysig iawn bod cwestiynau'n cael eu gofyn am effaith weledol, ac am yr effaith amgylcheddol," meddai.
"Rwy'n hapus, o'r hyn rydw i wedi'i weld, mai cynllun defnyddio a monitro yw hwn, lle gellir ymchwilio i unrhyw effeithiau wrth i chi fynd ymlaen, a bod y gwaith wedi'i wneud hyd yn hyn i fesur unrhyw effaith bosib.
"Ond rwy'n credu bod hwn yn rhywbeth y gallwn ni i gyd ei gefnogi oherwydd ei fod yn brosiect ein hunain.
"Mae hwn yn brosiect Ynys Môn - menter gymdeithasol sydd, o'i wneud yn dda fel y credaf y gellir ei wneud, yn rhywbeth y gallwn ni ei ddathlu yma mewn gwirionedd."
Mae disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniad terfynol ar y cynllun y flwyddyn nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2020
- Cyhoeddwyd15 Medi 2020
- Cyhoeddwyd26 Awst 2019