Bylchau cyfathrebu'n risg i'r byddar mewn argyfwng

  • Cyhoeddwyd
Iaith arwyddionFfynhonnell y llun, Thinkstock

Gall prinder gwasanaeth dehongli iaith arwyddion o fewn y maes iechyd yng Nghymru beryglu iechyd pobl fyddar mewn argyfwng, yn ôl arbenigwyr ieithyddiaeth.

Dyna un o ganfyddiadau adolygiad gan Brifysgol Bangor ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar sail profiadau pobl fyddar yng Nghymru sy'n cyfathrebu trwy Iaith Arwyddion Prydain (BSL).

Mae'r trefnwyr yn galw am "gynnydd sylweddol" yn nifer y dehonglwyr BSL o fewn y sector iechyd, "yn enwedig mewn gosodiadau brys".

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cais am ymateb.

'Iaith anghyfarwydd'

Cafodd yr adolygiad ei gynnal gan Dr Christopher Shank a Dr Anouschka Foltz, sydd erbyn hyn ym Mhrifysgol Graz yn Awstria.

Mewn sefyllfa argyfyngus, medd eu hadroddiad, mae pobl fyddar sydd â BSL yn iaith gyntaf "yn aml yn cael eu hunain yn methu â chyfathrebu'n iawn, naill ai wyneb yn wyneb neu trwy'r system negeseuon testun 999".

"Mae hyn yn rhoi eu hiechyd mewn perygl, ac yn peryglu eu gallu i ddod drwyddi," meddai.

Dywedodd Dr Shank: "Mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at sut y gofynnir dro ar ôl tro i bobl fyddar mewn sefyllfa ddifrifol, megis defnyddio system destun 999, anfon neges destun neu gyfleu disgrifiadau meddygol manwl yn Saesneg, sy'n aml yn iaith anghyfarwydd iddynt.

"Yn aml gofynnir iddynt fod yn fanwl gywir neu ddefnyddio geirfa nad oes ganddynt."

Dywed yr adroddiad fod "diffyg dehonglwyr sydd ar gael ar gyfer apwyntiadau iechyd yn aml yn arwain at aelodau o'r gymuned fyddar yn profi canlyniadau iechyd gwaeth na phobl eraill, a gall hyn arwain at fwy o argyfyngau iechyd".

Maen nhw'n awgrymu hefyd y byddai gwella'r mynediad at wasanaethau yn sicrhau arbedion posibl i'r GIG yn y pen draw, yn ogystal â chael gwared ar anghydraddoldebau.

Ychwanegodd Dr Foltz fod wynebu rhwystrau "dro ar ôl tro" yn gadael ei ôl ar gleifion byddar.

"Mae'r ffaith eu bod yn blino ac yn cael llond bol ar y rhwystrau sy'n deillio o hyn yn gallu arwain at ddisgwyliadau isel a phryder wrth orfod meddwl am gysylltu â'r gwasanaeth," meddai.

"Ni fyddai'r rhwystrau hynny'n bodoli pe bai'r holl wasanaethau gofal iechyd yn cael eu darparu yn BSL naill ai trwy ddehonglwr neu staff sy'n gallu arwyddo."

Dim statws cyfreithiol

Does dim ffigyrau swyddogol, ond awgrymodd ymchwil o fewn y ddwy flynedd ddiwethaf bod rhwng 1,000 a 4,000 o bobl fyddar yn byw yng Nghymru.

"Er mai hi yw unig iaith llawer yn y gymuned Fyddar yng Nghymru, nid oes gan BSL statws cyfreithiol fel iaith," yn ôl Michelle Fowler-Powe o Gymdeithas y Byddar Prydain.

"Disgrifir BSL fel cefnogaeth â chyfathrebu yng nghanllawiau GIG Cymru, tra dylai mewn gwirionedd dderbyn yr un statws â'r Gymraeg fel 'elfen graidd gofal, nid ychwanegiad dewisol'."

Ffynhonnell y llun, AlexRaths/Getty Images

Dywedodd Louise McGrath o'r corff ymbarél Wales Council for Deaf People fod safon y gofal i bobl fyddar sy'n cyfathrebu trwy BSL "yn cael ei effeithio'n fawr oherwydd bod hyn yn cael ei ystyried fel angen meddygol".

Yn hytrach, meddai, "mae'n hawl iaith ddiwylliannol ac ieithyddol, heb sôn am hawl ddynol i gyfathrebu yn BSL".

"Hyd nes bod gan BSL hawliau cyfartal, fel sydd gan y Gymraeg yma yng Nghymru, rydym yn ofni y bydd newidiadau yn araf," meddai.

Ychwanegodd y byddai cryfhau statws cyfreithiol BSL yn golygu "ni fydd pobl yn cael eu gwthio i'r cyrion lle mae eu hiechyd dan sylw, a byddent yn gallu cael statws cyfartal i'w gofal eu hunain".

Pynciau cysylltiedig