Caniatáu teithio rhwng Cymru a haenau isaf Lloegr a'r Alban

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Teithio

Fe fydd pobl yn cael teithio rhwng Cymru a rhannau o Loegr a'r Alban, yn ôl rheolau newydd Llywodraeth Cymru.

Dim ond teithio hanfodol dros y ffin oedd yn cael ei ganiatáu pan ddaeth y clo byr i ben ar 9 Tachwedd.

Mae'r Alban a Lloegr bellach dan systemau cyfyngiadau sy'n cael eu trefnu i haenau.

Dan y rheolau newydd mae hawl i bobl deithio rhwng Cymru a'r ardaloedd gyda'r cyfyngiadau lleiaf llym:

  • Haen 1 a 2 yn Lloegr,

  • Lefelau 1 a 2 yn Yr Alban.

Ni fydd teithiau i ardaloedd dan y cyfyngiadau uchaf yn y ddwy wlad, fel Manceinion neu Glasgow, yn cael eu caniatáu.

Nid yw teithio i Ogledd Iwerddon yn cael ei ganiatáu chwaith.

Bydd y rheolau'n dod i rym am 18:00 ddydd Gwener.

Daeth cyfnod clo diweddaraf Lloegr i ben ar 2 Rhagfyr, ac mae rhannau mawr o'r wlad yn Haen 3, gan gynnwys dinasoedd fel Bryste a Birmingham.

Ond mae ardaloedd fel Llundain a Lerpwl yn Haen 2.

Yn Yr Alban mae dinasoedd fel Caeredin a Glasgow yn y lefelau uchaf o gyfyngiadau.

Yn bellach i'r gogledd, mae Aberdeen ymhlith y dinasoedd sydd â llai o gyfyngiadau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfyngiadau newydd ar dafarndai a bwytai hefyd yn dod i rym ddydd Gwener

"Ni fydd unrhyw gyfyngiadau ar deithio o fewn Cymru ond bydd rhaid inni osod rhai cyfyngiadau ar deithio ar draws ffiniau i'r rhannau hynny o'r DU lle mae cyfraddau heintio yn uchel, er mwyn atal lledaeniad coronafeirws," meddai'r Prif Weinidog Mark Drakeford.

"Rydym hefyd yn cynghori pobl yng Nghymru i beidio â theithio i'r rhannau o Loegr a'r Alban lle mae'r gyfradd heintio yn is, i helpu i'w hatal rhag mynd â coronafeirws gyda nhw.

"Nid yw coronafeirws yn parchu ffiniau - mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i ddiogelu Cymru a'r DU.

"Meddyliwch yn ofalus am lle rydych chi'n mynd a beth rydych chi'n ei wneud. Mae'r feirws yn ffynnu pan fyddwn ni'n ymgynnull â phobl eraill."

Pa reolau eraill sy'n dod i rym?

Ymysg y rheolau eraill fydd yn dod i rym am 18:00 ddydd Gwener mae cyfyngiadau newydd ar dafarndai, bwytai a chaffis.

Bydd yn rhaid i'r lleoliadau hynny gan am 18:00 pob nos, ac ni fydd hawl ganddynt i werthu alcohol.

Dydy Llywodraeth Cymru ddim wedi datgan pryd y maen nhw'n rhagweld y bydd y rheolau hynny yn cael eu llacio.

Dywedodd y llywodraeth bod y cyfyngiadau newydd yn ymateb i'r nifer cynyddol o achosion Covid-19 yng Nghymru.

Ond bydd hawl gan hyd at dri chartref i gwrdd dan do am hyd at bum diwrnod rhwng 23 a 27 Rhagfyr wedi i bedair llywodraeth y DU gytuno ar y trefniadau.

Ffynhonnell y llun, The Boat Inn / Facebook
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd perchennog The Boat Inn yng Nghas-gwent bod y rheolau yn "jôc"

Dywedodd llefarydd coronafeirws y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar bod y newyddion ar deithio i'w groesawu, ond y byddai'n ergyd bellach i ddiwydiant lletygarwch Cymru.

"Tra bod tafarndai, caffis a bwytai Cymru yn cael eu gwahardd rhag gwerthu alcohol, bydd nifer o'u cwsmeriaid yn cymryd eu harian dros y ffin i fwynhau diod gyda'u pryd yno," meddai.

Dydy Mandy Symonds, sy'n berchen ar dafarn yng Nghas-gwent, ddim yn hapus am y rheolau newydd.

Dywedodd ei bod wedi penderfynu cau ar ôl sylweddoli bod modd i'w chwsmeriaid gerdded "20 eiliad i ffwrdd" a chael alcohol mewn tafarn dros y ffin, er nad ydy hi yn cael gweini alcohol.

"Mae'n jôc. Rwy'n teimlo fel ei fod e [Mark Drakeford] yn ceisio mynd â'n busnes i'r wal yn fwriadol," meddai.

"Fe ddylai'r rheolau fod yr un peth ar gyfer y wlad gyfan."

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhannau o faes gwersylla Broadstone Park yn Lloegr, a rhannau eraill yng Nghymru

Ond mae Jeff Revill, sy'n berchen ar faes gwersylla - ble mae hanner y safle yn Sir Gaerloyw a'r hanner arall yn Sir Fynwy - yn falch o weld y rheolau'n newid.

"Rwy'n gallu gweithredu gyda'r un rheolau ar ddwy ochr y ffin nawr," meddai.

"Gobeithio y bydd hyn yn helpu pethau i ddychwelyd i'r arfer, a gobeithio y gallwn gael rhagor o fusnes cyn y gwanwyn."