Canslo hysbyseb 'yn ergyd i'r diwydiant bwyd a diod'
- Cyhoeddwyd
Mae cynhyrchwyr diodydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid eu meddwl wedi iddyn nhw orchymyn peidio dangos hysbyseb teledu a fyddai yn hybu'r diwydiant bwyd a diod cyn y Nadolig.
Mewn e-bost a rannwyd i'r sector ddydd Iau, dywedodd swyddog o Lywodraeth Cymru y gallai'r ymgyrch "achosi peth dryswch" wedi i'r prif weinidog gyhoeddi ddechrau'r wythnos na fydd tafarndai a bwytai yn cael gweini alcohol o ddydd Gwener ymlaen.
Mae un perchennog gwinllan wedi dweud fod y cyfan yn "ergyd ddwbl" ac mae un arall yn dweud fod y penderfyniad yn "dorcalon" pellach.
Dywedodd llefarydd y bydd yr "ymgyrch yn parhau fel ag a gynlluniwyd ond drwy ddigwyddiadau rhithiol, hybu digidol a thrwy'r wefan."
Mae Llywodraeth Cymru yn hybu'r diwydiant diodydd ar hyn o bryd drwy'r ymgyrch Dathlwch y Nadolig gyda Diodydd Cymru, dolen allanol.
Wrth lansio'r ymgyrch dywedodd y Gwenidog Amgylchedd Lesley Griffiths AS: "Yn wyneb nifer o heriau yn ystod yr amseroedd yma, mae'r ymgyrch yma yn gyfle i ni gyd gefnogi gwytnwch parhaol ein sector bwyd a diod."
Ymgyrch arall yn gynnar yn 2021
Mae BBC Cymru yn cael ar ddeall bod yr hysbyseb fod i ymddangos ar S4C, ITV a Sky o ddydd Gwener ymlaen.
Ond mewn e-bost a gafodd ei anfon i'r sector ddydd Iau, dywed swyddog o Lywodraeth Cymru: "Yn wyneb cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth Cymru am gau rhannau o'r sector ry'n wedi ail-edrych ar hysbyseb yr ymgyrch Dathlwch y Nadolig gyda Diodydd Cymru.
"Roedd yna deimlad y gallai'r hysbyseb teledu beri peth dryswch yn sgil cyhoeddiad Llywodraeth Cymru.
"Felly ry'n ni wedi penderfynu peidio hysbysebu ar y teledu am y tro ond yn hytrach canolbwyntio ein holl ymdrechion ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Mae misoedd cyntaf y flwyddyn yn draddodiadol yn dawel i nifer o gynhyrchwyr diodydd ac wrth feddwl am hynny ry'n yn credu y dylid cynllunio ar gyfer ymgyrch arall yn gynnar yn 2021."
Dywed Richard Wyn Huws sy'n berchen ar winllan Pant Du yn Nyffryn Nantlle bod y gweithwyr oll "mor gyffrous am yr hysbyseb teledu gan nad yw hyn wedi digwydd o'r blaen i hybu cynhyrchwyr diodydd bychain."
Mae cwmni Mr Huws yn cynhyrchu gwin, seidr, sudd afal a dŵr ac ychwanegodd "bod hyn yn gyfle gwych i gystadlu gyda brandiau mawr ar draws y DU ac i hybu busnesau Cymreig.
"Ry'n wedi cael ein taro'n galed gyda'r cyhoeddiad diweddaraf. Rwy'n teimlo bod y llywodraeth wedi cael hyn i gyd yn anghywir.
"Dwi wedi cefnogi'r llywodraeth ymhob penderfyniad ond rŵan dwi'n teimlo bod angen iddyn nhw newid meddwl ynglŷn a'r penderfyniad diweddaraf," meddai Mr Huws.
'Canslo'r hysbyseb yn ergyd'
Dywed Richard a Siw Evans sy'n berchen ar winllan Llaethliw ger Aberaeron: "Fel gwinllan sydd wedi dioddef yn ystod y cyfnod clo roeddwn i'n croesawu yr ymgyrch deledu - roedd yn olau ar ddiwedd twnnel tywyll iawn.
"Mae canslo'r hysbyseb yn ergyd ac yn dorcalon i ni."
Dywed Llyr Gruffydd, llefarydd Plaid Cymru ar yr amgylchedd a materion gwledig: "Wrth ystyried yr anawsterau y mae'r sector wedi eu hwynebu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r penderfyniad munud olaf i beidio dangos yr hysbyseb yn ddinistriol.
"Mae e hefyd braidd yn ddryslyd gan bod cynhyrchwyr wedi cael eu hannog i rannu yr un hysbyseb ar y cyfryngau cymdeithasol.
"Fy nealltwriaeth i yw bod pum eiliad o'r hysbyseb yn dangos pobl yn yfed mewn tafarn ac felly doedd Llywodraeth Cymru ddim am anfon negeseuon cymysg i bobl.
"Yn gyntaf dylent fod wedi meddwl eto am eu penderfyniad i gau tafarndai, i bob pwrpas, dros y Nadolig ond yna ail dylid fod wedi gallu golygu'r hysbyseb.
"Dyw e wir ddim yn gymhleth ond mae Llywodraeth Cymru fel petaent yn benderfynol o ddadwneud unrhyw waith da y maent wedi ei wneud i helpu y diwydiant bwyd a diod."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Does dim arian wedi'i golli gan na chafodd gofod hysbysebu ei archebu. Bydd yr ymgyrch yn parhau drwy ddigwyddiadau rhithiol, hybu digidol a thrwy'r wefan."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Awst 2020
- Cyhoeddwyd15 Awst 2020