Covid-19: Gohirio BlasCymru a'i gynnal fel rhith-ddigwyddiad

  • Cyhoeddwyd
Halen môr, gwin, cig oenFfynhonnell y llun, Halen Mon/Getty Images/BBC
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o fwydydd a diodydd mwyaf adnabyddus Cymru

Mae arddangosfa ryngwladol o fwyd a diod Cymru, BlasCymru, yn cael ei gohirio y flwyddyn nesaf oherwydd y pandemig coronafeirws.

Roedd y trydydd digwyddiad o'i fath, a sefydlwyd yn 2017, i fod i gael ei gynnal ym mis Mawrth 2021.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ei symud i fis Hydref, a bydd yn cael ei gynnal gyda 50% o bresenoldeb corfforol a 50% fel rhith-ddigwyddiad.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y symud yn angenrheidiol "yng ngoleuni'r pandemig parhaus".

Roedd i fod i ddigwydd ar 10 ac 11 Mawrth 2021 yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd, ond mae wedi'i ohirio gan Weinidog yr Amgylchedd Lesley Griffiths tan yr wythnos yn dechrau 25 Hydref 2021.

'Tu hwnt o anodd trefnu mis Mawrth'

Cafodd busnesau bwyd a diod o Gymru werth £16m o gontractau newydd yn ffair gyntaf BlasCymru yn 2017.

Yn yr ail ddigwyddiad yn 2019, fe wnaeth dros 100 o gynhyrchwyr bwyd a diod o Gymru gwrdd â thros 150 o brynwyr - traean ohonyn nhw o rannau eraill y byd, ledled Ewrop, Gogledd America, y Dwyrain Canol a'r Dwyrain Pell - yn y Celtic Manor, Casnewydd.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr cwmni bwyd Blas ar Fwyd, Deiniol ap Dafydd, wrth BBC Cymru ei fod yn ddigwyddiad "y gall Cymru fod yn falch iawn ohono, wrth iddo sefydlu diwydiant bwyd a diod Cymru ar lwyfan byd-eang".

Ychwanegodd: "Byddai wedi bod tu hwnt o anodd i drefnu'r digwyddiad ym mis Mawrth gyda chymaint o ansicrwydd ynghylch coronafeirws.

"Ond yn y cylchoedd rydw i'n troi ynddynt rydyn ni'n paratoi i Covid-19 fod gyda ni am o leiaf ddau aeaf."

Ar hyn o bryd, disgwylir i'r Digwyddiad Bwyd a Diod Rhyngwladol (IFE) - y mwyaf o'i fath yn y DU - barhau rhwng 22-24 Mawrth 2021 yn Llundain.

Ffynhonnell y llun, HCC
Disgrifiad o’r llun,

Cynnyrch Cymreig, o win a seidr i gig a ffrwythau

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae Covid-19 wedi effeithio'n sylweddol ar ddigwyddiadau masnach gorfforol ledled y byd gyda rhai yn cael eu canslo, eraill wedi'u gohirio a rhai yn symud i ddigwyddiad rhithwir.

"Yng ngoleuni'r pandemig parhaus, rydym wedi penderfynu gohirio BlasCymru ychydig fisoedd tan yn ddiweddarach y flwyddyn nesaf a bydd mewn fformat digwyddiad corfforol a rhithwir."

Ychwanegodd y llefarydd: "Mae BlasCymru wedi bod yn ddigwyddiad blaenllaw i ddiwydiant bwyd a diod Cymru ers yr un agoriadol yn 2017 gan ddenu cynhyrchwyr a phrynwyr o bob cwr o'r byd.

"Rydym yn parhau i ddarparu cefnogaeth sylweddol i fusnesau bwyd i dyfu eu busnesau a datblygu marchnadoedd newydd.

"Ynghyd â Bwrdd Bwyd a Diod Cymru, gwnaethom gyhoeddi cyfres o gamau blaenoriaeth yn ddiweddar i gefnogi adferiad y sector bwyd a diod o Covid-19, gan gynnwys cynnal presenoldeb masnach fyd-eang trwy ymgysylltu a datblygu masnach rithwir. "

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol