Dyn wedi marw mewn tân yn Llangollen

  • Cyhoeddwyd
llangollenFfynhonnell y llun, Phil Robinson @llanblogger

Mae dyn yn ei 70au wedi marw yn dilyn tân mewn tŷ yn Llangollen.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r eiddo wedi adroddiadau am dân ar Ffordd y Capel am 20:42 nos Iau, 3 Rhagfyr.

Daeth diffoddwyr o Langollen, Y Waun, Johnstown, Corwen a Wrecsam i'r safle, gan lwyddo i gael mynediad i'r eiddo gyda chymorth offer anadlu arbennig.

Roedd rhaid iddyn nhw ddiffodd fflamau wrth chwilio'r eiddo, ac fe ddaeth y criwiau o hyd i berson yn y tŷ ond bu farw yn ddiweddarach.

Mae ymchwiliad ar y cyd i achos y tân yn cael ei gynnal gan Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a Heddlu Gogledd Cymru.

Ffynhonnell y llun, Phil Robinson @llanblogger