Y Gynghrair Genedlaethol: Torquay 3-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Roedd munudau cyntaf gem Wrecsam yn Torquay yn llawn cynnwrf - Ben Whitfield yn sgorio i'r tîm cartref - sydd ar frig y Gynghrair Genedlaethol - ar ôl pum munud cyn i Asa Hall ychwanegu ail i Torquay drwy gic o'r smotyn ddeuddeg munud yn ddiweddarach.
Yna Wrecsam yn taro nôl bron yn syth drwy Theo Vassell.
Dylai Torquay fod wedi sgorio sawl gwaith yn yr hanner cyntaf ond dwy gôl i un oedd hi ar hanner amser.
Roedd pwysau parhaus Torquay yn ormod i Wrecsam ac ar ôl 74 munud daeth gôl arall i'r tîm cartref a Connor Lemonheigh-Evans yn sgorio.
Er gwaethaf eu hyder newydd roedd ymweld â Thorquay yn ormod i'r Dreigiau ac mae nhw bellach yn ddegfed yn y tabl.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2020