Rhybudd i bobl ardal Aberystwyth i ddilyn canllawiau
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Ceredigion yn rhybuddio pobl ardal Aberystwyth i ddilyn canllawiau Covid wedi mwy o achosion.
Dywed y Cyngor bod nifer yr achosion o coronafeirws wedi cynyddu'n sylweddol yn yr ardal dros y pum niwrnod diwethaf.
'Nifer achosion yn uwch'
"Nid yw nifer yr achosion cadarnhaol ar draws y sir erioed wedi bod mor uchel ac mae'r cynnydd yn dangos pa mor hawdd y gall y feirws ledaenu.
"Y gyfradd bresennol yng Ngheredigion yw 154.1 fesul 100,000 o'r boblogaeth," medd llefarydd.

Bu Ysgol Uwchradd Aberteifi a nifer o ysgolion lleol eraill ar gau am bythefnos
Ddydd Gwener cyhoeddodd y cyngor y bydd ysgolion ardal Aberteifi yn ailagor ddydd Llun wedi i nifer yr achosion o coronafeirws yn y cyffiniau ostwng yn sylweddol dros y dyddiau diwethaf.
Ychwanegodd llefarydd: "Mae tystiolaeth wedi dangos, pan fydd cymunedau'n dod at ei gilydd ac yn dilyn canllawiau'r coronafeirws, y gellir arafu cyfradd a lledaeniad y feirws.
"Roedd hyn yn amlwg i'w weld yn ardal Aberteifi ac rydym bellach yn gofyn i drigolion yn ardal Aberystwyth i wneud yr un peth.
"Mae'r grŵp oedran amlycaf ar hyn o bryd i brofi'n bositif yn ardal Aberystwyth ymhlith pobl yn eu 20au.
"Ceir enghreifftiau lle maent wedi cael sawl cyswllt cymdeithasol mewn gwahanol leoliadau. Mae'r rhain yn cynnwys cysylltiadau yn y gwaith ac yna cwrdd â gwahanol grwpiau o bobl mewn lleoliadau cymdeithasol.
"Rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n anodd cyfyngu ar nifer y bobl rydyn ni'n eu gweld, ond mae cyfyngu eich cysylltiadau yn hanfodol er mwyn cadw nifer y bobl sydd â'r feirws i lawr a dyma sut y byddwn yn amddiffyn ein hanwyliaid yn y pen draw."
Sawl hysbysiad rheoliadau
Dywed Cyngor Ceredigion bod Swyddogion Diogelu'r Cyhoedd yn gweithio gyda chydweithwyr yn Heddlu Dyfed-Powys i sicrhau bod busnesau'n cydymffurfio â'r rheoliadau ac maent yn dweud eu bod wedi cyflwyno sawl hysbysiad dros yr wythnosau diwethaf lle mae angen gwella.
Mae yna rybudd bod yn rhaid i unrhyw un â symptomau, waeth pa mor fach, ddilyn canllawiau hunan-ynysu a threfnu prawf ar unwaith, gan adael y cartref dim ond i gael eich profi.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2020