Ysgolion a gwasanaethau i ailagor yn ardal Aberteifi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Ysgol AbertefiFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bu Ysgol Uwchradd Aberteifi a nifer o ysgolion lleol eraill ar gau am bythefnos

Bydd ysgolion ardal Aberteifi'n ailagor ddydd Llun wedi i nifer yr achosion coronafeirws yn y cyffiniau ostwng yn sylweddol dros y dyddiau diwethaf.

Penderfynodd Cyngor Ceredigion i gau'r ysgolion ac atal rhai gwasanaethau eraill am bythefnos wedi pryder ynghylch y cynnydd yn nifer achosion positif yn lleol.

Dywed y cyngor fod "cymorth, cydymffurfiaeth a chydweithrediad rhagorol trigolion Aberteifi dros y bythefnos ddiwethaf wedi lleihau lledaeniad y feirws yn y gymuned yn llwyddiannus, a hynny i lefel y gellir ei rheoli".

Bydd Parth Diogel Aberteifi hefyd yn dod i ben am 16:30 ddydd Sadwrn, 5 Rhagfyr, gan olygu y bydd ffyrdd unwaith eto ar agor yng nghanol y dref.

Mae'r awdurdod yn hyderus fod y data diweddaraf yn cyfiawnhau agor yr ysgolion canlynol ddydd Llun, 7 Rhagfyr i ddisgyblion a staff:

  • Ysgol Uwchradd Aberteifi

  • Ysgol Gynradd Aberteifi

  • Ysgol Gynradd Penparc

  • Ysgol Gynradd Aberporth

  • Ysgol Gynradd Llechryd

  • Ysgol Gynradd Cenarth; ac

  • Ysgol Gynradd T Llew Jones.

Bydd meithrinfeydd Dechrau'n Deg yn ailagor hefyd yn Aberteifi ac Aberporth o ddydd Llun.

Bydd Llyfrgell Aberteifi yn ailddechrau gwasanaeth clicio a chasglu, a bydd gwasanaeth llyfrgell deithiol yr ardal yn ailddechrau ddydd Mawrth.

Bydd yn rhaid talu unwaith yn rhagor i ddefnyddio meysydd parcio'r cyngor o 7 Rhagfyr.

Mae'r cyngor yn rhybuddio yn bod angen i bawb barhau i ddilyn y rheolau iechyd sylfaenol gan fod nifer yr achosion positif yn parhau i gynyddu ar draws y sir.