Ffigyrau'n dangos 218 yn rhagor o farwolaethau Covid-19
- Cyhoeddwyd
Roedd 218 o farwolaethau yn ymwneud â Covid-19 yn yr wythnos a ddaeth i ben ar 27 Tachwedd, yn ôl y ffigurau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG).
Mae hyn bump yn llai o farwolaethau nag a gofrestrwyd yn ystod yr wythnos flaenorol, a oedd wedi bod yr uchaf ers dechrau mis Mai.
Roedd y nifer fwyaf o farwolaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg - 62 - gyda 43 o'r rhain yn yr ysbyty.
Mae marwolaethau ar y cyfan bron 25% yn uwch na'r hyn y byddem fel arfer yn disgwyl ei weld yr adeg hon o'r flwyddyn.
Bu 44 o farwolaethau hefyd yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan (ar draws pob lleoliad), 39 marwolaeth ym Mae Abertawe (y nifer uchaf ers dechrau mis Mai), 23 yn Betsi Cadwaladr a 21 yng Nghaerdydd a'r Fro.
Bu 16 marwolaeth yn Hywel Dda a 13 marwolaeth yn ymwneud â thrigolion Powys, y nifer uchaf ers dechrau mis Mai. Roedd 10 o'r rhain yn yr ysbyty.
Roedd 31 o farwolaethau yn ymwneud â Covid a gofrestrwyd yn Rhondda Cynon Taf (RhCT), yn 13eg yn yr 20 ardal awdurdod lleol uchaf ledled Cymru a Lloegr am yr wythnos.
Roedd Castell-nedd Port Talbot gyda 26 marwolaeth yn 19eg. Daw ar ôl i swyddogion iechyd rybuddio y gallai heintiau yn yr ardal gyrraedd "lefelau trychinebus yn fuan."
Cyfanswm y marwolaethau Covid yng Nghymru hyd at ac a gofrestrwyd erbyn 27 Tachwedd oedd 3,682 o farwolaethau.
Cartrefi gofal
Pan fydd marwolaethau a gofrestrwyd dros yr ychydig ddyddiau canlynol yn cael eu cyfrif, mae cyfanswm o 3,767 o farwolaethau yn digwydd hyd at 27 Tachwedd.
Mae marwolaethau gormodol fel y'u gelwir, sy'n cymharu pob marwolaeth gofrestredig â blynyddoedd blaenorol, yn uwch na'r cyfartaledd pum mlynedd.
Mae edrych ar nifer y marwolaethau y byddem fel arfer yn disgwyl eu gweld ar yr adeg hon o'r flwyddyn yn cael ei ystyried yn fesur defnyddiol o sut mae'r pandemig yn dod yn ei flaen.
Yng Nghymru, gostyngodd nifer y marwolaethau o 848 i 797 yn ystod yr wythnos ddiweddaraf, a oedd 151 o farwolaethau yn uwch na'r cyfartaledd pum mlynedd ar gyfer yr wythnos honno.
Dangosodd ffigurau'r SYG hefyd:
Roedd 58 o farwolaethau cartrefi gofal yng Nghymru lle soniwyd am Covid-19 ar y dystysgrif marwolaeth yng nghyfanswm wythnosol diweddaraf yr SYG yng Nghymru, yr un fath â'r wythnos diwethaf. Y cyfanswm hwnnw oedd y nifer uchaf ers canol mis Mai;
Roedd 15 o'r marwolaethau mewn cartrefi gofal yn RhCT, 10 yn Nedd Port Talbot a saith yng Nghaerffili;
RhCT, gyda 537 o farwolaethau, sydd â'r nifer fwyaf o farwolaethau Covid-19 yng Nghymru. Mae Caerdydd wedi cael 464 hyd at yr wythnos ddiweddaraf;
Cyfradd marwolaeth RhCT Covid-19 yw 223.6 marwolaeth fesul 100,000 o bobl - yr ail gyfradd uchaf sy'n cynnwys Covid-19 ar draws yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr;
Erbyn hyn mae gan Ceredigion, a oedd ar un adeg yr ail isaf y tu ôl i Ynysoedd Syllan, y nawfed gyfradd marwolaeth isaf gyda 35.6 fesul 100,000. Mae Sir Benfro hefyd yn yr 20 isaf.
Mae'r SYG yn sôn am farwolaethau sy'n ymwneud â Covid-19 y sonnir amdanynt ar dystysgrifau marwolaeth, sy'n digwydd mewn ysbytai, cartrefi gofal, hosbisau a chartrefi pobl.
Mae'r rhain yn cynnwys marwolaethau lle mae'r feirws yn cael ei gadarnhau, neu ei amau, ond dadansoddiad SYG yw mai'r feirws yw'r achos sylfaenol, nid ffactor yn unig mewn tua 90% o farwolaethau Covid yng Nghymru.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd7 Rhagfyr 2020