31 marwolaeth a dros 2,000 o achosion Covid-19 newydd
- Cyhoeddwyd
Mae 31 o farwolaethau a 2,238 o achosion newydd o Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru o fewn y 24 awr ddiwethaf.
Yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae cyfanswm o 2,756 o farwolaethau yn gysylltiedig â Covid-19 wedi eu cofnodi yng Nghymru.
Hefyd mae 94,030 o achosion positif wedi'u cofnodi.
Roedd y nifer uchaf o achosion newydd yng Nghaerdydd - 332.
Roedd niferoedd uchel yn Rhondda Cynon Taf, 234, Casnewydd, 224, ac Abertawe, 211, hefyd.
Yng Nghastell-nedd Port Talbot mae'r gyfradd uchaf o achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth - 693.6. Cafodd 171 o achosion newydd eu cofnodi yn y sir yn y 24 awr ddiwethaf.
Mae'r gyfradd yn uchel ym Merthyr Tudful, 586.8, a Blaenau Gwent, 574, ac yn tua 500 yng Nghasnewydd a Chaerffili hefyd.
O'r marwolaethau, roedd naw yn ardal Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, saith yr un yn ardaloedd Aneurin Bevan a Hywel Dda, a phedair yr un yng Nghwm Taf Morgannwg a Bae Abertawe.
Cyngor i beidio â chymysgu ag unrhyw un y tu allan i'ch cartref wrth i lefelau Covid-19 gynyddu ymhob sir ond un yng Nghymru
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2020