Dileu trwydded Mansel Davies am ddiwylliant 'gwenwynig'

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys Mansel Davies yn LlanfyrnachFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cwmni Mansel Davies yw'r cludwr llaeth mwyaf yng Nghymru, yn casglu o 450 o ffermydd

Mae un o gwmnïoedd cludiant mwyaf Cymru, Mansel Davies, wedi colli ei drwydded gweithredwr.

Roedd y cwmni wedi pledio'n euog i gyfres o gyhuddiadau'n ymwneud â ffugio cofnodion cynnal a chadw cerbydau nwyddau.

Yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus fe benderfynodd y Comisiynydd Trafnidiaeth fod y cwmni wedi ei "lygru'n anorchfygol" oherwydd ei fod wedi ffugio cofnodion ac yn "haeddu mynd allan o fusnes".

Ym mis Chwefror 2020, cafodd Jonathan Wyn Phillips, un o weithwyr y cwmni, ddedfryd o naw mis o garchar wedi ei gohirio am ddwy flynedd, a chafodd orchymyn i dalu costau o £1,500.

Ar y pryd dywedodd y barnwr Geraint Walters ei fod yn derbyn fod Phillips wedi bod yn dilyn cyfarwyddiadau uwch reolwyr yn y cwmni.

Dim cyfrifoldeb am anonestrwydd

Cafodd yr ymchwiliad cyhoeddus ei gynnal yng Nghaernarfon ar 24 a 25 Tachwedd.

Yn ôl y Comisinydd Trafnidiaeth, Nick Denton, "ni gymerodd unrhyw un ar lefel cyfarwyddwr gyfrifoldeb am anonestrwydd y cwmni".

"Yn lle hynny fe wnaethant ymddiswyddo fel cyfarwyddwyr ychydig ddyddiau cyn y gwrandawiad ac ni wnaethant fynychu."

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Stephen Mansel Edward Davies ei wahardd am gyfnod amhenodol rhag gweithredu fel rheolwr trafnidiaeth

Yn ei ddyfarniad dywedodd y comisiynydd ei fod am wahardd y cwmni a'i gyfarwyddwyr David Kaye Mansel Davies a Stephen Mansel Edward Davies rhag dal trwydded gweithredwr eto.

Cafodd Rhodri Wyn a Stephen Mansel Edward Davies hefyd eu gwahardd yn gyfnod amhenodol rhag gweithredu fel rheolwyr trafnidiaeth.

"Mae trwydded gweithredwr Sir Benfro, Mansel Davies & Son Ltd, wedi cael ei ddiddymu ar ôl i gyfarwyddwr orchymyn i aelod iau o staff greu cofnodion cynnal a chadw ffug i wneud iddo edrych fel pe bai lorïau yn cael gwiriadau diogelwch yn rheolaidd", meddai'r comisiynydd.

"Mewn gwirionedd, dangosodd tacograff a chofnodion eraill bod rhai cerbydau, yn hytrach na'u bod yn cael eu gwirio mewn archwiliadau diogelwch, eu bod allan ar y ffordd yn cwblhau siwrneiau yn lle."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cwmni o Sir Benfro yn cyflogi tua 300 o bobl

Dywedodd y comisiynydd fod y cyfarwyddwyr David Kaye Mansel Davies a Stephen Mansel Edward Davies wedi creu diwylliant cynnal a chadw oedd yn "wenwynig".

Roedd yn arbennig o feirniadol o'r ffaith, er bod un ohonynt yn amlwg wedi gorchymyn gweithiwr iau i ffugio dogfennau cynnal a chadw, ei fod wedi gadael y gweithiwr hwnnw i wynebu dedfryd o garchar wrth fethu â chymryd cyfrifoldeb ei hun.

Roedd y gorchymyn i ffugio'r cofnodion cynnal a chadw a'r ffugio ei hun yn "weithredoedd gwarthus".

Ychwanegodd y comisiynydd bod yr ymddiriedaeth yr oedd ef a'r cyhoedd wedi'i rhoi yn y rheolwyr trafnidiaeth Rhodri Wyn a Stephen Mansel Edward Davies wedi cael ei fradychu.

Cafodd trwydded gweithredwr y cwmni ei ddiddymu, a bydd y gorchymyn yn weithredol o 1 Chwefror 2021.

Cwmni newydd

Yn ystod y gwrandawiad cyhoeddus fe glywodd y comisiynydd bod cais o'r newydd gan gwmni cysylltiedig i gymryd drosodd gweithrediad y cwmni sydd wedi cael ei ddiddymu.

Ni chafodd y cais hwn, a oedd yn cynnwys cenhedlaeth iau o deulu Mansel Davies, ei ystyried yn ffurfiol fel rhan o'r ymchwiliad cyhoeddus.

Ond clywodd y comisiynydd traffig gan y cyfarwyddwyr a'r rheolwr trafnidiaeth newydd a chytunodd y gallent gynrychioli newid amlwg ac angenrheidiol yn niwylliant y busnes.

Mae'r cais hwnnw'n dal i gael ei ystyried.

Pynciau cysylltiedig