Dirwyo cwmni lorïau Mansel Davies am ffugio dogfennau
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni lorïau Mansel Davies wedi cael gorchymyn i dalu £500,000 am ffugio dogfennau cynnal a chadw cerbydau.
Roedd y cwmni o Lanfyrnach, Sir Benfro, wedi pledio'n euog i 19 cyhuddiad o dwyll.
Clywodd Llys y Goron Abertawe fod un o weithwyr y cwmni, Jonathan Wyn Phillips, 28, wedi ffugio'r dogfennau rhwng 2017 a 2018.
Dywedodd y barnwr Geraint Walters ei fod yn derbyn fod Phillips wedi bod yn dilyn cyfarwyddiadau uwch reolwyr yn y cwmni.
Cafodd Phillips, o Fynachlog-ddu, ddedfryd o naw mis o garchar wedi ei ohirio am ddwy flynedd, a chafodd orchymyn i dalu costau o £1,500.
Dywedodd Jonathan Rees QC ar ran yr erlyniad fod y cwmni wedi blaenoriaethu elw dros ddiogelwch y cyhoedd.
Clywodd y llys fod 19 o ddogfennau diogelwch wedi eu ffugio, a'u bod yn gysylltiedig gyda 13 o gerbydau gwahanol.
Roedd tacograff - teclyn sy'n mesur pellter a chyflymder cerbyd - yn dangos fod un lori yn cael ei gyrru, tra bod y ddogfen ffug yn awgrymu fod y cerbyd yn cael ei asesu yn y garej.
Cafodd lori arall ei stopio gan Asiantaeth Safonau Gyrru a Cherbydau gydag arolygydd yn canfod fod y cyfarpar oedd yn dal yr olwynion yn ddiffygiol. Roedd peryg y gallai'r olwynion wedi dod yn rhydd.
'Niwed i enw da'r cwmni'
Clywodd y llys fod gan gwmni Mansel Davies drosiant blynyddol o £23m, gan gyflogi tua 300 o bobl.
Eleni, mae'n debygol y bydd y cwmni'n gwneud colled, yn rhannol oherwydd yr ansicrwydd ynglŷn â Brexit.
Dywedodd Robert Smith, ar ran yr amddiffyn, y bydd enw da'r cwmni yn cael ei niweidio o ganlyniad i'r achos llys.
Dywedodd y barnwr wrth Phillips fod y dogfennau ffug yn "anonest ac wedi eu creu mewn ymdrech bwrpasol i dwyllo".
"Does yna ddim amheuaeth fod y drosedd yn un bwriadol ac wedi digwydd ar sawl achlysur, ac yn ddi-hid o'r pwysigrwydd o gadw cofnodion ynglŷn â diogelwch cerbydau."
Cafodd y cwmni ddirwy o £20,000 ar gyfer pob un o'r 19 trosedd - cyfanswm o £380,000.
Cafodd y cwmni hefyd orchymyn i dalu costau o £120,000.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2019
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2019