Datgelu cynlluniau ailddatblygu rhan o Fae Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Llun artist o gynlluniau Glanfa IweryddFfynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Llun artist o gynlluniau Uwchgynllun Glanfa'r Iwerydd, sy'n cynnwys arena â lle ar gyfer 15,000 o bobl

Mae Cyngor Caerdydd wedi datgelu cynigion uchelgeisiol i ailddatblygu safle 30 erw o hyd ym Mae Caerdydd.

Mae cymal cyntaf uwchgynllun datblygiad Glanfa'r Iwerydd yn cynnwys arena dan do newydd gwerth £150m.

Hefyd fe allai hyd at 1,150 o gartrefi gael eu codi ynghyd â swyddfeydd, adnoddau hamdden a gwesty.

Dywed arweinwyr y cyngor y gallai gymryd saith mlynedd i wireddu pedwar cymal y cynlluniau, pe baen nhw'n cael sêl bendith.

Yr arena fyddai prosiect angori yr holl ddatblygiad, fyddai'n ymestyn o Ganolfan y Mileniwm, hyd Rhodfa Lloyd George yn Nhre-biwt i Neuadd y Ddinas.

Ffynhonnell y llun, Cyngor Caerdydd

Byddai canolfan newydd yn cael ei chodi yn lle Canolfan Red Dragon, ynghyd â maes parcio aml-lawr newydd.

Byddai wedyn yn bosib codi gwesty 150 o ystafelloedd gwely a 150,000 medr sgwâr o ofod ar gyfer swyddfeydd.

"Fe wnaeth ailddatblygu Bae Caerdydd tri degawd yn ôl helpu sefydlu Caerdydd fel prifddinas Ewropeaidd deinamig," meddai arweinydd Cynor Caerdydd, Huw Thomas.

"Heddiw rydym yn amlinellu gweledigaeth gyfforus ar gyfer cymla nesaf yr ailddatblygu hynny."

Mae'r cyngor, meddai, yn credu y bydd prosiectau amrywiol y cynllun yn darparu "swyddi, hyfforddiant a ffyniant i gymuned leol sydd dal ymhith y mwyaf difreithiedig yng Nghymru".

Ffynhonnell y llun, Cardiff council
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r cynllun yn cael ei weithredu mewn pedwar cymal dros saith mlynedd

Ychwanegodd fod y cyngor wedi gwrando ar feirniadaeth o'r gorffennol bod ailddatblygu'r ardal wedi ynysu trigolion Tre-biwt a'u cadw allan o'r cynlluniau.

"Rwy'n benderfynol na ddylai hynny ddigwydd eto," meddai Mr Thomas, gan fynnu mai'r bwriad yw ail-egnïo'r gymuned leol yn ogystal â'r ardal.

Dywed y cyngod bod y cynlluniau'n "hollol garbon niwtral", ac yn cydfynd â gwelliannau i'r rheilffordd fel rhan o rwydwaith metro Llywodraeth Cymru.

Bydd cynlluniau drafft yn mynd o flaen cabinet Cyngor Caerdydd ar 17 Rhagfyr, a bydd rhaid cyflwyno ceisiadau cynllunio amlinellol ac ymgynghori â'r cyhoedd.

Pynciau cysylltiedig