Cwpan Her Ewrop: Newcastle 20-33 Gleision
- Cyhoeddwyd
Roedd cryn dasg yn wynebu'r Gleision wrth iddynt herio Newcastle yn nghystadleuaeth Cwpan Her Ewrop nos Wener oherwydd roedd Newcastle wedi sicrhau tair buddugoliaeth fawr yn eu gemau diwethaf.
Cafwyd gêm gystadleuol dda er gwaethaf y niwl a'r glaw yn Kingston Park.
Fe gafodd Hallam Amos un cais yn yr hanner cyntaf ac roedd y Gleision ar y blaen am ran helaethaf yr hanner drwy gicio cywir Jarrod Evans.
Ond roedd Newcastle yn parhau yn y gêm oherwydd camgymeriadau gan y Gleision ac roedd yna ddau gais iddynt yn yr hanner cyntaf gan George Wacokecoke a Sam Stuart. Felly roedd Newcastle ar y blaen ar hanner amser o 17 i 13.
Fe ddaeth trobwynt yn y gêm yn fuan yn yr ail hanner wrth i Hallam Amos gael y bêl ar ei ddwy ar hugain ei hun. Ciciodd y bêl yn uchel ac fe wnaeth ei dal ar ei ysgwydd cyn ei phasio yn chwim i ddwylo Tomos Williams oedd yn rhydd i wibio ar hyd hanner y cae bron i blannu'r bêl dan y pyst.
Roedd y Gleision yn fwy cywir wedi hynny a chafwyd cais cosb i'r Gleision wedi gwaith da gan y blaenwyr yn hwyr yn y gêm. Felly buddugoliaeth i'r Gleision o dri phwynt ar ddeg (Newcastle 20-33 Gleision).
Yn gynharach ddydd Gwener fe wnaeth prif weithredwr clwb rygbi Gleision Caerdydd alw ar Lywodraeth Cymru i ailystyried maint y cymorth ariannol mae'n ei gynnig yn ystod y pandemig coronafeirws.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2020