Cwpan Her Ewrop: Gweilch 39-15 Castres

  • Cyhoeddwyd
tacloFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Amddiffyn y Gweilch yn rhwystro Bastien Guillemin

Roedd hi'n ddechrau da i ymgyrch y Gweilch yn Ewrop gyda buddugoliaeth a phwynt bonws yn erbyn Castres yn Stadiwm Liberty.

Sgoriodd y bachwr Sam Parry ddau gais ar ei 100fed ymddangosiad i'r rhanbarth, a hynny wedi i Shaun Venter sgorio'r cais agoriadol.

Roedd y tîm cartref ar y blaen 25-3 ar yr hanner, ac fe lwyddodd Dan Evans i sgorio'r pedwerydd cais wedi'r egwyl, cyn i Luke Morgan ychwanegu un arall yn symudiad olaf y gêm.

Fe giciodd Stephen Myler 14 o bwyntiau. Kevin Kornath ac Adrien Amans sgoriodd geisiau'r ymwelwyr.

Gweilch: D Evans; G North, T Thomas-Wheeler, K Williams, M Protheroe; S Myler, S Venter; G Thomas, S Parry, M Fia, L Ashley, R Davies, W Griffiths, M Morris, D Lydiate (capt).

Eilyddion: I Phillips, N Smith, T Botha, A Beard, O Cracknell, M Aubrey, S Williams, L Morgan.

Castres: C Clavières; B Guillemin, F Vialelle, V Botitu, A Batlle; T Fortunel, J Fernandez; J Nostadt, K Firmin, D Kotze (capt), R Pieterse, H N'Kinsi, S Onambele, K Kornath, D Clerc.

Eilyddion: P Colonna, W De Benedittis, S Dube, F Vanverberghe, H Hermet, B Bourgier, L Le Brun, A Amans.

Pynciau cysylltiedig