Cynnydd 'brawychus' yn nifer cleifion Covid bwrdd iechyd
- Cyhoeddwyd
Mae achosion coronafeirws mewn un rhan o Gymru yn cynyddu ar "gyfradd frawychus", meddai un bwrdd iechyd.
Dywedodd Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn y de-ddwyrain fod ysbytai yno dan bwysau "sylweddol" oherwydd nifer y cleifion Covid.
Roedd y bwrdd eisoes wedi cyhoeddi y byddan nhw'n atal apwyntiadau cleifion allanol a llawdriniaethau wedi'u trefnu sydd ddim yn fater brys o ddydd Llun.
Mae ffigyrau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn awgrymu fod cynnydd sylweddol wedi bod mewn achosion yn nifer o ardaloedd yn ne Cymru.
Allan o holl ardaloedd awdurdodau lleol y DU, roedd wyth o ardaloedd cynghorau'r de ymysg y deg uchaf o ran cyfraddau achosion ymhob 100,000 o'r boblogaeth, hyd at 8 Rhagfyr.
Merthyr Tudful oedd ar frig y rhestr gyda chyfradd o 787.4 ymhob 100,000 o'r boblogaeth, gyda Nedd Port Talbot yn ail (764.7), Casnewydd yn drydydd (651.7), Abertawe yn bumed (622.7) a Chaerffili yn y chweched safle gyda chyfradd o 619.1 ymhob 100,000.
Ardal Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr oedd yn seithfed ar y rhestr (618.8) , gyda Blaenau Gwent yn wythfed (608.3) a Rhondda Cynon Taf yn y degfed safle (582.8).
'Gwasanaeth coronafeirws cenedlaethol'
Daw hyn wrth i Brif Weinidog Cymru rybuddio fod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru mewn perygl o ddod yn "wasanaeth coronafeirws cenedlaethol" oherwydd nifer cynyddol o gleifion Covid.
Mae dros 100,000 o achosion positif bellach wedi cael eu cadarnhau yma ers dechrau'r pandemig.
Dywedodd y bwrdd iechyd mewn datganiad ddydd Sul: "Mae nifer y cleifion Covid positif yn ein cymunedau yn cynyddu ar raddfa frawychus ac mae angen i bawb chwarae eu rhan i sicrhau bod ein gwasanaethau ar gael ar gyfer pan fydd eu hangen ar ein cleifion sâl."
Wrth siarad fore Sul, dywedodd Mark Drakeford fod angen i GIG Cymru "allu ymateb i'r holl bethau eraill hynny sy'n digwydd ym mywydau pobl".
"Os yw'r niferoedd yn parhau i gynyddu fel y maen nhw, yna byddwn yn y pen draw yn dargyfeirio ein hadnoddau staff oddi wrth yr holl bethau yr ydym yn eu disgwyl ac y mae angen iddyn nhw eu gwneud," meddai.
"Os yw'r niferoedd yn parhau i gynyddu yn y ffordd y maen nhw bryd hynny, mae'n ymddangos i mi fod hyd yn oed mwy o gyfyngiadau yn syth ar ôl y Nadolig yn anochel."
Ychwanegodd: "O ran y tueddiadau cyfredol, bydd gennym 2,500 yn dioddef mor wael o coronafeirws fel bod angen iddyn nhw fod mewn gwely ysbyty erbyn dydd Nadolig.
"Ac ar y lefel honno, yn syml, mae'n amhosib mynd ymlaen i staffio popeth arall y mae'r gwasanaeth iechyd eisiau ei wneud."
'Diolch byth' am y Faenor
Fis diwethaf, dywedodd uwch feddyg mewn e-bost a welwyd gan BBC Cymru fod ganddi "bryderon enfawr" am ddiogelwch cleifion cyn i Ysbyty Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân agor bedwar mis yn gynt na'r disgwyl.
Dywedodd Deborah Wales ar y pryd nad oedd digon o feddygon a nyrsys i staffio'r ysbyty newydd a'r ysbytai presennol.
Ond fe ddywedodd Mark Drakeford ddydd Sul: "Wrth gwrs mai'r peth iawn i wneud oedd agor ysbyty a oedd yn barod i'w agor, a oedd yn barod i agor fisoedd cyn y disgwylid yn wreiddiol iddo wneud hynny.
"Dychmygwch sut brofiad fyddai yn Aneurin Bevan pe na bai gennym yr holl welyau sydd ar gael heddiw yn ysbyty'r Faenor yn ychwanegol at yr hyn sydd ar gael.
"Diolch byth fod gennym ni a diolch byth i ni ei agor pan wnaethon ni," ychwanegodd.
Symud i system haenau
Yn y cyfamser, mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi gwrthod awgrym y dylid pwyntio bys at Lywodraeth Cymru am y cynnydd diweddar mewn achosion o Covid-19 yng Nghymru.
Wrth siarad ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul, fe ddywedodd Jeremy Miles bod cyfrifoldeb ar bob un ohonom ni i lywio'r ffordd mae'r haint yn lledaenu.
Fe fydd ein hymddygiad ni, yn ôl Mr Miles, yn ffactor wrth benderfynu ar y cyfyngiadau sydd i ddod cyn ac ar ôl y Nadolig.
Mae pedair llywodraeth y DU wedi cytuno y bydd hyd at dri chartref yn cael cwrdd y tu fewn rhwng 23 a 27 Rhagfyr.
Yn ôl gweinidog iechyd Cymru, Vaughan Gething, byddai gwneud tro pedol ar y penderfyniad i lacio'r cyfyngiadau yn arwain at golli ymddiriedaeth y cyhoedd, er gwaethaf beirniadaeth fod y llacio'n "gamgymeriad".
Fe ddywedodd Mr Miles fod y llywodraeth yn dal i ffafrio cynllun Cymru-gyfan ar hyn o bryd, wrth i bobl baratoi i deithio draws-gwlad i ddathlu'r Nadolig.
Ond roedd hefyd yn cydnabod y gallai Cymru symud i system o haenau wrth i batrymau newydd amlygu eu hunain.
"Ni'n bwriadu cyhoeddi fel llywodraeth yr wythnos yma, gynllun pedair lefel ar gyfer Cymru," meddai.
"Ni ar y trydydd lefel fwy neu lai ar hyn o bryd. Ni wedi cyhoeddi camau, bydd rheoliadau newydd yn dod i rym ddiwedd yr wythnos hon.
"Ond os na wnaiff hynny weithio, ac os na wnaiff pobl ymateb drwy gadw at y rheolau a'r canllawiau, 'wy'n credu ei bod hi'n debygol iawn y bydd rhaid i ni fynd i'r lefel nesa'."
Ni fydd unrhyw ffigyrau coronafeirws ar gyfer Cymru yn cael eu cyhoeddi ddydd Sul oherwydd gwaith cynnal a chadw.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd12 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2020