Brexit: Trafodaethau i barhau y tu hwnt i ddydd Sul

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
cymru a'r UEFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Prif Weinidog Cymru wedi pwysleisio eto y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn "gatastroffig" i Gymru.

Yn fuan wedi sylwadau Mark Drakeford fore Sul, fe gyhoeddwyd y byddai'r trafodaethau rhwng y DU a'r UE yn parhau tu hwnt i'r terfyn gwreiddiol ddydd Sul.

Mewn cyhoeddiad ar y cyd, dywedodd Prif Weinidog y DU, Boris Johnson ac Arlywydd Comisiwn yr EU, Ursula von der Leyen y byddan nhw'n mynd y "filltir ychwanegol".

"Mae ein timau trafod wedi bod yn gweithio ddydd a nos dros y dyddiau diwethaf," meddai'r datganiad.

"Ac er gwaethaf y blinder ar ôl bron i flwyddyn o drafodaethau, er gwaethaf y ffaith bod terfynau amser wedi'u colli drosodd a throsodd, credwn ei bod yn gyfrifol ar y pwynt hwn i fynd y filltir ychwanegol.

"Yn unol â hynny, rydym wedi gorfodi ein trafodwyr i barhau â'r trafodaethau ac i weld a ellir dod i gytundeb hyd yn oed mor hwyr â hyn."

Ychwanegodd Mrs von der Leyen y byddai'r trafodaethau'n parhau ym Mrwsel.

Dywedodd Mark Drakeford wrth raglen BBC Politics Wales: "Os ydyn nhw'n taro bargen fe fyddan nhw'n gallu mynd yn ôl ac adeiladu arni oherwydd fe fyddan nhw'n darganfod y bydd y pethau sydd heb eu datrys yn parhau i fod yn hynod bwysig i'r Deyrnas Unedig ac i'r bobl sydd byw yma yng Nghymru."

Wrth siarad ar raglen Dewi Llwyd ar Fore Sul, fe ddywedodd gweinidog pontio Brexit Cymru, Jeremy Miles ei bod hi'n "gwbl glir fod cytundeb yn hanfodol i ni".

"Ma' gadael heb gytundeb yn drychinebus i Gymru ac i'r DU," meddai.

"Er mor wan fydde' unrhyw fath o gytundeb 'ddele ar hyn o bryd, mae'n well na dim."

'Trafod tan Nos Galan os oes angen'

Mae cyn-arweinydd yr ymgyrch Vote Leave yng Nghymru, David Jones AS, wedi dweud y dylai'r trafodwyr "drafod, os oes angen, tan 11 o'r gloch ar Nos Galan".

Wrth ysgrifennu yn y Sunday Telegraph, ychwanegodd AS Ceidwadol Gorllewin Clwyd: "Y gwir yw bod yr UE yn ceisio... rhwymo'r DU i reolau'r UE a'i gwneud yn ddibynnol yn wleidyddol ar yr Undeb.

"Sofraniaeth, wedi'r cyfan, yw'r rheswm y pleidleisiodd pobl Prydain i adael yr UE.

"Mae ef [y prif weinidog] yn gwybod bod yn rhaid iddo gadw ffydd gyda phobl Prydain a gwrthsefyll unrhyw demtasiwn i dderbyn bargen is-optimaidd a fyddai'n eu twyllo o'r sofraniaeth y gwnaethon nhw bleidleisio drosti.

"Os yw'r UE yn dal i wrthod bargen sy'n parchu ein hannibyniaeth galed yn llwyr, dylai adael y bwrdd gan wybod bod ganddo gefnogaeth lawn ei gydwladwyr."

Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Liz Saville Roberts AS, wedi dweud bod Boris Johnson yn "chwarae gyda swyddi pobl" ac wedi galw arno i gytuno ar fargen gyda'r UE.

"I fusnesau ledled Cymru, mae'r ansicrwydd ynghylch natur masnach gyda'n partner masnachu mwyaf yn y cyfnod hwyr iawn hwn yn annerbyniol," meddai.

"Rydym yn wynebu aflonyddwch enfawr, gyda phrisiau bwyd yn codi a phrinder posib, ymhen dim ond 18 diwrnod."