Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol yn Wrecsam gam yn agosach

  • Cyhoeddwyd
Amgueddfa
Disgrifiad o’r llun,

Mae rhai creiriau pêl-droed hanesyddol i'w gweld yn Amgueddfa Wrecsam yn barod

Mae'r cynllun i ddatblygu Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol yn Wrecsam gam yn agosach, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mewn datganiad ysgrifenedig, dywedodd Dafydd Elis-Thomas AS, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth fod grŵp llywio wedi ei sefydlu, ac fe fydd Cyngor Wrecsam yn gyfrifol am arwain y prosiect.

Dywedodd y datganiad y bydd yr amgueddfa yn "gweithio ochr yn ochr â chymunedau i annog cyfranogiad ymwelwyr o bob cefndir a'u hysbrydoli.

"Bydd y prosiect yn ategu datblygiadau eraill yn Wrecsam gan gynnwys Canolfan Hyfforddi Genedlaethol Cymdeithas Bêl-droed Cymru ym Mharc Collier, Canolfan Hyfforddiant Proffesiynol Clwb Pêl-droed Wrecsam yn y Groves, ac ailddatblygiad Porth Wrecsam ar faes y Cae Ras."

Mae cynllun busnes wedi ei baratoi gan ymgynghorwyr allanol ac mae eu hargymhellion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd gan y grŵp llywio.

Ychwanegodd y datganiad fod tendr dylunio yn cael ei hysbysebu ar gyfer cam nesaf y gwaith ac mae'r cyngor yn chwilio am ddau aelod newydd o staff i gefnogi'r prosiect.

Croesawu'r cyhoeddiad

Mae'r newyddion wedi ei groesawu gan wleidyddion yn yr ardal, gan gynnwys Llyr Gruffydd AS o Blaid Cymru, sydd wedi ymgyrchu i sefydlu'r amgueddfa yn y dref.

Dywedodd Mr Gruffydd: "Rydyn ni'n ddiolchgar am y gefnogaeth gychwynnol gan Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam a'i gadeirydd ar y pryd, Pete Jones, a oedd yno yn y lansiad ym mis Rhagfyr 2015.

"Bryd hynny roedd yn rhaid i ni argyhoeddi pobl bod angen amgueddfa bêl-droed arnom, y dylai honno fod yn Wrecsam ac ar safle'r Cae Ras wedi'i ailwampio.

"Fe wnaethon ni ennill y dadleuon gyda'r ddwy elfen gyntaf ond bydd yr amgueddfa newydd yn cael ei lleoli yn Amgueddfa Wrecsam - efallai mewn blynyddoedd i ddod gellir ei hadleoli i'r Cae Ras wrth i'r Kop End gael ei ailddatblygu. Cawn weld beth sy'n digwydd pan fydd y perchnogion newydd yn gafael yn yr awenau - efallai y bydd yn rhan o'u cynlluniau."

Disgrifiad o’r llun,

Gobaith ymgyrchwyr oedd lleoli'r amgueddfa newydd ger y Kop End yn y Cae Ras unwaith yr oedd yn cael ei ail-ddatblygu

Dywedodd yr AS Llafur lleol Lesley Griffiths: "Er gwaethaf yr heriau a grëwyd gan Covid-19, rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â'i chynlluniau ac yn benderfynol o weld Amgueddfa Bêl-droed Genedlaethol yn dod yn realiti yn Wrecsam.

"Mae'r dref bob amser wedi bod yn gartref haeddiannol i bêl-droed Cymru ond mae perchnogaeth newydd o Glwb Pêl-droed Wrecsam gan Ryan Reynolds a Rob McElhenney wedi helpu i godi ein proffeil pêl-droed ar raddfa fyd-eang.

"Ynghyd â phrosiect Porth Wrecsam, mae cyfle i gyflawni rhywbeth gwirioneddol arbennig a thrawsnewidiol i'r dref. Byddai sefydlu'r amgueddfa a sicrhau'r buddsoddiad yn hwb mawr ac roeddwn i'n benderfynol o weld y prosiect hwn yn cael ei wireddu."