Sêr Hollywood i gyfarfod cefnogwyr Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Bydd sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn rhannu eu gweledigaeth ar gyfer Wrecsam gydag aelodau o Ymddiriedolaeth Cefnogwyr y clwb ddydd Sul.
Mae Mr Reynolds a Mr McElhenney eisiau cymryd perchnogaeth o'r clwb sydd yn y Gynghrair Genedlaethol.
Byddant yn nodi eu cynlluniau ar gyfer y clwb mewn cyfarfod rhithiol ar ôl i 95% o aelodau'r Ymddiriedolaeth bleidleisio o blaid cynnal trafodaethau gyda'r ddau.
Byddant hefyd yn ateb cwestiynau cefnogwyr yn ystod y cyfarfod ar-lein.
Y camau nesaf
Gallai unrhyw gytundeb posib arwain at fuddsoddiad o £2m yn y clwb, sydd wedi bod ym mherchnogaeth cefnogwyr ers 2011.
Bydd mwy na 2,000 o aelodau'r Ymddiriedolaeth yn pleidleisio ar ddyfodol y clwb, ac er mwyn i'r penderfyniadau gael eu cymeradwyo rhaid i 75% o'r aelodau bleidleisio o blaid.
Mae aelodau'r Ymddiriedolaeth eisoes wedi derbyn pecynnau pleidleisio sydd yn cynnwys manylion ar gamau nesaf y cais gan y cwmni, sy'n dwyn yr enw 'The R.R McReynolds Company'.
Bydd aelodau'n gallu pleidleisio o ddydd Llun, 9 Tachwedd hyd at ddydd Sul, 15 Tachwedd, ac mae disgwyl penderfyniad y diwrnod canlynol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Medi 2020