Be' 'da chi'n ei 'neud 'Dolig yma?

  • Cyhoeddwyd
Y cyfranwyrFfynhonnell y llun, Lluniau cyfranwyr

Mae yna deimlad gwahanol iawn eleni i'r cwestiwn blynyddol: "Be' wnewch chi'r 'Dolig yma?"

Gyda chyfyngiadau ar y dathliadau a digwyddiadau wedi eu canslo, dyma brofiad Nadolig 2020 gan bedwar o Gymry sy'n brysur iawn fel arfer dros gyfnod yr ŵyl.

Judith Beech, gweithiwr iechyd

Mae'n gyfnod prysur iawn fel arfer i'r fam o Lanrug, wnaeth ddal Covid-19 saith mis yn ôl, gan ei bod yn gweithio bob dydd Nadolig ac yn weithgar gyda Ffrindiau Ysgol Gynradd Llanrug.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Judith, sy'n gynorthwyydd gofal iechyd yn Ysbyty Gwynedd, ac Andrew gyda'u plant Catrin ac Elain

"Fel arfer faswn i wedi bod yn brysur efo Ffair Nadolig yr ysgol - trefnu Siôn Corn, mynd i nôl y selection boxes, trefnu pobl i helpu a gofyn i fusnesau lleol gyfrannu i'r raffl.

"Does dim o hynny'n digwydd rŵan. A 'da ni methu mynd ar ofyn neb flwyddyn yma achos tyda ni ddim yn gwybod be' ydi eu sefyllfa nhw o ran gwaith a phres.

"Faswn i'n rhedeg o gwmpas i fynd i siop leol i nôl rhywbeth i'r ffair ac ella'n gwario yn y siop fy hun ac yn cael gymaint o sgyrsiau a mwydro a gweld pobl. Dwi'n methu hynna i gyd.

"Fel arfer faswn i'n eistedd mewn pedwar cyngerdd ysgol hefyd ac yn trefnu days off rownd y cyngherddau. Ro'n i'n licio gwneud hynny i helpu'r ysgol a helpu mamau eraill a gwarchod eu plant bach iddyn nhw fynd i weld eu plant eraill yn perfformio.

Dim ymwelwyr

"Dwi'n gweithio dau tan wyth - felly dwi'n gallu bod adra efo'r genod yn y bora, dwi'n cael mynd i le Mam am ginio ac wedyn gadael nhw i olchi fyny a mynd i'r gwaith!

"Dwi'n mwynhau mynd i weithio, cael gweld y cleifion a'u teuluoedd yn dod a phawb yn dymuno 'Dolig Llawen, cael sgwrs, ac mae pawb yn hapus braf.

"Ond fydd hynny'n wahanol blwyddyn yma. Fydd dim visitors achos does neb yn cael dod mewn - fydd hi'n ddistaw iawn a tyda ni ddim yn cael rhoi decorations i fyny. Felly fydd rhaid i ni drio codi'r awyrgylch, canu carolau a ballu.

"Wnawn ni hefyd wneud Facetime efo teuluoedd, achos tydi lot o hen bobl, rhai ella sy'n 90 oed, erioed wedi gwneud hynny o'r blaen - a fydd y teuluoedd yn gallu gweld eu bod nhw'n iawn.

"Alli di ddim mynd i mewn i gwaith a meddwl 'mae eisiau mynadd mynd i mewn 'Dolig'. Ti'n gorfod codi dy hun a meddwl 'come on, mae'n ddiwrnod 'Dolig' a chanu efo nhw ac ati. Mae'n bwysig."

Hywel Gwynfryn, cyflwynydd a chynhyrchydd radio

Yn dad i saith o blant - ac yn daid - mae'r Nadolig yn gallu bod yn gyfnod prysur i'r darlledwr, yn enwedig yn y ddwy flynedd ddiwethaf ac yntau wedi bod yn rhan o dymor y pantomeim.

Ffynhonnell y llun, Sian Trenberth
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Hywel Gwynfryn yn chwarae rhan Bendigeidfran mewn pantomeim yn 2018

"Llynedd nes i sgwennu panto efo Caryl, a'r flwyddyn cynt nes i wireddu breuddwyd ac actio mewn panto am y tro cyntaf. Adeg yma cyn y Dolig efo'r un gynta' roedda ni wedi bod o gwmpas Cymru - yn dechrau yn y de, mynd i fyny i'r gogledd i Glwyd ac wedyn ar draws i Gaernarfon, yn aros y noson mewn B&Bs a chael hwyl ar y lôn efo'r hogiau.

"Does dim panto eleni hyd y gwn i, ond dwi wedi addasu. Mae'n rhaid bod yn hyblyg yn y diwydiant yma felly dwi wedi bod yn cynhyrchu rhaglen efo Elin Fflur a'i ffrindiau ar gyfer y cyfnod Nadolig i Radio Cymru.

Cartref newydd

"I fod yn bositif am eleni, dyma'r Nadolig gyntaf yn y tŷ newydd.

"Pan nes i golli Anja fy ngwraig, doedd dim pwynt aros i fyw yn y tŷ felly nes i werthu a dw i wedi prynu'r lle yma ac mae Huw y mab yn byw yn y tŷ efo fi. Mae'n perthynas ni mor agos 'da ni fel dau ffrind yn hytrach na thad a mab.

"Dim ond fi a Huw fydd yma ddydd Nadolig.

"Fydd Owain y mab ddim yn dod draw o Lundain fel oedd fod i ddigwydd, na neb arall o'r teulu yma yng Nghaerdydd.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Hywel gyda'i ferch Anya Gwynfryn Chaletzos, a'i wyres Erin-Anja

"Mae Huw yn llysieuwr a fo fydd yn coginio felly dw i am gael bwyd llysieuol gydag o. Cyn belled a 'mod i'n cael pwdin Dolig fydda i'n ocê - dyna sy'n bwysig.

Y capel

"Fydda i ddim yn mynd i'r capel ar ddiwrnod Nadolig fel arfer, fydda i'n mynd ar noswyl Nadolig i gyfarfod gyda'r hwyr efo canhwyllau, ond dwi ddim yn meddwl bydd hynny'n digwydd eleni.

"Diwrnod 'Dolig arferol fyddwn ni yn mynd i dŷ ffrind - mae'n plant ni wedi bod yn ffrindiau ers talwm - a fyddwn ni'n mynd i gael rhywbeth bach i fwyta a diod fach. Fyddwn ni'n methu mynd eleni oherwydd Covid.

"Pan oedden ni'n deulu a ninnau i gyd efo'n gilydd, efo saith o blant a'u teuluoedd, dwi wedi cael 13 rownd y bwrdd Dolig, ond fel dwi'n edrych ar bethau dwi ddim yn hiraethu ac yn meddwl 'tydi o ddim run fath'. Ydi mae'n wahanol ac oherwydd hynny mae'n gyffrous."

Emma Williams, melinydd

Roedd blawd fel aur yn ystod y cyfnod clo cyntaf a bu'n gyfnod prysur i berchennog Y Felin, yn Llandudoch, ger Aberteifi. Mae'r Nadolig yn gyfnod prysur hefyd fel arfer, ond nid eleni.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr

"Mae'r cyfnod cyn y 'Dolig yn bwysig iawn i'r busnes fel arfer. Y flwyddyn ddiwetha' fe wnaethon ni'r un faint â fydda ni'n ei wneud fel arfer yn ystod cyfnod prysur yr haf.

"Mae wedi bod yn llawer tawelach y Nadolig yma. Fel arfer ryda ni'n gwerthu mewn marchnadoedd a ffeiriau Nadolig, ond mae'r rheiny i gyd wedi eu gohirio'r flwyddyn yma. Hefyd gan fod tai bwyta a B&Bs ac ati wedi cau, tyden ni ddim yn gwerthu ein blawd iddyn nhw.

"Roedde ni'n brysur iawn yn ystod y cyfnod clo cynta'. Doedd pobl methu cael blawd o'r archfarchnad ac roedd pobl yn pobi adra - ond ers yr ail gyfnod clo mae wedi bod yn dawel iawn.

"Erbyn hyn mae'r siopau mawr wedi gallu cael stoc ac mae pobl wedi mynd yn ôl i siopa fel o'r blaen. Heblaw am rhai pobl, tydi'r syniad o brynu yn lleol ddim wedi parhau er bod pobl yn dweud ar y pryd 'wnawn ni aros efo chi nawr yn y dyfodol'.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Y Felin - Nadolig 2019

Y gymuned

"Flwyddyn ddiwetha' wnaethon ni agor y Felin ar ddiwrnod Nadolig i bobl gael dod am ddiod a chymdeithasu. Doedd yna ddim tafarn lleol yn agored felly wnaethon ni addurno'r Felin a chynnig diod fach fel bod y gymuned yn gallu dod at ei gilydd.

"Roedd yn ddiwrnod braf a daeth tua 150 draw, a chael sgwrs a chanu carolau. Roedden ni wedi meddwl agor eto flwyddyn yma, ond fyddwn ni ddim yn gallu.

"Ond dwi'n ffodus iawn i fedru cael fy mab a'i ddyweddi gyda ni ar ddydd Nadolig. Dwi'n teimlo'n lwcus iawn."

Nia Parry, cyflwynwraig

Mae'r gyflwynwraig yn adnabyddus fel un sy'n caru'r Nadolig - ond eleni mae hi mewn cyfyng-gyngor.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Nia Parry a'i theulu

"Mae pawb sy'n fy nabod i'n gwbod 'mod i'n caru 'Dolig. Fi ydy'r un sy'n estyn yr addurniadau o'r atig ganol Tachwedd ac yn paratoi'r rhestr siopa cyn dechrau Rhagfyr. Nadolig 2020, fwy nag erioed, mae angen rhywbeth i edrych ymlaen ato fo, yn does?

"Mae Hedd a Tirion yn 10 ac wyth oed ac mae eu cyffro nhw'n parhau i fod yn heintus, ond yng nghanol y sbarcl a'r tinsel, y prysurdeb a'r paratoi, mae 'na ryw aflonyddwch ac ansicrwydd eleni.

Swigen neu beidio?

"Bob blwyddyn mae rhywun yn holi ac yn ateb y cwestiwn "Be' dach chi'n 'neud Dolig yma?" ganwaith cyn i Siôn Corn gamu ar ei slej, ond eleni rhywsut mae'r cwestiwn un yn fwy dwys yn dydy? Cwestiwn loaded fel 'sa'r Sais yn deud - ffordd o checio bo' ni ddim yn torri'r rheola ella... neu jyst cwrteisi a diddordeb!?

"Pwy a ŵyr ond yr ateb ydy 'Dw i ddim yn gwybod eto!'. Er bod y llywodraeth yn deud y 'cawn' ni greu swigen, dw i'n dal i gwestiynu be 'ddylen' ni wneud.

"Wrth gwrs, mae'r 'Dolig yn fwy nag un diwrnod hefyd dydy?

"Mae popeth wedi newid yn y cyfnod cynt hefyd. Y wledd flynyddol i 35 o deulu ochr Dad wedi'i ganslo wrth gwrs. Y daith siopa 'Dolig i Gaer efo Mam wedi hen fynd.

"Y profiad o drefnu Ffair Dolig yr ysgol; taith i weld y pantomeim; crio efo balchder wrth wylio perfformiadau'r plant yn y Sioe 'Dolig; canu carolau o gwmpas y pentre' a mynd yn griw ffrindiau am ddrinc rownd dre'.

Gwerthfawrogi

"Mae'r rhain i gyd wedi cael eu dwyn oddi arnom gan y feirws, ond mae profiadau newydd wedi dod yn ei sgil hefyd. Sioeau rhithiol y theatr, persbectif newydd ar bethau materol a pheidio gwario'n wirion.

"Ac eleni fydd y flwyddyn pan fydda i ddim yn gorfod cwffio'r blinder a rhuthro fel dynas wyllt o dŷ i dŷ yn y diwrnodau cyn 'Dolig i ddanfon anrhegion.

"Fwy na dim, 'Dolig yma mi fydda i'n gwerthfawrogi o'r newydd fod ein teuluoedd yn iach a bod gynnon ni gartre' clyd a bwyd ar y bwrdd."

Hefyd o ddiddordeb: