Amrywiad newydd Covid-19 yn bresennol yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Yr haint coronafeirwsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae o leia 10 achos o'r amrywiad newydd o'r coronafeirws wedi eu canfod yng Nghymru

Mae amrywiad newydd o'r coronafeirws a gafodd ei ddarganfod yn cylchredeg yn Lloegr eisoes yn bresennol yng Nghymru, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Ddydd Llun, dywedodd Llywodraeth y DU y gallai'r amrywiad "fod yn gysylltiedig" â lledaeniad cyflymach yn ne ddwyrain Lloegr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod o leiaf 10 achos wedi'u cadarnhau yng Nghymru a bod disgwyl i fwy gael eu nodi.

Mae mwy na 1,000 o achosion wedi'u cofnodi ar draws 60 o ardaloedd cynghorau Lloegr.

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'n naturiol i feirws newid dros amser ac rydym wedi gweld ystod o amrywiadau yng Nghymru.

"O ran yr amrywiad penodol hwn, rydym wedi nodi 10 achos pendant a phum achos tebygol trwy ymchwil a ddigwyddodd yn ystod mis Tachwedd. Mae ymchwil pellach ar y gweill ac rydym yn disgwyl nodi achosion pellach.

"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wrthi'n chwilio am yr amrywiad hwn a bydd yn olrhain unrhyw achosion Cymreig eraill wrth iddynt ddod i'r amlwg.

"Bydd ein canfyddiadau yn bwydo i'r gwaith sy'n cael ei wneud ledled y DU."

Amrywiad yn 'berffaith naturiol'

Fe fydd mwy o achosion o'r amrywiad newydd o Covid-19 yn debygol o gael eu nodi yng Nghymru yn y dyddiau nesaf yn ôl un arbenigwr blaenllaw ar olrhain y feirws.

Dywed yr Athro Tom Connor o Uned Genomeg Pathogenaidd Iechyd Cyhoeddus Cymru nad yw'n "poeni'n arbennig" am hyn, a'i fod yn beth "perffaith naturiol" o ystyried nad oes cyfnod clo cenedlaethol mewn grym, gyda theithio yn dal i gael ei ganiatáu rhwng rhai ardaloedd.

Mae'r Athro Connor yn mynnu nad oes "unrhyw dystiolaeth" ar hyn o bryd bod yr amrywiad newydd yn achosi ffurf fwy difrifol o'r afiechyd, er bod gwyddonwyr yn edrych a yw'r newidiadau geneteg yn gwneud y feirws yn fwy heintus neu os gallai gael effaith ar ba mor effeithiol yw brechlynnau.

"Nid oes tystiolaeth bod yr amrywiad newydd hwn yn cael effaith ar ei ddifrifoldeb, felly nid yw'n gwaethygu'r afiechyd.

"Mae posibilrwydd y gallai gael effaith ar drosglwyddo, ond rydyn ni'n cadw rheolaeth ar hyn. Ac rydych chi'n gwybod ein bod ni hefyd yn ceisio sicrhau nad yw hynny'n mynd i beri problem i frechlynnau ac rwy'n credu ar hyn o bryd, does dim tystiolaeth y dylai hyn effeithio ar ei ymddygiad mewn unrhyw ffordd."

Ychwanegodd: "Rwy'n credu mai'r pwynt allweddol i bawb yw parhau i ddilyn y cyngor sydd ar gael a pharhau i ddilyn pethau fel pellhau cymdeithasol a golchi'ch dwylo."

Ffynhonnell y llun, Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r map yn dangos sut cafodd dwy straen o Covid-19 (oren a glas) eu holrhain ar draws Cymru gan wyddonwyr yma

Dywed yr Athro Connor fod Covid-19 fel unrhyw feirws yn newid trwy'r amser gyda "niferoedd enfawr o amrywiadau" wedi'u nodi ers dechrau'r pandemig.

Mae hyn yn digwydd pan fydd gwallau bach yn digwydd i gôd genetig y feirws gan ei fod yn gwneud copïau ohono'i hun wrth ymledu o berson i berson.

"Ac yn debyg iawn i lungopïwr yn copïo dogfen ac yna'n ail-greu dogfen, fe allwch chi gael ychydig o gamgymeriadau ag ychydig o newidiadau yn cael eu cyflwyno yn y broses honno. Gan fod y feirws yn heintio unigolion ac yn cael ei drosglwyddo mae newidiadau bach yn digwydd i'r genom.... fel ein bod ni yn gallu wedyn olrhain a deall a sut mae feirysau'n gysylltiedig."

Ym mis Gorffennaf fe ddaeth hi i'r amlwg bod gwyddonwyr yng Nghymru yn arwain ymdrechion byd-eang i ddehongli ac olrhain newidiadau i god genetig coronafeirws.

Gallai newidiadau bach yn y cod genetig arwain at wahanol fathau o'r feirws yn ymddwyn yn wahanol.

Er enghraifft, mae'r dadansoddiad ar gyfer Cymru wedi bwydo i mewn i ymchwil yn archwilio sut mae un mwtaniad yn newid protein ar y feirws, gan leihau ei effeithiolrwydd.

Ar y pryd dywedodd Joanne Watkins, prif wyddonydd biofeddygol uned genomeg pathogen Iechyd Cyhoeddus Cymru, bod modd helpu i ddatblygu brechlynnau drwy olrhain newidiadau yn y feirws.

Cyfnod clo newydd?

Daw'r newyddion am yr amrywiad newydd wrth i achosion barhau i godi yng Nghymru.

Ddydd Llun fe ddaeth hi i'r amlwg bod Cymru eisoes yn torri rhai o'r llinynau mesur allweddol fydd yn cael eu defnyddio i benderfynu os fydd angen cyfnodau clo yn y dyfodol.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford y gallai cyfnod clo gael ei gyflwyno ar ôl y Nadolig os na fydd y cyfraddau'n dechrau gostwng.

Ond mae corff sy'n cynrychioli staff rheng flaen y GIG wedi galw am gyfnod clo ar draws Cymru cyn y Nadolig er mwyn arbed bywydau.

Dangosodd ffigurau Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Llun mai Merthyr Tudful oedd â'r gyfradd achosion uchaf yn y DU, gyda 870.3 o achosion fesul 100,000 o bobl dros y saith niwrnod diweddaraf.

Roedd wyth o siroedd Cymru ymhlith y 10 ardal gyda'r cyfraddau achos uchaf yn y DU.

Pynciau cysylltiedig