Dwy fam: 'Dim ffiniau i'r Gymraeg' yn America

  • Cyhoeddwyd
maxine

Mae Maxine Hughes yn byw yn yr Unol Daleithiau gyda'i gwraig, Sally. Mae Maxine yn ceisio pasio ei Chymraeg i'w meibion, Iori a Manu.

Mae Maxine wedi dod yn wyneb cyfarwydd tra'n dilyn etholiad America gyda Jason Edwards ar raglen Trump, America a Ni ar S4C.

Yn ddiweddar mae Maxine a Sally wedi bod yn rhannu profiadau gyda chwpl hoyw arall yn America sy'n ceisio magu eu plant drwy'r Gymraeg - Bethan a Carolina. Yma mae Maxine yn adrodd ei hanes:

Prin fy mod i fyth yn cael cyfle i siarad â mam arall o Gymru yma yn America, heb sôn am un sy'n siarad Cymraeg â'i phlant ac sydd hefyd yn hoyw fel fi.

Pan ges i'r cyfle i gyfarfod y dramodydd Bethan Marlow a'i theulu yn Miami ar gyfer podlediad 'Hollt: Ein America ni', dolen allanol roeddwn wrth fy modd.

Roedd y cyfle yn bwysig, nid yn unig i fi yn bersonol, ond o ran fy mhlant, Iori a Manu, er mwyn iddyn nhw gael cyfarfod â phlant eraill sy'n siarad Cymraeg gyda'u mam a'u mami.

Symudodd Bethan i Miami gyda'i gwraig Carolina bedair blynedd yn ôl ac mae gan y ddwy ddau o blant - Celt, 6, a Mabli, 4.

"Gan bo' fi'n sgwennu, odd o'm yn lot o beth i fi feddwl, 'na i ddod i fyw mewn lle poeth am 'chydig bach!" meddai Bethan wrth i fi ofyn iddi beth ddaeth a'r teulu o Gymru.

O Colombia a'r Dominican Republic mae Carolina yn dod yn wreiddiol ond mae bellach yn siarad Cymraeg yn rhugl. Dwi methu help a theimlo pa mor braf fysa hi tasai Sally fy ngwraig i yn dysgu Cymraeg hefyd - un o Awstralia ydy hi! Ond yng nghartref Bethan a Carolina, Cymraeg a Sbaeneg yw iaith y cartref.

"Dan ni'n trio ein gorau i gadw Saesneg allan o'r tŷ, ond mae hynny'n mynd yn fwyfwy anodd," dywedodd Bethan.

Ffynhonnell y llun, Maxine hughes
Disgrifiad o’r llun,

Iori, Manu, Celt a Mabli yn mwynhau yn y parc

Dan ni'n cyfarfod mewn parc mawr i gadw pellter cymdeithasol ynghanol gwres poeth Miami. Gyda Iori a Celt tua'r un oed, mae'r ddau fel pe bai yn ffrindiau mawr ar unwaith ac mae Manu a Mabli yn hapus yn dringo'r boncyffion coed ar lawr.

Efallai nad oes syndod bod y plant yn dod ymlaen efo'i gilydd cystal - nid dim ond Cymraeg sy'n gyffredin rhyngddyn nhw - ond mae ganddyn nhw i gyd ddwy fam hefyd.

Yma i siarad am hunaniaeth ein plant ydan ni, ac mae'n deimlad anhygoel sylweddoli bod Bethan yr un mor angerddol a fi am bwysigrwydd dal ati i siarad Cymraeg efo nhw.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Maxine yn gweithio fel newyddiadurwr yn yr Unol Daleithiau

'Tanio'r angerdd'

Efallai mai'r peth annisgwyl ydy mai Mam ddi-Gymraeg oedd wedi fy annog i a fy chwiorydd i siarad Cymraeg. Addysg cyfrwng Saesneg ges i rhan fwyaf yng Nghonwy, ond Cymraeg oedd fy hoff bwnc. Roeddwn i wrth fy modd yn cystadlu yn yr adrodd mewn eisteddfodau ac yn astudio llenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg. Mam oedd wedi tanio'r angerdd am yr iaith tu fewn i fi, ac mae dal yno hyd yn oed yn America.

Ac eto, dydi pawb yn America ddim yn deall safbwynt rhieni fel Bethan a fi.

"Gaethon ni mixed signals," medd Bethan wrth drafod agweddau pobl Miami at ddewis Carolina a hi i fagu eu plant yn amlieithog, "Gathon ni bobl yn deud, be 'dach chi'n neud - dach chi'n mynd i'w conffiwsio nhw!"

"Odd pobl yn gofyn 'ond lle mae nhw yn mynd i gael eu Saesneg?' Ac o'n ni'n chwerthin! O'n ni'n meddwl - dach chi'm yn dallt - y frwydr ydi i beidio'u cael nhw i siarad Saesneg - achos mae o ym mhobman!!"

Ffynhonnell y llun, AFP
Disgrifiad o’r llun,

Mae Maxine yn benderfynol bod Iori a Manu yn ymwybodol o'u gwreiddiau Cymreig

Ond nid dim ond iaith sy'n denu sylwadau difeddwl gan bobl ym Miami i'r teulu. Mae Bethan wedi ffeindio'i hun yn ateb cwestiynau sy'n cwestiynu bodolaeth ei theulu o gwbl.

"Ma gynnon ni bobl sy'n stopio ni yn y stryd a phobl yn teimlo bod gynnon nhw'r hawl i ofyn i ni sut dan ni wedi gwneud ein teulu ni. "Oh wow, did you adopt? No, they came out of my vagina! Os 'da chi rili isho details! Jyst hŷ ydyn nhw, de?"

Grŵp Facebook

Dwi'n synnu clywed hyn, gan bod pobl yn fwy rhyddfrydol yn Washington ac efallai mwy o deuluoedd hoyw yno.

Mae Bethan yn egluro ei bod hi a Carolina wedi sefydlu grŵp Facebook i deuluoedd hoyw wedi i Celt ofyn dair blynedd nôl 'lle oedd yr holl blant eraill gyda mam a Mami?'

"Mae gynnon ni tua 90 o aelodau yn y grŵp erbyn hyn a dan ni'n cyfarfod bob mis. So ma' gynnon ni le wan a ffrindiau lle ydan ni'n gallu mynd bob mis a ma' nhw'n gallu chwarae a mae Mama ym mhob man. Mae o'n bwysig iddyn nhw."

Ffynhonnell y llun, Maxine hughes
Disgrifiad o’r llun,

Iori a Manu yn mwynhau dringo yn y parc

Yn ein tŷ ni, o'r dechrau, dan ni wedi bod yn agored iawn am y rhoddwr sberm. Os oes unrhyw un yn gofyn i Iori am ei dad, mae o yn ateb yn gwbl ffeithiol. Yn y podlediad, dwi'n egluro sut mae Iori yn 'nabod llawer o'i frodyr a chwiorydd eraill drwy'r rhoddwr, neu 'diblings' fel y mae'n ei galw. Mae ganddo berthynas agos ag un yn arbennig, ac mae'n ei ystyried fel brawd arall.

''Mae'r plant yn sicr yn gwybod pwy ydyn nhw," meddai Bethan, "Ond mae'n rhaid i ni eu paratoi, rhag ofn un diwrnod eu bod yn cael unrhyw drafferth ar y maes chwarae.

"Dan ni yn dathlu ein teulu ni," meddai Bethan - a dwi'n cytuno 100%.

Dwi eisiau i Iori a Manu fod yn falch o pwy ydyn nhw hefyd - ac mae hynny yn cynnwys bod yn falch o fod yn Gymry a siarad Cymraeg - lle bynnag fyddwn ni'n byw.

Dydw i ddim yn siarad am fy mywyd personol yn gyhoeddus fel arfer. Ond rwy'n credu y dylem ni gael mwy o sgyrsiau fel yr un y cefais i a Bethan. Mae angen siarad am hunaniaeth, a'r heriau.

I mi, y peth mwyaf arwyddocaol y gallaf i ei roi yn ôl i Gymru, yw hyrwyddo'r syniad i fy mhlant, nad oes ffiniau i'r Gymraeg.

Hefyd o ddiddordeb: