'Dwi erioed wedi edrych yn ôl'
- Cyhoeddwyd
Ar ddiwedd blwyddyn sydd wedi bod yn anodd i nifer, mae Sammy Jenkins yn ysgrifennu sut wnaeth hi oresgyn cyfnod anodd yn ei bywyd rai blynyddoedd yn ôl.
Bu bron i'w theulu golli popeth, ond fe aeth Sammy ymlaen i raddio mewn newyddiaduraeth:
Dwi wastad wedi eisiau bod yn newyddiadurwr. Rhwng ymladd gyda mrawd bach i dros y television remote i wylio Newsround yn y prynhawn, i ofyn i Dad-cu i chwarae Newsbeat ar Radio 1 yn y car ar y ffordd i'r ysgol.
Felly pan ddaeth yr amser i mi fynd i'r brifysgol, oedd 'na ddim ond un opsiwn; newyddiaduraeth.
Pan ti'n meddwl am fynd i brifysgol, ti'n dychmygu noswaith allan on the town, astudio, cwrdd â ffrindiau newydd ac annibyniaeth am y tro cyntaf.
Ond dim ond 24 awr a gymerodd i'm profiad prifysgol i fynd i lawr yr allt.
'Roedd fy iechyd meddwl i yn y gwter'
Pan symudais i 50 milltir i'r brifddinas, o bentref bach Gorslas yn Sir Gaerfyrddin, fi oedd yr unig berson o teulu fi i wneud y jump i brifysgol (glanhawr o'dd Mam, a wel, o'dd fy nhad biolegol i'n alcoholig).
Ond yn yr oriau mân, cafodd fy mam strôc, pan oedd hi'n 44 mlwydd oed. Felly, treuliais y flwyddyn gyntaf yn y brifysgol yn addasu i fywyd newydd, ond mwy na hynny, addasu i anableddau newydd fy mam.
Y realiti oedd, roedd Mam mewn cadair olwyn yn methu gweithio, o'dd fy llys-dad yn ei chael hi'n anodd i ofalu amdani hi a fy chwaer a brawd bach, wrth geisio rhoi bwyd ar y bwrdd.
Roedd fy iechyd meddwl i yn y gwter, roeddwn i'n ffeindio'n anodd codi o'r gwely yn y bore heb sôn am adael y tŷ. Doeddwn i erioed wedi teimlo mor unig.
Gyda hynny, methais fy mlwyddyn gyntaf. Roedd y waliau'n cau i mewn arna i, bu bron i mi adael y brifysgol yn gyfan gwbl. Cyn hynny, doeddwn i erioed wedi methu â gwneud dim.
Dwi ddim yn siŵr beth ddywedodd wrtha i am ddal ati, i fynd yn ôl i'r brifysgol y flwyddyn nesaf, ond fe wnes i.
'Fe ddaeth y bailiffs wythnos cyn y Nadolig'
Yn llawn cymhelliant a ffocws, dechreuais flwyddyn un eto. Pasiais y flwyddyn ac er nad oedd fy mam yn well, o'dd pethe'n edrych lan. Yna fe wnaeth fy llys-dad adael a byth dod nôl.
Roedd e wedi fy magu am ddeunaw mlynedd a dim ond erioed wedi edrych arnaf fel ei ferch ei hun.
O ganlyniad, gyda Mam yn dal i geisio ailadeiladu ei bywyd ar ôl strôc ac yn methu â gweithio, a diffyg cefnogaeth ariannol, collon ni ein cartref. Fe ddaeth y bailiffs wythnos cyn y Nadolig.
Ymhen dwy flynedd roedd Mam wedi colli ei galluoedd bob dydd, ei gŵr, a'r cartref yr oedd wedi'i adeiladu.
Symudais i nôl i Sir Gâr i helpu edrych ar ôl Mam a chwestiynais a fyddwn i byth yn mynd yn ôl i astudio y flwyddyn ganlynol. Doeddwn i ddim yn meddwl fy mod i'n ddigon da. Dirywiodd fy iechyd meddwl i.
Roeddwn i'n gragen o'r person roeddwn i'n arfer bod, ond oedd rhywbeth yn dweud wrtha i, 'paid rhoi lan'. Deuthum yn fwy penderfynol nag erioed.
Penderfynais barhau â fy ngradd - hyd yn oed os oedd yn golygu teithio pedair awr y dydd ar y trên, pum dydd yr wythnos. O'dd 'na ddim arian i fi fyw yng Nghaerdydd, o'n i'n ffili gyrru ac o'dd rhaid i mi aros adre i edrych ar ôl Mam.
Ar ôl pum mlynedd, graddiais o Brifysgol De Cymru. Ni chefais fy ngradd berffaith, na chael y profiad prifysgol delfrydol - ond nid yw bywyd yn berffaith, nid yw pobl yn berffaith ac nid yw pethau bob amser yn mynd i weithio allan yn berffaith.
I mi, roedd bywyd ar ôl graddio yn golygu Universal Credit a mewnflwch llawn e-byst gwrthod.
Ond ar ôl cais ar ôl cais, cyfweliad ar ôl cyfweliad, cefais le ar ddiwrnod ystafell newyddion agored y BBC, a dwi erioed wedi edrych yn ôl.
Bellach, rwyf wedi bod yn gweithio i'r BBC am dair blynedd ac yn ystod y pandemig fe ges i gontract parhaol.
'Byth rhoi lan'
Mae'r flwyddyn hon 'di bod yn galed i bawb - blwyddyn llawn o ddathliadau pen-blwydd a gollwyd, yn pendroni pryd y byddwch chi byth yn gweld eich teulu a'ch ffrindiau eto, meddwl tybed a fydd bywyd byth yn dod yn ôl i normal ac i rai, ffarwelio ag anwyliaid cyn eu hamser.
Rwyf wedi cael fy siâr o flynyddoedd gwael - ac weithiau feddyliais i y byddwn i byth yn dod o hyd i ffordd allan o'r tywyllwch. Ond, wnes i byth rhoi lan.
Pan oedd pobl yn meddwl nad oeddwn yn poeni am fy nyfodol, pan na allwn godi o'r gwely yn y bore, pan feddyliais nad oedd bywyd werth y boen, codais allan o'r gwely hwnnw a gweithiais mor galed ag y gallwn i'w profi'n anghywir.
Efallai eich bod chi'n meddwl nad oes golau ar ddiwedd y twnnel, ond pe bawn i wedi parhau i gredu hynny, ni fyddwn yma nawr.
Dywedodd un o'm darlithwyr prifysgol wrthyf fod angen i chi gredu er mwyn cyflawni. Mae'n anoddach o lawer credu pan fydd popeth yn cwympo o'ch cwmpas, ac yn bendant roedd yna adegau pan nad oedd gen i unrhyw gred o gwbl.
Ond os ydych chi eisiau rhywbeth, peidiwch â rhoi'r gorau iddi, a byddwch yn cyrraedd yno.
Hefyd o ddiddordeb: