'Ro'n i methu rhoi lan; roedd gen i fab bach'
- Cyhoeddwyd
Ddiwedd 2014, roedd Rose Hunt o Porth, Rhondda, yn fenyw gyffredin, iach yn ei hugeiniau, yn mwynhau dawnsio, yn gweithio'n galed ac yn magu ei mab bach.
Ond mewn ychydig o fisoedd, roedd ei bywyd wedi newid yn gyfan gwbl pan ddatblygodd diwmor ar ochr ei gwddf, a phum mlynedd yn ddiweddarach, mae hi'n dal i ddioddef sgil-effeithiau y llawdriniaeth i'w dynnu.
Fodd bynnag, nid yw Rose wedi gadael i'w hiechyd ddifa'i hysbryd, ac mae hi'n parhau i geisio byw bywyd llawn a hapus.
Cur pen oedd dechrau salwch Rose, nôl yn 2015 - cur pen difrifol oedd yn gwaethygu wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen, a ddechreuodd effeithio ar ei llygaid ac oedd yn achosi iddi orfod stopio'r car wrth yrru i'r gwaith er mwyn iddi fod yn sâl.
I ddechrau, meddai, doedd ganddi ddim amser i fynd at y meddyg oherwydd ei bod hi'n brysur gyda'i gwaith a'i mab bach, Harri - rhywbeth mae hi'n ei ddifaru heddiw. Yna teimlodd lwmp ar ochr ei gwddw, o dan ei chlust, a phenderfynodd drio cael cyngor meddygol.
"Dywedon nhw mai chwarennau wedi chwyddo oedd e," meddai, "neu fod fy lymph nodes wedi codi achos mod i'n gweithio oriau mor hir a jest mod i'n run-down.
"O'n i jest yn trio gweithio drwyddo, achos o'dd fy mab hynaf tua dwy a hanner oed ar y pryd, felly o'n i jest yn gwneud beth o'n i'n gallu iddo fe.
"Ond ym mis Hydref 2015 es i at y doctor a dweud 'dwi methu cario 'mlaen fel hyn'; o'n i'n methu amser o'r gwaith, o'n i'n cael fy anfon gartre achos mod i mor sâl."
Yn y diwedd, cafodd Rose sgan ar y lwmp, ac er nad oedd yr arbenigwyr yn hollol siŵr beth yn union oedd o i ddechrau, penderfynodd y meddygon ar gynllun brys yn y fan a'r lle i lawfeddygon ei dynnu allan cyn gynted â phosib.
"Ges i'r llawdriniaeth ddechrau Rhagfyr 2015," meddai Rose, "ac yn meddwl byddai popeth yn hunky-dory ar ôl hynny - o'n i'n meddwl fod fy myd i wedi cael ei drwsio.
"Ond ychydig wyddwn i mod i am fod, os rhywbeth, hyd yn oed yn fwy sâl nag o'n i cynt."
Difrod i'r nerfau
Ar ôl y llawdriniaeth, cafodd Rose gadarnhad mai tiwmor Schwannoma oedd beth oedd wedi cael ei dynnu, ac yn ffodus nid oedd yn fath canseraidd. Ond nid oedd y tiwmor wedi bod yn yr union safle roedd y llawfeddygon wedi meddwl, ac yn hytrach, roedd wedi lapio am y nerfau sydd yn mynd i'r wyneb.
Achosodd tynnu'r tiwmor ddifrod i rai o'r nerfau, ac o ganlyniad, dechreuodd Rose ddioddef poenau erchyll i'w phen.
"Nes i fethu'r Nadolig yna yn llwyr. Os o'n i ddim yn deffro am 4 y bore i fod yn sâl, o'n i'n deffro er mwyn cymryd mwy o morffin ac yn pasio mas.
"Nos Calan 2015, es i nôl at y doctor a ddywedodd hi 'alla i ddim gadael i ti aros adref dim hirach ar y dôs o gyffuriau ti arno' - er ei fod e'n helpu, roedd e'n beryglus iawn.
"Es i'n syth i'r ysbyty, a ddes i nôl mas ganol Chwefror. Pan o'n i yna, nes i orfod dod oddi ar yr holl morffin cold turkey; hwnna oedd y peth mwya' erchyll erioed.
Dwi'n gwybod nawr mod i methu gwneud gymaint ag o'n i'n arfer gallu ei wneud."
"Ro'n i'n dal i gael poen yn fy mhen; poen difrifol fyddet ti methu ei ddychmygu. Dwi'n cofio Mam yn ffonio am ambiwlans, yn crio, achos o'dd hi'n meddwl mod i'n cael strôc difrifol.
"I fynd o flwyddyn yn gynt pan o'n i'n hollol iach, o'dd e'n uffernol. O'dd e'n ddiddiwedd ac yn sugno fy holl egni.
"'Nath hyn bara' am rhyw flwyddyn a hanner nes o'n i'n gallu rhoi bath i fy mhlentyn fy hun eto. Nes i fethu rhan fawr o'i fywyd."
Symptomau gydol-oes
Bellach, mae gan Rose rywfaint mwy o reolaeth ar y boen mae hi'n parhau i'w ddioddef, drwy gyffuriau a therapïau gwahanol, ond mae'r doctoriaid yn tybio y bydd hyn yn effeithio arni am weddill ei hoes.
Ynghyd â'r boen yn ei phen, mae gan Rose symptomau hir-dymor eraill hefyd. Mae ei llygad dde wedi disgyn ychydig, a phan mae hi'n chwysu neu'n boeth, mae ganddi linell i lawr canol ei hwyneb; gyda'r ochr chwith yn goch a chwyslyd a'r ochr dde yn sych a chwbl normal.
O ganlyniad, derbyniodd y diagnosis o Syndrom Horner, sydd yn effeithio ar bobl sydd wedi derbyn niwed i nerfau'r pen. Yn ogystal, mae hi wedi cael diagnosis o TMJ, sydd yn achosi poen yn ei gên, ac Occipital Neuralgia sy'n gyfrifol am boenau sy'n saethu ar draws gwaelod ei phenglog.
Mae bywyd Rose wedi newid yn gyfangwbl, gan ei bod bellach yn gorfod byw gyda phoen cronig. Erbyn heddiw, mae hi'n delio gyda'r symptomau pan maen nhw'n codi, ond roedd hi'n anodd ar y dechrau, meddai.
"Bob dydd, dwi'n teimlo fel tasai gen i migraine drwg ac ar fy nyddiau gwael, dwi'n sownd yn y gwely.
"Ond i ddechrau, o'n i dal yn trio gwneud popeth fyddwn i wedi ei wneud o'r blaen, trio gwneud swyddi a chael fy hun mewn stad lle o'n i ddim hyd yn oed yn gallu para' shifft, achos o'n i mor sâl.
"Pan dwi'n brysur ac yn rhuthro llawer, gwneud gormod - a weithiau ti methu osgoi hynny - mae'n gwneud pethau'n waeth.
"Pan nes i sylweddoli mai dyma oedd fy mywyd i bellach, dwi'n meddwl mai dyna oedd y switsh i mi.
"Dwi'n delio gyda fe. Dwi'n gwybod nawr mod i methu gwneud gymaint ag o'n i'n arfer gallu ei wneud."
'Dangos dy 'wallau', a bod pwy wyt ti'
Mae bywyd prysur yn anochel nawr fod gan Rose ddau o feibion bach i'w magu - mae brawd bach Harri, Jaxson, bellach bron yn ddwyflwydd - ond mae hi wedi dod o hyd i swydd sydd yn gallu cyd-fynd â'i anghenion iechyd hi, sef cwmni colur mae hi'n ei gynnal ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yno, meddai, mae hi'n ceisio bod yn gwbl agored am ei chyflwr gyda'i dilynwyr a chwsmeriaid.
"Ar y cyfryngau cymdeithasol, mae gymaint o bobl yn ymwybodol o bobl yn edrych yn berffaith, ac yn teimlo dan bwysau i edrych ffordd benodol. Mae pobl yn gallu rhoi wyneb ymlaen, ac edrych fel tasai eu bywyd nhw'n berffaith, lle mewn gwirionedd mae yna fel arfer lawer mwy i stori rhywun.
"Yn y dyddiau cynnar, os o'dd rhywun yn tynnu fy llun i, bydden i'n sicrhau fod ochr dde fy wyneb i ddim yn y golwg. Ond dwi wedi dysgu ei fod yn rhan enfawr ohona i.
"Dwi eisiau dangos ei bod hi'n ocê i fod yn ti ac i ddangos dy 'wallau', a bod pwy wyt ti. Ti byth yn gwybod faint o bobl mas yna fyddai'n gallu uniaethu, ac y galli di helpu.
"Dwi'n gwybod yn sicr pan o'n i'n yr ysbyty, petai 'na rywun wedi bod yn agored am beth oedden nhw'n ei frwydro, byddai hynny wedi gwneud i mi deimlo lot gwell."
Dwi wir yn difaru peidio edrych ar ôl fy iechyd a ddim edrych ar yr arwyddion cynnar 'na..."
Er fod rhai dyddiau yn anodd i Rose, mae hi wedi gweithio'n galed i geisio bod mor iach yn feddyliol ag y gallai hi fod, gan weithio ar ei hiechyd meddwl yn ddyddiol.
"Dwi'n gwneud yn siŵr mod i'n gwneud ar o leia' 15 munud o waith hunan-ddatblygu y diwrnod, fel gwylio fideos motivational.
"Dwi dal i stryglo gyda fy iechyd meddwl, ond mae 'na wastad bobl mas yna sydd wedi mynd drwy waeth na fi.
"Ydw, dwi dal ar lawer o feddyginiaeth cryf ar gyfer y boen, ond drwy gael pobl mor wych o nghwmpas i a chanolbwyntio ar fy mhlant a fy ngwaith, mae e wir wedi fy helpu.
"Yn yr ysbyty, o'n i wedi dweud yn hollol agored wrth y doctor mod i mewn gymaint o boen mod i eisiau taflu fy hun o flaen bws. Ac mae edrych nôl ar hynny nawr yn frawychus, mod i mewn stad mor wael yn feddyliol.
"Dyna oedd y realiti ar y pryd. Ond ro'n i methu rhoi lan; roedd gen i Harri."
'Un o'r rhai lwcus'
Er mor ofnadwy mae ei phrofiadau hi wedi bod, mae Rose bendant yn teimlo fod beth mae hi wedi gorfod byw drwyddo wedi siapio'r person yw hi heddiw, ac yn edrych ymlaen at ddyfodol hapus a phositif.
"I fynd o fod yn berffaith iach cynt yn 2014, i gael cyflwr gydol oes... mae wedi newid fy mywyd. Ond rhaid i mi ddweud, mae wedi newid fy mywyd er gwell. Dwi yn credu fod popeth yn digwydd am reswm, ac mae 'na wers i'w dysgu o bopeth.
"Dwi wir yn difaru peidio edrych ar ôl fy iechyd a ddim edrych ar yr arwyddion cynnar 'na, efallai fyddwn i wedi gallu arbed hyn i gyd. Ond dwi a fy ffrindiau yn gallu chwerthin a jocian am y peth nawr - 'o mae fy llygad i wrthi eto...!' - dyma pwy ydw i bellach.
"Dwi dal i gael dyddiau isel, bendant. Ddoe, o'n i mewn gymaint o boen, nes i fwy neu lai grio drwy'r dydd. Ond dwi mor ddiolchgar am bopeth sydd 'da fi.
"Dwi'n ddiolchgar i fod yma, a mod i'n un o'r rhai lwcus.
Hefyd o ddiddordeb: