Cyfnod clo i ieir: Sut mae'r ffliw adar yn cael effaith
- Cyhoeddwyd
Yn ystod 2020, mae cadw ieir wedi bod yn boblogaidd iawn, gyda nifer o bobl yn cychwyn arni am y tro cyntaf ers dechrau'r cyfnod clo ym mis Mawrth.
Ond yr wythnos hon, mae cyfreithiau newydd wedi dod i rym sy'n ei gwneud hi'n anghyfreithlon i ieir fod y tu allan, oherwydd risg haint y ffliw adar.
Un sydd wedi gorfod gosod to newydd dros gartref ei ieir oherwydd y cyfreithiau newydd, ydy Guto Lloyd Davies o Ddinbych. Doedd dim dewis ganddo fe, mae'n gyfnod clo ar ieir - a hynny oherwydd bygythiad feirws. Nid y coronafeirws, ond y ffliw adar.
"Tair wythnos ers cael yr ieir a'r cwt a bob dim a dyma ni yn ffeindio allan am y ffliw adar," meddai Guto.
Roedd y teulu wedi bod yn ystyried cadw ieir ers misoedd. Ar ôl colli'r cwch yn ystod y cyfnod clo cyntaf, roedd Guto a'i ddwy ferch - Magi, 11, a Gwen, 9 - wrth eu boddau pan gyrhaeddodd yr ieir o'r diwedd.
"Mae Gwen wrth ei bodd. Mae hi'n mynd bob bore cyn mynd i'r ysgol i'w bwydo nhw a siarad a chwara' efo nhw. Ond 'dan ni wedi dweud 'sori Gwen, fedri di ddim mynd atyn nhw mwyach'.
"Mae hi'n drist - Gwen oedd y rheswm mwyaf dros gael nhw a deud y gwir."
Cadw adar dan do
Ers 14 Rhagfyr, mae Prif Filfeddygon y Llywodraethau wedi penderfynu ei bod yn ofyniad cyfreithiol i bob perchennog adar gadw eu hadar dan do a dilyn mesurau bio-ddiogelwch llym er mwyn cyfyngu ar ledaeniad y ffliw adar a cheisio ei waredu.
"Yn amlwg mae cyswllt efo adar eraill yn broblem," meddai Guto.
"Ma' gynnon ni third of an acreyn y cefn - ac o'n ni wedi cael ffens mawr er mwyn iddyn nhw gael 250 square meters yr un, sy'n lle mawr ond yn amlwg 'da ni ddim yn gallu gadael nhw allan o gwbl rŵan. Mae'n drist really."
Fe dreuliodd Guto benwythnos yn ceisio defnyddio trampolin y plant fel to newydd i warchod ei adar newydd rhag clefyd allai eu lladd nhw. Ond fel mae'n digwydd, cafodd Guto fenthyg ffens i warchod yr adar yn y pen draw.
"Roeddan ni yn mynd i ddefnyddio trampolin mawr ac addasu hwnna er mwyn bod digon o le ganddyn nhw ac er mwyn i ni allu symud o gwmpas y gwair gan bo' nhw yn crafu. '
"Dim ond fi fydd yn mynd atyn nhw a 'dan ni jyst yn gobeithio byddan nhw'n iawn."
Ffliw yn 'hynod heintus'
Yn ôl Dr Ifan Lloyd, Llywydd y Gymdeithas Filfeddygon Prydeinig yng Nghymru, mae'r ffliw yn hynod heintus, ac yn farwol i ieir.
"Dyw waterfowl ddim yn dangos symptomau. Maen nhw'n gallu ei gario fe, ond dyw e ddim yn amlwg, felly mae'n well i'w cadw nhw ar wahân oddi wrth hwyaid ac adar tebyg."
Adar gwyllt sy'n cario'r haint fel arfer a'r rheswm dros osod to dros gartref ieir yw ceisio lleihau'r posibilrwydd o faw adar gwyllt yn dod i gysylltiad â nhw.
"Fel arfer os yw'r ieir yn ei gael e, bydd y perchennog yn dod o hyd iddyn nhw wedi trigo," meddai Dr Lloyd.
"Weithiau mae chwydd yn y pen, ond ma' morbidity yn uchel iawn. Mae'n difa nhw i gyd."
'Ansicrwydd am y dyfodol'
Draw yng Ngheredigion, mae Lisa Thomas o Fferm Pencwarre, sy'n gwerthu ieir, wedi bod yn cael galwadau gan gwsmeriaid pryderus ers rhai wythnosau.
"Rwy'n dweud wrthyn nhw i edrych ar wefan Defra," meddai.
Ei phryder hi yw yr ansicrwydd am y dyfodol.
"S'neb yn gwbod pa mor hir fydd hyn yn para. O'dd [clefyd] foot and mouth yr un peth. Falle dyle pobl gael cwt ieir mwy, falle bydd lot mo'yn cael gwared o'r ffowls. Dy'n ni jyst ddim yn gwybod."
Mae rhai cwsmeriaid oedd wedi bod yn aros am ieir pur ers dros flwyddyn bellach wedi penderfynu oedi cyn eu cael nhw, sy'n achosi pen tost pellach i werthwyr ieir fel Lisa.
Ond lles yr ieir yw ei blaenoriaeth hi ac mae cyngor ganddi i berchnogion sy'n ymwybodol y bydd llai o ryddid gan eu ieir o hyn ymlaen.
"Os y'n nhw mewn lle mwy cyfyng, maen nhw'n gallu mynd yn bored, felly beth am dasgu corn neu roi fruit kebab iddyn nhw? Rhywbeth i'w diddanu nhw, fel disg CD, neu osod perch gwahanol.
"Mae'n werth cofio falle byddan nhw'n stopo dodwy am gyfnod hefyd gan bod eu amgylchiade nhw'n newid. Bydd ishe cadw golwg am feather picking hefyd. Unweth mae gwaedu yn digwydd bydd ishe cadw golwg ar hwnna."
'Angen diheintio yn rheolaidd'
Mae gan Dr Lloyd gyngor pellach hefyd i berchnogion ieir, gan ddweud na ddylai ymwelwyr gael cyswllt â'r adar ac y dylai perchnogion ddiheintio esgidiau a dwylo yn rheolaidd ar ôl mynd yn agos at ieir neu dwrcwn.
Mae e'n dweud bod y ffaith fod cynifer o bobl di-brofiad wedi dechrau magu ieir ers i'r pandemig ddechrau yn achos pryder pellach.
"Falle bo nhw'n bobl sydd ddim yn gwbod cyment am afiechydon a bo' nhw ddim yn cael y wybodaeth sydd angen iddyn nhw gael."
Fel arfer, dim ond pobl sy'n cadw dros 50 o ieir sy'n gorfod eu cofrestru nhw gyda'r adran amaeth, ond yn ôl y BVA [British Veterinary Association], dylai pawb sy'n cadw ieir eu cofrestru oherwydd y sefyllfa.
"Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i bobl sy'n cadw ieir gofrestru gyda'r awdurdodau," meddai Dr. Lloyd.
"Os ydych chi wedyn yn cofrestru bod ieir 'da chi ac yn rhoi cyfeiriad e-bost, byddwch chi'n derbyn y wybodaeth sy'n cael ei gyhoeddi ganddyn nhw a bydden i'n annog pawb i wneud hynny."
Draw yn Ninbych, mae Guto wedi symud cwt yr ieir oddi wrth gartref ei gymydog sy'n digwydd bod yn fridiwr byjis.
"Dwi'm yn gwbod faint yw gwerth 50 o fyjis - show budgies - ond gall o fod yn fil drud. 'Dan ni wedi'u symud nhw jyst rhag ofn.
"'Dan ni yn gobeithio byddan nhw i gyd yn ok."
Am y wybodaeth ddiweddaraf am y ffliw adar, ac os oes gan unrhyw un bryder am eu ieir, mae manylion pellach ar gael ar wefan Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, dolen allanol neu trwy ffonio 0300 3038268.
Hefyd o ddiddordeb: