Ieir yn boblogaidd tu hwnt ers i'r cyfnod clo ddechrau

  • Cyhoeddwyd
Merch yn bwydo ieirFfynhonnell y llun, Fferm Pencwarre
Disgrifiad o’r llun,

Mali, merch 7 oed Lisa Thomas yn bwydo'r ieir ar fferm Pencwarre

Mae cymaint o bobl wedi prynu ieir ers dechrau'r cyfnod clo nes bod rhestrau aros hir am ieir ac am gytiau ieir ar hyn o bryd.

Mae rhai gwerthwyr ieir yn dweud eu bod yn poeni na fyddan nhw'n gallu ateb y galw dros y misoedd nesaf.

Yn fferm Pencwarre ger Aberteifi, roedd rhuthr mawr am ieir cyn i'r cyfnod clo ddod i rym.

"Wedd e ddim byd i weld 10 car ar yr iard pan o'dd sôn am lockdown," meddai Lisa Thomas o'r fferm, sy'n disgwyl ei thrydydd plentyn ar hyn o bryd.

"Dim ond fi o'dd 'ma, yn disgw'l a'n dala'r ffowls. Wen i fel Tesco yn dweud 'who's next?!'"

Gwerthu'r cyfan

Fe werthodd y fferm nid yn unig eu holl ieir ond eu hwyaid a dofednod hefyd.

"Bydd definite shortage yn dod 'mlaen. Ni 'di gwerthu'n hwyaid a'n guinea fowl ni gyd achos hyn. Ma' nhw'n fodlon cymryd unrhyw beth i gael wyau ar hyn o bryd.

"Am dair wythnos, o'n i ddim yn gw'bod lle i droi!"

Ffynhonnell y llun, Fferm Pencwarre
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ieir yma ar Fferm Pencwarre i gyd wedi cael eu harchebu

Fel arfer mae'r fferm yn magu cywion newydd bob mis, ond ar hyn o bryd mae wedi cynyddu i bob wythnos.

Yn ôl Lisa, mae mewnforio ieir yn drafferthus ar hyn o bryd oherwydd yr argyfwng.

Mae'r holl ieir sy'n cael eu magu ym Mhencwarre ar gyfer mis Mai, Mehefin ac Awst wedi gwerthu yn barod, a phob un yn cael eu gwerthu drwy system di-gyffwrdd.

Yr un yw'r hanes yn ôl Gwilym Ephraim, sy'n gwerthu ieir o'i fferm yn Llan Ffestiniog yng Ngwynedd ers 1947.

"Mae prinder mawr o ieir ar hyn o bryd," meddai. "Mae'n haws i gael aur nag i gael iâr ar hyn o bryd!"

Barn Gwilym yw bod y prinder wyau fu yn y siopau am gyfnod wedi sbarduno pobl i gadw mwy o ieir.

"Os 'dach chi'n cael eich wyau eich hun 'dach chi'n gw'bod beth sydd ynddyn nhw," meddai.

Ond mae'n credu bod diflastod y cyfnod clo hefyd wedi bod yn ffactor.

"S'nam byd arall efo nhw i 'neud. Mae'n rywbeth iddyn nhw 'neud, dydi?"

Ffynhonnell y llun, Angela Humphries
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ivory'r iâr yn mwynhau cwtshys gyda Angela Humphries

Un o'r rhai sydd wedi dechrau gofalu am ieir ers dechrau'r argyfwng yw Angela Humphries o Benygroes, ger Crymych.

Ar ôl symud nôl adref wedi 30 mlynedd yng Nghaerfaddon, roedd hi eisiau cadw ieir, ac nid dim ond am eu hwyau.

"Mae iâr yn rhoi mwy na jyst wyau," meddai. "Maen nhw wir yn gwmni da. Maen nhw'n dda i'r iechyd meddwl, yn arbennig nawr."

Roedd Angela wedi ceisio cadw ieir llynedd, dim ond i gadno eu bwyta i gyd o fewn rhai wythnosau.

Ond pan ddaeth hi'n amlwg y byddai'n rhaid i bawb aros yn eu cartrefi am amser hir, roedd hi'n benderfynol o roi cynnig arall arni.

'Doniol iawn'

Y tro hwn, mae'r ieir, Ivory, Ebony a Speckly mewn cwt sy'n agosach at y tŷ.

"Dwi'n dwlu ar yr ieir! Maen nhw wedi rhoi ffocws da iawn yn ystod y lockdown, a tynnu'n sylw ni oddi ar bopeth sy'n mynd 'mlaen.

"Gyda'r ffaith nad y'n ni'n gallu gweld ein hanwyliaid, maen nhw wedi dod yn arbennig iawn i ni. Maen nhw yn ddoniol iawn."

Ffynhonnell y llun, Angela Humphries
Disgrifiad o’r llun,

Ivory, Speckly, ac Ebony, ieir newydd Angela, yn cnocio ar y ffenest

Yn ôl Angela, oni bai am lanhau eu cwt yn drylwyr unwaith yr wythnos, does dim llawer o waith i'w cadw.

Mae'n dweud bod hyd yn oed ei chi, Willow, wedi addasu i rannu ei chartref â'r adar newydd.

Ond mae ganddi gyngor i unrhyw un sy'n cael eu temtio i ddechrau cadw ieir am y tro cyntaf.

"Mae'n iawn os ydych chi'n meddwl 'mlaen, achos dy'n ni ddim mewn adeg normal.

"Rwy i a'r gŵr yn gweithio o adre nawr, felly does dim problem. Pan fyddwn ni'n mynd nôl i'r gwaith, bydd rhaid i ni adeiladu estyniad ar y cwt ieir.

"Dwi ddim yn mynd i adael iddyn nhw grwydro os nad ydw i yma. Felly mae'n rhaid ystyried, fydda i'n gallu ymdopi â ieir pan fydd bywyd normal yn ailddechrau?

Cyfrifoldeb

"Maen nhw'n gwmni da, mae'r wyau ffres yn hyfryd. Fel unrhyw anifail anwes arall, mae nhw'n dod â chyfrifoldeb, felly mae'n rhaid i chi gymryd e o ddifri'.

"Rhaid i chi 'neud yn siŵr bydd rhywun yn gallu gofalu amdanyn nhw os ewch chi bant. Os byddwch chi, dwi ddim yn gweld unrhyw broblem."

Er bod rhai gwerthwyr yn poeni na fydd modd ateb y galw am ieir dros y misoedd nesaf, barn gwerthwyr eraill yw y bydd pawb sydd ar restr aros yn eu cael nhw - ond na fydd modd gwarantu pa frîd fydd yr ieir, ac y byddan nhw'n ddrytach na'r arfer.