Asesiadau disgyblion i ddechrau fis Chwefror
- Cyhoeddwyd
Bydd asesiadau ar gyfer safon uwch a TGAU yn dechrau wedi hanner tymor fis Chwefror, gydag ysgolion yn penderfynu pa bryd i'w cynnal, yn ôl y gweinidog addysg.
Mae grŵp o arweinwyr ysgolion a cholegau wedi bod yn gweithio ar fanylion y broses o ddyfarnu graddau wedi penderfyniad i gael gwared ar arholiadau haf 2021.
Mi fydd asesiadau mewnol yn cael eu cynnal rhwng Chwefror ac Ebrill gydag asesiadau allanol rhwng Mai a Mehefin.
Dywedodd Kirsty Williams y gallai prifysgolion fod yn "hyderus" yng ngallu myfyrwyr.
Cafodd arholiadau eu canslo oherwydd effeithiau'r pandemig ar addysg a'r anawsterau o sicrhau chwarae teg i fyfyrwyr ledled Cymru.
Mae Grŵp Dylunio a Chyflenwi, wedi ei gadeirio gan yr ymgynghorydd Geraint Rees, yn cynnwys arweinwyr ysgolion a cholegau.
Mae wedi argymell y bydd graddau'n seiliedig ar gymysgedd o asesiadau mewnol ac allanol.
Os yw gwaith cwrs yn rhan o'r cymhwyster yna bydd hynny'n cyfrannu at raddau yn ôl y bwriad.
Gall ysgolion gynnal asesiadau mewnol rhwng 22 Chwefror a 23 Ebrill.
Byddan nhw'n gallu dewis asesiadau sy'n cael eu darparu gan y bwrdd arholi, CBAC, fydd yn cael eu marcio gan athrawon.
Bydd asesiadau allanol, sy'n cael eu gosod a'u marcio gan y bwrdd arholi yn cael eu cynnal rhwng 17 Mai a 29 Mehefin.
"Bydd athrawon a darlithwyr yn penderfynu sut a phryd i gyflwyno'r asesiadau hyn yn yr ystafell ddosbarth fel nad ydyn nhw'n creu pwysau a phryder arholiadau," meddai'r llywodraeth.
Dull teg i bawb
Dywedodd Kirsty Williams bod y system yn "ymwybodol o les" dysgwyr.
"Rwy'n teimlo'n fodlon bod gennym ddull gweithredu sy'n deg i bob dysgwr, sy'n lleihau ar yr un pryd ar y tarfu ar ddysgu, ac sy'n cynnal hyder ac ymddiriedaeth yn safon cymwysterau yng Nghymru," meddai.
"Rwy'n hyderus hefyd bod y cynlluniau hyn yn lleihau'r effaith ar lwyth gwaith athrawon - mae athrawon a darlithwyr eisoes o dan bwysau mawr, ac nid ydym am ychwanegu at hyn."
Mi gafodd y system oedd yn gosod graddau'r haf eleni ei diddymu, ar ôl i raddau wedi eu hamcangyfrif gan athrawon gael eu hisraddio.
'Angen hyder'
Dywedodd y rheoleiddiwr, Cymwysterau Cymru, bod yn rhaid sicrhau bod gan y cyhoedd "hyder" yn system y flwyddyn nesaf.
"Dyma ddull newydd y bydd CBAC yn ei weithredu a bydd risgiau a heriau," meddai'r prif weithredwr Philip Blaker.
"Bydd angen i ni wneud rhagor o waith gyda rhanddeiliaid y Grŵp Dylunio a Chyflawni i gadarnhau'r broses apelio a'r modd y bydd graddau'n cael eu dyfarnu.
"Byddwn hefyd yn cysylltu'n eang ag ysgolion, colegau a rhanddeiliaid i sicrhau y bydd pawb yn deall yn iawn y dull o reoleiddio cymwysterau ar gyfer haf nesaf."
Bydd y Grŵp Dylunio a Chyflawni yn parhau i edrych ar bethau gan gynnwys dulliau i leihau unrhyw darfu ar ddysgu, sut y byddai'r broses apelio yn gweithio a'r broses raddio, meddai Llywodraeth Cymru.
Mae Ms Williams yn bwriadu ysgrifennu at ysgolion a dysgwyr i amlinellu cynlluniau ar gyfer y chwe mis nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd10 Tachwedd 2020