Caniatáu trwydded i redeg Mansel Davies dan enw arall
- Cyhoeddwyd
Ddyddiau'n unig wedi i gwmni cludiant Mansel Davies golli ei drwydded ar ôl pledio'n euog i ffugio cofnodion cynnal a chadw cerbydau, mae'r cyfarwyddwyr wedi cael trwydded newydd i redeg y busnes dan enw gwahanol.
Yn dilyn ymchwiliad cyhoeddus fe benderfynodd y Comisiynydd Trafnidiaeth fod y cwmni wedi ei "lygru'n anorchfygol" oherwydd ei fod wedi ffugio cofnodion ac yn "haeddu mynd allan o fusnes".
Ond mae'r cyfarwyddwyr bellach wedi cael trwydded newydd dan yr enw MDS Distribution Limited.
Mae'r cwmni yn un o gwmnïau cludiant mwyaf Cymru, gan gyflogi tua 300 o weithwyr.
Diwylliant 'gwenwynig'
Yn ei ddyfarniad ar 11 Rhagfyr dywedodd y comisiynydd ei fod am wahardd y cwmni, a'i gyfarwyddwyr David Kaye Mansel Davies a Stephen Mansel Edward Davies, rhag dal trwydded gweithredwr eto.
Dywedodd y comisiynydd fod y ddau wedi creu diwylliant cynnal a chadw oedd yn "wenwynig".
Cafodd Rhodri Wyn a Stephen Mansel Edward Davies hefyd eu gwahardd yn gyfnod amhenodol rhag gweithredu fel rheolwyr trafnidiaeth.
Wrth roi caniatâd i'r drwydded newydd, dywedodd y Comisiynydd Trafnidiaeth nad oes gan David Kaye Mansel Davies a Stephen Mansel Edward Davies rôl yn rheoli'r busnes newydd, na rôl chwaith sy'n ymwneud â chofnodion cynnal a chadw cerbydau.
"Mae eu cyfnod yn rheoli'r busnes wedi dod i ben ac maen nhw wedi gadael gydag anfri ar eu henwau," meddai'r comisiynydd.
"Os oes yna unrhyw ymdrech i adennill rheolaeth neu ddylanwad tu ôl i'r llenni, bydd enw da y cwmni newydd wedi'i ddifetha a bydd y drwydded yn cael ei ddiddymu."
Ychwanegodd mai Sasha Davies, Scott Davies a Jamie Evans fydd cyfarwyddwyr MDS Distribution.
'Diogelu swyddi'
Dywedodd Mark Davies, cyfreithiwr ar ran cwmnïoedd Mansel Davies a'i Fab a MDS Distribution, fod cyfarwyddwyr y cwmni newydd - Sasha Davies, Scott Davies a Jamie Evans - yn edrych ymlaen at y dyfodol, ac am ddiogelu tua 300 o swyddi.
Ychwanegodd fod y Comisiynydd Trafnidiaeth yn fodlon rhoi trwydded i MDS Distribution ar ôl cael ei fodloni gydag agwedd a phroffesiynoldeb y cyfarwyddwyr newydd.
Dywedodd Mr Davies fod yna welliant mawr wedi ei weld o ran cydymffurfiaeth yn 2019 a 2020.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd11 Chwefror 2020
- Cyhoeddwyd25 Medi 2019