Newid byd, newid bywyd yn 2020

  • Cyhoeddwyd
Newid byd yn 2020

Coginio, cadw'n heini, dysgu iaith newydd... mae 2020 wedi bod yn flwyddyn sy' wedi newid bywydau pawb gyda nifer yn dewis trawsnewid eu bywydau i'r gorau.

Bu Cymru Fyw'n sgwrsio gyda rhai o'r bobl hynny sy' wedi newid byd.

Mae ffitrwydd yn 'dân yn fy mol'

Ffynhonnell y llun, Emily Tucker
Disgrifiad o’r llun,

Emily Tucker

Unwaith i'r pandemig gychwyn bu rhaid i Pobol y Cwm, fel pob cynhyrchiad arall, roi'r gorau i ffilmio. Defnyddiodd yr actores Emily Tucker (Sioned ar Pobol y Cwm) yr amser fel cyfle i ddatblygu ei gwaith fel hyfforddwraig personol. Dyma ei stori:

Roedd popeth ar Pobol y Cwm 'di dod i stop achos oedd hi'n amhosib i ni ffilmio dan y rheolau newydd.

'Wi 'di bod yn hyfforddwraig personol am cwpl o flynyddoedd ac eisoes wedi sefydlu tudalen ffitrwydd ar Instagram so nes i jyst meddwl bydde fe'n gyfle i gynnig sesiynau am ddim i bobl gan fod sut nifer o bobl adre ac roedd y gyms wedi cau.

Mae sawl person yn dibynnu ar y gym fel rhywle i warchod eu iechyd meddyliol ac i gymdeithasu ac i deimlo bod nhw'n cael brêc o'u bywydau dydd i ddydd.

Felly o'n i'n meddwl bydde fe'n rhywbeth i godi calon ac hefyd i annog pobl i gadw'n iach. Mae hwnna'n rhywbeth ni wedi dysgu blwyddyn yma - bod cadw'n iach ac yn ffit yn gallu helpu ni nage jyst yn ddyddiol ond pan mae salwch ar y gweill.

Disgrifiad o’r llun,

"Mae Pobol y Cwm yn agos iawn i'n nghalon i"

Llwyddiant

Roedd yr ymateb yn grêt - 'nes i weld e fel cyfle i helpu pobl yn bennaf ac wedyn unwaith oedd sôn fod y locdown yn gorffen 'nath pobl ofyn i fi barhau gyda'r sesiynau.

Felly wnes i benderfynu ceisio troi e mewn i busnes lle 'oedd pobl yn tanysgrifio ar gyfer y sesiynau. Diolch i'r drefn mae 'di bod yn llwyddiannus a gobeithio 'neith e barhau yn llwyddiant yn y flwyddyn newydd.

Helpu pobl

Beth oedd yn ddiddorol oedd mod i'n gallu helpu pobl bydden i ddim wedi cael cyfle i weithio gyda nhw achos bod nhw falle'n byw yn y gogledd neu'n methu mynd i'r gym.

'Wi'n neud pob dim o adre gyda minimal equipment achos nage pawb sy' â'r barbells a'r dumbells adre.

Mae 'na elfen cymunedol gyda ni lle mae'r menywod i gyd yn cefnogi a llongyfarch ei gilydd pan maen nhw'n symud ymlaen o ran ffitrwydd.

Mae'n brofiad rili positif i gymryd y sesiynau ac hefyd i fod yn rhan o'r sesiynau.

Roedd e'n gyfle i ddangos i bobl bod cadw ffit yn gallu bod yn rhywbeth ti'n gallu mwynhau... mae 'na ffordd i neud ffitrwydd yn sbort.

Ffynhonnell y llun, Emily Tucker
Disgrifiad o’r llun,

"Y peth fi'n mwynhau y mwyaf yw pan mae menywod yn dweud 'fi'n teimlo'n rili gryf heddi"

Ysbrydoliaeth

Y peth fi'n mwynhau fwyaf yw pan mae menywod yn dweud 'fi'n teimlo'n rili gryf heddi', 'fi'n teimlo mwy positif nawr', 'fi'n teimlo mwy hyderus yn fy nghorff i' a 'fi'n dechre derbyn fy nghorff i' yn lle bod yn pwyso ar y scales bob dydd a theimlo'n rybish.

'Wi rili yn mwynhau ac mae bron fel tân bach yn fy mol i pan fi'n clywed fod y menywod yn teimlo'n gryf a teimlo bod nhw'n gallu taclo beth bynnag sy'n dod eu ffordd nhw.

Achos nhw sy'n rhoi'r gwaith i fewn. Mae lot o glod yn mynd tuag at nifer fawr o personal trainers - sy'n wir i rhyw bwynt. Ond allai 'weud wrth y dosbarth be' i 'neud a bod 'na yn rhoi motivation iddyn nhw ond nhw sy'n gorfod neud y gwaith. Mae lot o glod angen mynd i'r cleient hefyd.

Cariad at waith

Pan mae pobl yn gofyn beth 'wi'n neud fel gyrfa nawr, mae dau job gyda fi a dwi'n caru'r ddau ohoni nhw am resymau hollol wahanol.

Mae Pobol y Cwm yn agos iawn i'n nghalon i. Dwi'n cael gweithio yn y Gymraeg a dwi'n cael actio a bod yn rhan o deulu Pobol y Cwm.

Ond gyda'r ffitrwydd a'r sesiynau mae rhywbeth arall sy'n agos iawn i'n nghalon i, sef helpu pobl a helpu nhw i deimlo'n gryf a'n hyderus ac yn iach.

Mae fe wedi newid bywyd yn hollol achos mae'n teimlo fel tân yn fy mol i.

Bydden i byth mo'yn rhoi e lan, bydden i ishe 'neud popeth fi'n gallu i gario mlaen achos bod y gymuned 'ma wedi ffurfio a 'wi'n prowd iawn o'r menywod sy'n aelodau o'r gymuned 'na.

Cyngor

Cerwch amdani! Mae 2020 wedi dangos i ni fod bywyd yn gallu newid mewn eiliad.

Bydde fe'n deimlad uffernol i deimlo fod y cyfle wedi mynd... y peth gwaethaf all ddigwydd yw fod rhywbeth ddim yn gweithio mas.

Ond mae hefyd cyfle i bethau weithio mas fel sy' wedi digwydd i fi - mae wedi newid fy mywyd i am y gorau.

"'Dwi ddim yn ofn bwyd ddim mwy... ac mae hynny wedi rhoi rhyddid anferthol i mi"

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Iestyn: cyn ac ar ôl FFIT Cymru

Fe lwyddodd pump arweinydd FFIT Cymru i golli pwysau sylweddol a gwella eu hiechyd yn ystod y gyfres - a hynny oll yn ystod pandemig. Ond roedd trawsnewidiad un arweinydd yn arbennig o ddramatig - llwyddodd Iestyn Owen Hopkins i golli dros chwech stôn eleni. Mae Iestyn wedi rhannu'r stori tu ôl ei drawsnewidiad gyda Cymru Fyw:

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn a hanner i ddweud y lleiaf.

O gyfnod anodd yn hiraethu am gael bod adra a gweld fy nheulu, i gyfnod o lawenydd am y trawsnewidiad bywyd.

Rydw i wedi bod ar ben fy nigon yn dathlu'r colli pwysa' ac mae gen i lawer o ddiolch i'r cyfnod clo am adael i mi ganolbwyntio ar hynny.

Pa mor hunanol mae hynny'n swnio? Mae llawer un wedi profi pethau erchyll a hollol afiach, a dyma fi'n dathlu yr hyn sydd wedi digwydd.

Fydda i'n teimlo yn euog am hynny, ond mae'n rhaid i mi chwilio am y smotyn bach o oleuni mewn blwyddyn hollol swrreal.

Profiad unigryw

Roedd y profiad o gymryd rhan yn FFIT Cymru yn wahanol i'r hyn oeddwn i wedi ei ddisgwyl. Roedd y ffaith ein bod angen gwneud y cyfan yn rhithiol yn eithaf siomedig ar y cychwyn ond roeddwn i in too deep erbyn hynny a pharhau oedd rhaid gwneud.

Yn amlwg, roeddwn i wrth fy modd ar ôl cychwyn a gweld fod y cynhaliaeth a'r cyngor yn wych - er y cyfyngiadau. Roedd o'n anodd weithiau ond roedd tywydd braf y cyfnod clo mawr wedi helpu.

Fel arweinwyr 'da ni mor agos - er dim ond llond llaw o weithiau 'da ni wedi cyfarfod - ac roedd hynny'n hanfodol i'r trawsnewidiad, sef i gael rhywun yn gefn, rhywun yn wynebu yr un heriau.

Ysbrydoliaeth

Yn amlwg mae'r cyfresi blaenorol wedi bod yn ysgogol ac yn rhan o'r penderfyniad i gymryd rhan. I ddweud y gwir, roeddwn ar fin ymgeisio llynedd ond wedi peidio gan fy mod yn ofn y backlash oherwydd fy mod wedi colli pwysau yn y gorffennol ac wedi rhoi'r cyfan (a mwy) ymlaen.

Ond ymgeisio oedd rhaid flwyddyn yma ar ôl colli fy hun, colli'r Iestyn oedd wrth ei fodd yn gwisgo dillad neis a chael gneud ei wallt ayyb.

Ffynhonnell y llun, Iestyn Owen Hopkins

Rhoi 100%

Roedd rhaid i fi fynd cold turkey mewn ffordd a rhoi 100% o'r cychwyn. Roedd y ffaith fy mod yn dysgu o bell fel athro yn rhoi llawer mwy o amser i fi ymrwymo i'r cynllun ac oherwydd hyn roeddwn yn medru rhoi fy holl enaid i'r cynllun.

Tydi'r cyfleoedd yma ddim yn dod yn aml ac roedd rhaid i mi gymryd y cyfle. Wnes i gychwyn efo'r bwyd, mynd o fwyta fel mochyn i gwningen yn eithaf sydyn.

Ond wir-yr, mae'r bwyd mae Sioned yn ei gyflwyno yn wych, yn flasus, yn lliwgar ac mae'r buddiannau maethlon i'w gweld yn syth.

Yna wnes i ganolbwyntio ar y rhedeg a'r gwaith ymwrthiant. Dwi wastad wedi mwynhau rhedeg a daeth y cariad yno yn ôl yn syth bron a wedi ychydig o wythnosau roeddwn yn medru rhedeg am gyfnodau hir eto.

Newid byd

Dwi wedi newid fy meddylfryd 100%. Dwi wastad wedi bod yn un sydd yn cael fy rheoli gan fwyd - pryd mae'r bwyd nesaf? Beth sydd i fwyta? Lle awn ni am fwyd dros y penwythnos?

Mae hynny wedi newid a 'dwi ddim yn ofn bwyd ddim mwy. Dwi'n deall y broses o galorïau mewn a chalorïau allan ac mae hynny wedi rhoi rhyddid anferthol i mi.

Mae croeso i mi fynd allan a bwyta Chinese sydd tua 2500 o galorïau ond wedyn wna i wneud fyny am hynny drwy'r wythnos a thynnu 100 calori y dydd. Wrth wneud hyn dwi'n gwybod ei fod yn amhosib i mi fagu pwysa' ac mae hyn yn drawsnewidiad llwyr i mi.

Beth nesa'?

Wel, dechreuad newydd sydd i mi. Fydda i'n dechrau 2021 mewn swydd newydd fel Dirprwy Bennaeth Ysgol Maesincla a dwi'n edrych ymlaen gymaint i'r her o wneud hynny.

Byw efo Mam a Dad fydda i am dipyn gan ein bod yn gweld hi'n anodd i ddewis lle i brynu tŷ ar hyn o bryd. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr i weld beth sydd gan 2021 i gynnig.

Cyngor

Ewch amdani. Heriwch eich hunain. Parhau sydd angen gwneud gydag unrhyw beth.

Alla i gofio rhywun yn dweud wrtha i un tro i beidio stopio symud, hyd yn oed un cam bach ar y tro gan fod pob cam bach yn arwain at y llinell terfyn.

Boed y llinell yno yn colli pwysa', ffeindio cariad, dechra' teulu neu swydd newydd - peidiwch stopio symud.

Mae ceisiadau yn agored i bawb sydd â diddordeb mewn ymddangos yng nghyfres nesaf FFIT Cymru. Ewch i wefan S4C, dolen allanoli wneud eich cais neu am fwy o wybodaeth.

"Dwi wedi creu rhywbeth mae pobol eraill yn ymateb i, ac mae hynna mor bwysig i mi"

Mae'r grefftwraig Sera Wyn, sy'n gweithio i Gyngor y Celfyddydau, wedi defnyddio'r cyfnod clo fel cyfle i wireddu breuddwyd sy' ganddi ers 10 mlynedd, sef sefydlu ei busnes celf ei hun:

Ffynhonnell y llun, Sera Wyn

Wythnos cyn i locdown ddigwydd o'n i fod cael llawdriniaeth ar gyfer endometriosis. Mi ga'th hwn ei ganslo yn anffodus ac o ganlyniad roeddwn yn gweithio llai o oriau yn y gwaith oherwydd y boen.

Roeddwn hefyd wedi dechrau gweithio o adre ac felly penderfynais i fynd adre at Mam a Dad yn Aberystwyth, heb syniad ar y pryd beth oedd ar fin digwydd!

Am dro

Yn ystod cyfnod locdown, fel pawb arall, o'n i'n ceisio mynd am un dro bob dydd.

Oeddwn i'n mwynhau hyn cymaint a gan mod i adre yng nghanol cefn gwlad ges i fy ysbrydoli i greu gweithiau celf efo'r blodau a'r phlanhigion o gwmpas.

Oeddwn i mewn cymaint o boen efo'r endometriosis roedd o'n helpu i feddwl am rywbeth arall.

Mi wnes i ddechrau tudalen Instagram i ddangos beth oeddwn i'n creu a dechreuodd popeth o'r pwynt yna.

Ffynhonnell y llun, Sera Wyn

Llwyddiant

Fe wnes i ddechrau cael negeseuon gan bobl yn gofyn a allen nhw brynu darnau o waith felly dechreuais werthu trwy Instagram cyn mynd ati i greu gwefan yn gwerthu'r gwaith celf.

Mi nes i ddechrau gwerthu celf i galerïau yng Nghymru a ges i ymateb mor bositif cefais i'r hyder i gadw i greu.

Wnes i ddim newid fy ngyrfa yn gyfan gwbl, dwi dal yn gweithio yn llawn amser ac yn neud hwn ar yr ochr.

Dwi'n caru fy swydd ond mae pethau fel gweithio o adre a ddim gorfod teithio i'r gwaith, neu treulio amser mewn traffig, wedi creu mwy o amser i mi neud fy ngwaith celf ochr yn ochr gyda gwaith.

Ymateb

Oeddwn i ddim yn disgwyl i gymaint o bobl ymateb i'r gwaith i fod yn onest, ond roedd pobl mor gefnogol, yn enwedig gan fod llawer wedi rhoi mwy o egni i brynu oddi wrth fusnesau bach a lleol.

Roedd lot o bobl yn mynd trwy amseroedd caled ond hefyd yn aros adref, ac isio prynu pethau iddyn nhw a ffrindiau.

Edrych ymlaen

Dwi dal yn aros am lawdriniaeth am endometriosis felly weithiau dwi methu codi o'r gwely hyd yn oed, ond mae gwybod 'mod i wedi cyflawni gymaint mewn un o'r blynyddoedd mwyaf caled yn rhywbeth dwi mor falch ohono.

Mae fy ngwaith wedi ymddangos mewn cylchgronau fel Country Living, Period Living a Cardiff Life, dwi nawr yn rhan o 'Casgliad', sef cwmni sy'n cynrychioli artistiaid a chrefftwyr Cymraeg a nes i hyd yn oed gael un o fy ngweithiau celf wedi troi mewn i hysbysfwrdd yng Nghaerdydd!

Mae o wedi bod yn anhygoel.

Ffynhonnell y llun, Sera Wyn
Disgrifiad o’r llun,

Sera yn Ynys y Barri

Cyngor

Peidiwch â bod yn ofnus am beth mae pobl eraill yn meddwl, gwnewch hyn dros chi eich hun. Mi nes i 'neud hwn fel ffordd o ddelio efo poen ac amseroedd caled.

Mae creu celf yn rhywbeth dwi'n 'neud i fi fy hun ac o ganlyniad dwi wedi creu rhywbeth mae pobol eraill yn ymateb i, ac mae hynna mor bwysig i mi.

Hefyd o ddiddordeb