Caniatâd i Frân Wen droi eglwys ym Mangor yn hwb creadigol
- Cyhoeddwyd

Gobaith Frân Wen ydy symud i'w cartref newydd ym Mangor yn 2022
Mae Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo cais cynllunio i droi hen eglwys ym Mangor yn ganolfan greadigol gwerth £3.8m i bobl ifanc.
Cwmni Frân Wen sydd tu ôl i'r cynllun - fydd yn gweld Eglwys Santes Fair ar Ffordd Garth yn cael ei drawsnewid yn ganolfan i blant, pobl ifanc, y gymuned leol a pherfformwyr proffesiynol - o'r enw Nyth.
Mae'r cyngor bellach wedi rhoi cymeradwyaeth cynllunio terfynol a chaniatâd adeilad rhestredig ar gyfer y datblygiad.
Bwriad y cwmni ydy symud o'i safle presennol ym Mhorthaethwy i'r eglwys restredig Gradd II.

Bydd y ganolfan newydd yn cynnwys gofod anffurfiol i berfformio ac ymarfer, stiwdio danddaearol a gofodau creadigol ar gyfer artistiaid
Cafodd yr eglwys ar Ffordd Garth ei hadeiladu yn 1864 ar gost o £4,650, ond mae'n wag ers rhai blynyddoedd.
Bydd y ganolfan newydd yn cynnwys gofod anffurfiol i berfformio ac ymarfer, stiwdio danddaearol a gofodau creadigol ar gyfer artistiaid.
Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys creu mynedfa newydd fydd yn golygu bod Nyth yn hygyrch i bawb.

Roedd y cais cynllunio'n pwysleisio'r posibilrwydd y byddai'r eglwys yn dirywio oni bai bod pwrpas newydd i'r adeilad
Dywedodd Irfon Jones, cadeirydd annibynnol bwrdd Frân Wen: "Mae hwn yn gam cyffrous arall ymlaen i'r hwb newydd eithriadol yma fydd yn rhoi cyfle cyfartal i bobl ifanc gael mynediad i'r celfyddydau.
"Mae'r antur o chwilio am gartref newydd wedi cymryd pum mlynedd, a llawer o waith caled, felly mae'n hynod o braf cyrraedd y cam pwysig hwn."

Yr amcangyfrif yw y bydd gwireddu uchelgais Cwmni Frân Wen yn costio £3.8m
Mae'r gwaith wedi sicrhau cefnogaeth ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio Llywodraeth Cymru a'r Gronfa Treftadaeth Bensaernïol.
Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau'r flwyddyn nesaf, gyda'r gobaith o agor yn 2022.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Awst 2020
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2020
- Cyhoeddwyd6 Awst 2019