Ateb y Galw: Yr actores Joanna Scanlan
- Cyhoeddwyd
Mewn Ateb y Galw arbennig, yr actores Joanna Scanlan sy'n ateb ein cwestiynau yr wythnos yma, fel rhan o her mae hi wedi ei chwblhau ar gyfer y rhaglen deledu Iaith ar Daith, sef cael cyfweliad yn Gymraeg, a hynny am y tro cyntaf erioed.
Mae hi wedi bod yn teithio Cymru gyda'r actor Mark Lewis Jones mewn ymgais i ddysgu Cymraeg ar gyfer y gyfres fydd yn cael ei darlledu ar S4C yn y gwanwyn.
Mae Joanna yn wyneb cyfarwydd ar ôl actio mewn cyfresi teledu fel The Thick of It, No Offence, ffilmiau fel Bridget Jones' Baby a Notes on a Scandal, yn ogystal â'r cyfresi Cymreig, Stella a The Accident.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dwi'n cofio mynd i'r ysbyty - y Liverpool - ar gyfer geni fy mrawd. O'n i'n 18 mis.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
O'n i wedi mynd i America, i Long Island, ar wyliau. O'n i eisiau nofio yn y môr, felly dyma fi'n gwisgo bikini. O'n i'n nofio, a dyma un don yn dod drosta fi, ac roedd y bikini wedi gorffen nofio ac wedi mynd am byth! Doedd yna ddim person arall yno, diolch byth...
Cwrs cyntaf, prif gwrs a pwdin - beth fyddai'r dewis?
Ar gyfer y cwrs cyntaf, dwi eisiau salad efo caws dafad - dwi'n ei hoffi. Cig Cymreig efo tatws newydd, sbigoglys a chennin i'r prif gwrs. A dwi'n hoffi mafon efo hufen, dim siwgr - syml. Diolch yn fawr!
Beth yw dy hoff gân a pham?
Clywais i gân yn y car am y tro cyntaf efo Mark - hardd iawn - Adra gan Gwyneth Glyn. Mae o am y daith yma i mi.
Caniatáu cynnwys YouTube?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Google YouTube. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Google, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grïo?
Diwrnod cyn ddoe, yn gwrando ar Adra. Cân emosiynol, cân i'r galon.
Dy hoff le yng Nghymru a pham?
Dydi hi ddim yn bosib dweud un...! Wel, dwi'n hoffi nofio, a dwi'n cofio nofio yn Llyn Idwal yn Eryri - felly Llyn Idwal; yr olygfa, yn y mynyddoedd, yn y llyn yn nofio.
Disgrifia dy hun mewn tri gair.
Wedi blino... mae meddwl yn Saesneg a meddwl yn Gymraeg yn flinedig! Hapus. Chwilfrydig.
Byw neu farw, gyda phwy fyddet ti'n cael diod. Pam?
Dwisho yfed efo Brenda Chamberlain, yr artist a'r sgwennwr, a'i gŵr, John Petts ym mhentref Rachub yn 1938! Dwi'n meddwl bod y celf a'r ddau ohonyn nhw yn wych a diddorol iawn. Dŵr fizzy ydy'r diod, achos dwi ddim yn yfed alcohol, ond geith Brenda a John yfed yr alcohol!
O archif Ateb y Galw:
Pam dy fod ti eisiau dysgu Cymraeg?
Dwi eisiau siarad Cymraeg achos o'n i'n byw yng Nghymru ers o'n i'n dair, es i i'r ysgol yng Nghymru. Dwi'n teimlo'n drist heb yr iaith Gymraeg. A dwi eisiau'n fawr siarad efo fy nith, achos mae hi mewn ysgol Gymraeg ac mae hi'n siarad Cymraeg yn dda iawn. Dwi eisiau siarad Cymraeg efo hi yn fawr iawn.
Beth ydi dy hoff air Cymraeg?
Dwi'n hoffi sbigoglys - dwi'n hoffi bwyta sbigoglys a'r gair! Siani flewog hefyd, sef caterpillar. A hefyd, popty-ping - mae'n Gymraeg clyfar!
Wyt ti wedi mwynhau dy gyfnod yn teithio o amgylch Cymru gyda Mark, yn dysgu Cymraeg?
Dwi wedi mwynhau'n fawr iawn - diolch yn fawr Mark - athro da iawn! Dwi wedi mwynhau bod yng Nghymru; y celf, y golygfeydd, y tirwedd, y bobl - maen nhw mor gyfeillgar.
Ti byth yn rhedeg allan o brofiadau yng Nghymru... yr hanes, y Mabinogion, y chwedlau... does yna ddim gwlad arall fel hi i mi.
Hefyd o ddiddordeb: