Dros hanner hyd Afon Gwy yn methu targed llygredd

  • Cyhoeddwyd
Afon GwyFfynhonnell y llun, Philip Halling/Geograph

Mae dros hanner hyd Afon Gwy a'i dalgylchoedd yng Nghymru yn methu â chyrraedd targedau llygredd, yn ôl astudiaeth newydd gan Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

O ganlyniad, mae CNC yn dweud y bydd angen i unrhyw ddatblygiadau newydd yn nalgylch yr afon ddangos nad yw'n effeithio'n andwyol ar lefelau ffosffad.

Bydd yn rhaid i bob prosiect a chynllun arfaethedig ddangos ei fod yn cael effaith niwtral neu yn lleihau lefelau ffosffad.

Fe wnaeth CNC y gwaith yn dilyn pryderon am dyfiant algaidd yn yr afon yr haf diwethaf - fe drodd rhannau o'r afon yn wyrdd yn ystod tywydd heulog a phan oedd llif y dŵr yn isel.

Mae llygredd ffosffad yn achosi gormod o dyfiant o algâu sydd yn "mygu ac yn blocio golau ar gyfer planhigion ac anifeiliaid eraill" yn ôl CNC. Gall hyn niweidio ecosystemau ac arwain at ostyngiad mewn bioamrywiaeth.

27 ardal o 44 ym methu'r targed

Yn dilyn adolygiad o ddata ansawdd dŵr hanesyddol ar gyfer Afon Gwy mae CNC wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau yn amlinellu'r lefelau ffosffad.

Mae'r afon yng Nghymru wedi'i rhannu'n 44 'corff dŵr' ac fe gymharodd astudiaeth CNC y crynodiadau ffosffad ym mhob corff yn erbyn targedau a osodwyd.

Pasiodd 14 o'r cyrff dŵr a oedd o fewn y lefelau targed. Methodd 27. Roedd rhai o'r rhain, gan gynnwys ardal ger y Bontnewydd ar Wy, wedi methu o gryn dipyn.

Dywed CNC fod ffynonellau'r llygredd yn amrywiol. Mae'n dweud bod y nifer fawr o ffermydd dofednod ym Mhowys yn cael effaith, ond mae'r rhesymau'n fwy cymhleth na hynny.

Dywedodd Gavin Bown, Pennaeth Gweithrediadau Canolbarth Cymru CNC: "Roedd pryderon bod lefelau ffosffad yn gysylltiedig ag unedau dofednod, ond nid ydym wedi dod o hyd i gysylltiad uniongyrchol rhwng y ddwy elfen."

Ffynonellau tebygol eraill yw carthffosiaeth o'r prif gyflenwad a thanciau septig, camgysylltiadau ac arferion amaethyddol.

Yn ôl amcangyfrif mae tua naw miliwn o ieir yn cael eu cadw ym Mhowys ac mae nifer o grwpiau ymgyrchu amgylcheddol yn credu bod y nifer fawr o unedau dofednod yn y sir yn gyfrifol am y llygredd cynyddol yn y Gwy.

Maen nhw'n credu bod ffosffadau mewn tail ieir - sy'n cael ei ddefnyddio fel gwrtaith - yn rhedeg oddi ar gaeau ac yn mynd i mewn i gyrsiau dŵr gan achosi llygredd yn yr afon.

Dywedodd Gavin Bown fod mwy o waith yn cael ei wneud i ddeall yn well beth yw union cyfraniad yr unedau dofednod i'r llygredd, ond bod y dystiolaeth gyfredol yn awgrymu bod yr achosion yn fwy cymhleth.

"Mae hynny'n rhywbeth rydyn ni'n dal i edrych arno," meddai Mr Bown.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Parhau mae ymchwil i gysylltiad posib rhwng ffosffadau tail ieir a llygredd yn yr afon

"Rydyn ni'n gallu deall pam y byddai pobl yn gwneud yr hyn a fyddai'n ymddangos yn gysylltiad naturiol rhwng y sector dofednod a'r problemau rydyn ni wedi bod yn eu gweld.

"Ond yr hyn rydyn ni'n ei wybod yw nad ydyn ni wedi dod o hyd i unrhyw dystiolaeth o gysylltiad uniongyrchol rhwng ffermydd dofednod a'r cyrff dŵr hynny sy'n methu'r targedau a osodwyd.

"Nid yw hynny yn golygu nad yw ffermydd dofednod yn cyfrannu at lygredd yn y dalgylch dŵr. Ond, er enghraifft, mewn rhannau o ddalgylch [Afon] Ieithon, sydd â nifer fawr o unedau dofednod, mae wedi cyrraedd y targedau ffosffad. Felly, mae'n ddarlun eithaf cymhleth.

"Mae'n rhywbeth rydyn ni'n edrych arno o ran yr ystod honno o wahanol ffynonellau. Ond ar hyn o bryd nid yw'n bosibl i ni ddweud bod cysylltiad uniongyrchol yno."

Targedau 'heriol'

Er mwyn lleihau llygredd yn yr afon dywed CNC y byddai angen i unrhyw ddatblygiadau newydd yn nalgylch Gwy ddangos y byddant yn niwtral o ran ffosffad neu'n well.

Byddai hyn yn rhan newydd o'r broses gynllunio a byddai'n effeithio ar ddatblygiadau sydd angen caniatâd amgylcheddol gan CNC a'r rhai sydd angen caniatâd cynllunio yn unig.

Mae hyn yn golygu y byddai ceisiadau am unedau dofednod o bob maint yn cael eu heffeithio.

Nid yw CNC yn disgrifio hyn fel moratoriwm ar ddatblygiadau newydd yn ardal yr Afon Gwy, fel sydd ar waith ar Afon Lugg yn Sir Henffordd, lle mae pryder ynglŷn â llygredd hefyd. Ond dywed CNC fod y targedau ar gyfer y Gwy yng Nghymru yn uchelgeisiol.

Dywedodd Gavin Bown: "Mae'r rhain yn dargedau heriol ac maen nhw'n agos at y lefelau sylfaen naturiol [o ffosffadau]. Ry'n ni'n disgwyl y bydd yn cymryd peth amser i weld y gwelliannau yng nghyflwr y Gwy.

"Mewn rhai dalgylchoedd a nentydd mae'n bosibl y bydd [gwelliannau] yn digwydd yn gynt. Ond ry'n ni'n cydnabod bod yna ystod eang o wahanol resymau ar gyfer ffynonellau ffosffadau, ac fe fydd yn rhaid i wahanol randdeiliaid chwarae eu rhan i gyflawni'r lefelau y mae angen i ni eu gweld.

"Yn sicr mae gennym ni bryderon am ansawdd dŵr yn Afon Gwy a dyna pam rydyn ni'n gweithredu nawr yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael inni.

"Ry'n ni wedi gweld problemau yn ystod yr haf diwethaf gydag ymddangosiad blodau algaidd. Felly, mae hwn yn gam i geisio atal dirywiad pellach ac i geisio gwella ansawdd dŵr Afon Gwy."

Pynciau cysylltiedig