Gwrthdrawiad ambiwlans: Teyrnged i dad 'cariadus'
- Cyhoeddwyd
Mae teulu dyn a fu farw yn dilyn gwrthdrawiad yn Nhreherbert, Rhondda Cynon Taf, nos Iau wedi rhoi teyrnged iddo.
Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r A4061, Ffordd Rhigos, ychydig wedi 19:00 wedi adroddiadau bod car Mazda glas wedi bod mewn gwrthdrawiad gydag ambiwlans.
Bu farw Jeff Rawle, dyn 47 oed o Dreherbert, yn y fan a'r lle.
Cafodd ei deithiwr ei anafu'n ddifrifol ac mae'n parhau i fod yn yr ysbyty, tra bod gyrrwr yr ambiwlans wedi cael triniaeth am fân anafiadau.
'Tad arbennig'
Wrth roi teyrnged iddo dywedodd teulu Mr Rawle: "Roedd Jeff yn fab, brawd ac yn dad arbennig i'w ferch Gabby.
"Roedden nhw mor agos, roedd hi'n ei garu gymaint, ac mae hi wedi ei llorio yn sgil marwolaeth trasig ei thad.
"Mae ei farwolaeth sydyn wedi gadael twll enfawr yn ein calonnau a'n bywydau ac rydyn ni fel teulu wedi ein llorio'n llwyr, wrth i ni geisio gwneud synnwyr o'r hyn sydd wedi digwydd.
"Roedd Jeff yn dod o ardal Treherbert yn y Rhondda ac roedd cymaint yn ei garu ac yn ei hoffi. Bydd colled ar ei ôl."
Mae Heddlu'r De yn parhau i ymchwilio i'r gwrthdrawiad, ac mae swyddogion o'r Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol yn awyddus i siarad gydag unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad, neu a welodd y ddau gerbyd yn cael eu gyrru ychydig cyn y digwyddiad.
Mae'r heddlu'n arbennig o awyddus i glywed gan bobl sydd â lluniau ffôn symudol neu dash-cam allai fod o gymorth.
Dylai pobl ffonio 101 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 2000456336.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2020