Cyfnod clo newydd yn dechrau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Am hanner nos cychwynnodd Cymru ar ei thrydydd cyfnod clo cenedlaethol yn dilyn pryderon ynghylch amrywiad "mwy ymosodol" newydd o Covid-19.
Mae pobl wedi cael gorchymyn i aros gartref a mynd allan am resymau hanfodol yn unig.
Neithiwr roedd ciwiau enfawr o bobl y tu allan i siopau a oedd eisiau prynu pethau cyn i fanwerthwyr orfod cau.
Yn ôl Llywodraeth Cymru roedd rhaid cyflwyno'r cyfyngiadau newydd - rhai lefel pedwar - yn gynt yn dilyn cynnydd mawr yn nifer yr achosion o amrywiad newydd o Covid-19.
Daeth y cyhoeddiad am gyfnod clo newydd wrth i rai o fyrddau iechyd y de ddweud bod ganddyn nhw'r "nifer uchaf o gleifion Covid-19 ers dechrau'r Pandemig".
Nos Sadwrn fe benderfynodd nifer o siopau led-led Cymru aros ar agor yn hwyarch am fod cyfyngiadau newydd yn cael eu cyflwyno.
"Roedden ni wedi cau am y prynhawn am 4 o'r gloch", meddai Bethan Jones o siop Ffab Cymru yn Llandysul, "ac yna da'th y cyhoeddiad bo nhw'n mynd i gau."
"Benderfynon ni wedyn i ail-agor rhwng 18.30 a 10.30 ac ac un amser o'dd rhwng wyth a deg person yn ciwio tu fas.
"O'dd nifer yn yn dweud eu bod nhw wedi meddwl dod wythnos nesa, ond yna o'dd pawb yn panicio ac ishe anrhegion.
Dywedodd Ms Jones bod y cyhoeddiad wedi dod yn dipyn o sioc iddi, ond ei bod yn cytuno gyda'r penderfyniad i gyflwyno cyfnod clo newydd.
"O'dd ishe lockdown, ond wedi dweud hynny bydde fe wedi bod yn dda tasen ni wedi cael fwy o rybudd.
"Ma'n anodd i'r llywodraeth i w'bod beth i wneud, ac mae'n rhaid i ni i gyd wneud beth allwn ni er mwyn stopio'r haint 'ma".
Yn ôl Ynyr Edwards o Siop Eifionydd ym Mhorthmadog fe fyddai wedi bod o fudd iddyn nhw gael ychydig mwy o rybudd cyn gorfod cau eu drysau i gwsmeriaid.
"Oedden ni adre mwy neu lai, wedi cau'r siop am y dydd, ac fe ddaethon ni nôl yn syth bin.
"Da ni wedi cael lot o bobl yn dod i fewn i dweud bo nhw'n falch bo hi'n wedi ail agor. Nethon ni agor eto am 6.30 ac o'dd pobl yma o fewn pum munud.
"Dwi'n meddwl y byddan i'n trio dyfeisio rhyw faint o system gasglu dros y dyddiau nesaf, achos oedd ganddon ni dipyn o archebion yn barod i'w cwblhau, a deliveries hefyd. Ond gewn ni sortio hynny fory. "
Caniatáu cynnwys Facebook?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan Facebook. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis Facebook Meta, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Dywedodd cyfarwyddwr CBI Cymru, Ian Price, nad oedd yn synnu bod cyfyngiadau wedi cael eu cyflwyno, "waeth pa mor boenus bynnag ydyn nhw".
"Mae busnesau'n gwybod bod yn rhaid rheoli cyfraddau heintiau i achub bywydau ac amddiffyn busnesau rhag dioddef yn economaidd yn y tymor hwy," meddai.
"Serch hynny, bydd galw'r hyn sydd i bob pwrpas yn gyfnod clo llawn ar adeg mor dyngedfennol i lawer o fusnesau - yn enwedig y rhai yn y sectorau lletygarwch, manwerthu a thwristiaeth a gafodd eu taro galetaf - yn ergyd newydd ar ôl misoedd lawer o galedi ac unwaith eto yn rhoi swyddi pellach mewn perygl. "
Haws lledu'r haint
Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, eu bod nhw wedi cael eu gorfodi i wneud y penderfyniad i gyflwyno'r lefel uchaf o gyfyngiadau cyn y Nadolig am eu bod yn "gwybod mae'r fersiwn yn lledaenu'n gyflymach".
"Mae'n hawsach i bobl roi y feirws i bobl eraill," meddai, "ac mae'r nifer o bobl sy'n diodde o coronafeirws yn cynyddu achos mae'r fersiwn newydd 'da ni, ac mae'r fersiwn newydd 'da ni ym mhob cwr o Gymru yn barod.
"Dyna pam ni'n meddwl ni wedi gweld y nifer o bobl yn ein ysbytai, yn dioddef o coronafeirws yn ddifrifol yn cynyddu hefyd. Dyna pam mae mor bwysig i neud pethe nawr."
Ddydd Sadwrn fe wnaeth Bwrdd iechyd Aneurin Bevan rannu neges ar wefannau cymdeithasol yn gofyn i bobl feddwl ddwywaith cyn dod atyn nhw am gymorth am fod ganddyn nhw'r "nifer uchaf o gleifion Covid-19 ers dechrau'r Pandemig".
Caniatáu cynnwys Twitter?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan Twitter. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai Twitter ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis Twitter, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Wythnos diwethaf fe gyhoeddodd byrddau iechyd Bae Abertawe ac Aneurin Bevan eu bod wedi'r rhoi'r gorau dros dro i lawdriniaethau nad sy'n rhai brys - er mwy trin cleifion covid.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru maen nhw wedi bod yn gweithio gyda'u partneriaid yng ngweddill gwledydd y Deyrnas Unedig er mwyn ymchwilio ar ymateb i'r amrywiad hwn o'r haint.
Dywedodd Dr Chris Williams o Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Mae cyflwyno cyfyngiadau newydd ar unwaith yn gysylltiedig â nodi amrywiad newydd mwy trosglwyddadwy o Coronavirus.
"Mae'n arferol i firysau gael amrywiadau, ac rydyn ni'n disgwyl i hyn ddigwydd. Er ei bod yn haws trosglwyddo'r amrywiad, ar hyn o bryd nid oes tystiolaeth ei fod yn fwy difrifol.
"Rydym yn atgoffa pobl bod yr holl ganllawiau cyfredol sy'n ymwneud â coronafeirws yn parhau i fod yn berthnasol i'r amrywiad newydd, gan gynnwys cyngor yn ymwneud â symptomau, ymbellhau cymdeithasol, hunan-ynysu a brechu.
"Mae'r amrywiad newydd yn ymddangos yn bositif ym mhrofion Coronavirus presennol Iechyd Cyhoeddus Cymru, a rhaid i bobl barhau i geisio prawf yn y ffordd arferol os ydynt yn datblygu symptomau o'r haint."
Beth ydy'r rheolau newydd?
Mae'r cyhoeddiad heddiw yn golygu bod Cymru'n mynd i lefel pedwar o ran cyfyngiadau o hanner nos nos Sadwrn, sef y lefel fwyaf tebyg i'r cyfyngiadau welson ni yn yr hydref.
Fodd bynnag, yn wahanol i hynny, bydd ysgolion a gofal plant yn aros ar agor.
Bydd disgwyl i bobl aros gartref, bydd manwerthu a lletygarwch nad ydynt yn hanfodol yn gorfod cau - heblaw am wasanaethau 'clicio a chasglu' a siopau pryd ar glud.
Bydd cyfarfod ag aelwyd arall yn eich cartref eich hun yn cael ei wahardd, er y bydd cartrefi un person yn gallu cwrdd ag un cartref arall mewn trefniant swigen cymorth.
Bydd cyfyngiadau teithio ar waith hefyd.
Os ydych chi'n byw yng Nghymru, byddwch chi'n gallu teithio i gwrdd ag un cartref arall ar Ddydd Nadolig unrhyw le yng Nghymru.
Gallwch hefyd adael Cymru, yn amodol ar y cyfyngiadau lleol yn yr ardal y byddech chi'n teithio iddi, a'r angen i fod yn ôl gartref erbyn diwedd y dydd.
Bydd yr holl ddigwyddiadau dan do ac awyr agored ac atyniadau i ymwelwyr yn cael eu canslo neu eu cau, bydd campfeydd, siopau trin gwallt a llety gwyliau yn gorfod cau hefyd.
Nid oes dyddiad cau penodol ar gyfer codi'r lefel rhybudd - yn lle hynny mae set o feini prawf y mae'n rhaid eu cyrraedd er mwyn lleddfu cyfyngiadau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd18 Rhagfyr 2020