Amrywiad newydd Covid-19 'ym mhob rhan o Gymru'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
Dynes mewn mwgwd yn cerdded ar stryd wagFfynhonnell y llun, Getty Images

Bydd nifer yr achosion coronafeirws yn cyrraedd pegwn arall ar ôl y Nadolig, hyd yn oed ar ôl cyflwyno'r cyfyngiadau clo yn gynnar, meddai'r gweinidog iechyd.

Dywedodd Vaughan Gething wrth BBC Radio Wales bod y Llywodraeth wedi cyflwyno'r rheol aros gartref neithiwr yn "rhannol" o ganlyniad i straen newydd o'r firws.

Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru mae'r amrywiad 'yn bresennol' ym mhob rhan o Gymru, gan gynnwys y gogledd.

Dywedodd Mr Gething eu bod nhw fel gweinidogion wedi gweld tystiolaeth fod y straen yn "llawer mwy heintus".

Mae arweinwyr gwrthbleidiau yn galw am alw Senedd Cymru yn ôl yn ystod cyfnod y Nadolig.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, y byddai cyhoeddi cyfyngiadau llymach Covid yn gynt wedi atal pobl rhag rhuthro i'r siopau nos Sadwrn

Mae Cymru gyfan yn y lefel uchaf - lefel pedwar - erbyn hyn, gyda phob siop ond y rhai hanfodol ar gau, ac mae pobl yn cael eu hannog i "aros adref" i achub bywydau.

Mae pwysau ar y GIG wedi mynd yn waeth na'r hyn yr oedd y llywodraeth wedi ei ragdybio, meddai Mr Gething, a heb weithredu bydd "pegwn uwch fyth mewn achosion", meddai.

"Byddai (y GIG) mewn perygl o fethu ag ymdopi os na fyddwn yn gweithredu - ac mae risg o hynny hyd yn oed nawr," meddai.

"Dros yr wythnosau nesaf rydyn ni'n gwybod y bydd problem.

"Rydyn ni'n gwybod y bydd rhai pobl yn dal i gymysgu er gwaethaf y rheolau.

"Mae yna bobl y gallwn ni fod yn hyderus y byddan nhw'n gweld nifer o wahanol aelwydydd, a byddwn ni'n gweld pegwn arall o achosion ar ôl y Nadolig.

"Os na allwn ni gael mwy a mwy ohonom yn gwneud y peth iawn yna rydyn ni mewn perygl y bydd ein gwasanaeth iechyd gwladol yn cael ei lethu."

Disgrifiad o’r llun,

Dim ond siopau hanfodol sy'n cael aros ar agor yn ystod y cyfnod clo

Fe wnaeth Dr Frank Atherton, y Prif Swyddog Meddygol, ryddhau datganiad am y cyfyngiadau newydd neithiwr, gan ddweud fod "cyfran sylweddol" o heintiau COVID-19 yng Nghymru oherwydd yr amrywiad newydd, sy'n bresennol mewn gwahanol rannau o Gymru.

Dywedodd Dr Atherton ei bod yn ymddangos bod yr amrywiad newydd "yn sylweddol fwy trosglwyddadwy na'r firws math gwyllt".

Galwadau gwleidyddion

Wrth siarad ar raglen Dewi Llwyd ar BBC Radio Cymru y bore ma fe ddwedodd arweinydd Plaid Cymru, Adam Price: "Fe nes i ddweud wrth i Prif Weinidog dydd Mercher y dylid fod wedi dod a chyfyngiadau uwch mewn yn yr ardaloedd hynny o haint uchel cyn y Nadolig beth bynnag, hyd yn oed heb y wybodaeth newydd yma ynglŷn a'r amrywiad newydd o'r feirws, oherwydd o'dd y feriws dal yn carlamu o ran y cynnydd yn yr ardaloedd hynny."

"Mi o'dd y Prif Weinidog wedi gwrthod hynny ddydd Mercher ac wedyn wedi newid y polisi erbyn dydd Sadwrn.

"Mi fydde modd petai nhw wedi dod mas gyda'r cyhoeddiad dydd Mercher wrth gwrs mi fydden ni wedi osgoi wedyn y siopa munud ola' welon ni ddoe, ac mi fyddai busnesau wedi medru paratoi."

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi galw ar y Prif Weinidog i ail-alw Senedd Cymru yn ôl i drafod y datblygiadau diweddaraf.

Dywedodd gweinidog iechyd cysgodol y Ceidwadwyr Andrew RT Davies fod pwysau "enfawr" ar y GIG, ond dywedodd fod angen i weinidogion ddarparu tystiolaeth i gefnogi eu gweithredoedd.

"Nid wyf yn amau ​​didwylledd gweinidogion o gwbl, ond rwy'n credu bod angen i ni weld y dystiolaeth fel mater o frys," meddai.

"Deffrais y bore yma ac es i mewn i'm ebyst ac mae'n llawn o bobl ddryslyd yn pryderu am yr hyn sydd wedi digwydd."

Beth ydy'r rheolau newydd?

Mae'r cyhoeddiad heddiw yn golygu bod Cymru'n mynd i lefel pedwar o ran cyfyngiadau o hanner nos nos Sadwrn, sef y lefel fwyaf tebyg i'r cyfyngiadau welson ni yn yr hydref.

Fodd bynnag, yn wahanol i hynny, bydd ysgolion a gofal plant yn aros ar agor.

  • Bydd disgwyl i bobl aros gartref, bydd manwerthu a lletygarwch nad ydynt yn hanfodol yn gorfod cau - heblaw am wasanaethau 'clicio a chasglu' a siopau pryd ar glud.

  • Bydd cyfarfod ag aelwyd arall yn eich cartref eich hun yn cael ei wahardd, er y bydd cartrefi un person yn gallu cwrdd ag un cartref arall mewn trefniant swigen cymorth.

Bydd cyfyngiadau teithio ar waith hefyd.

  • Os ydych chi'n byw yng Nghymru, byddwch chi'n gallu teithio i gwrdd ag un cartref arall ar Ddydd Nadolig unrhyw le yng Nghymru.

  • Gallwch hefyd adael Cymru, yn amodol ar y cyfyngiadau lleol yn yr ardal y byddech chi'n teithio iddi, a'r angen i fod yn ôl gartref erbyn diwedd y dydd.

  • Bydd yr holl ddigwyddiadau dan do ac awyr agored ac atyniadau i ymwelwyr yn cael eu canslo neu eu cau, bydd campfeydd, siopau trin gwallt a llety gwyliau yn gorfod cau hefyd.

Nid oes dyddiad cau penodol ar gyfer codi'r lefel rhybudd - yn lle hynny mae set o feini prawf y mae'n rhaid eu cyrraedd er mwyn lleddfu cyfyngiadau.