Rhybudd am law trwm a llifogydd i ddod

  • Cyhoeddwyd
Eglwys Newydd

Fe allai glaw trwm achosi llifogydd ac anawsterau teithio ar draws rhannau o Gymru, yn ôl y Swyddfa Dywydd.

Dywedodd y gallai rhai ardaloedd weld hyd at 70mm (2.8 modfedd) o law rhwng 06:00 fore Mercher a Noswyl Nadolig.

Mae'r rhybudd yn gorchuddio'r rhan fwyaf o 22 awdurdod lleol Cymru, ar wahân i'r chwe sir yng ngogledd Cymru.

Gallai de a dwyrain Cymru weld y gwaethaf o'r glaw, gyda hyd at 40mm (1.6 modfedd) mewn mannau eraill.

Mae cymunedau sy'n byw yn agos at afonydd ac mewn ardaloedd arfordirol yn cael eu rhybuddio i fod yn barod am lifogydd.

Mae dau rybudd llifogydd wedi'u cyhoeddi gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer Dyffryn Dyfrdwy Isaf o Langollen i dolau Trefalyn, Wrecsam, dolen allanol ac Afon Ritec yn Ninbych-y-pysgod, Sir Benfro., dolen allanol

Mae naw o rybuddion rhybudd llifogydd llai difrifol, dolen allanol - sy'n golygu bod llifogydd yn bosib a dylai pobl fod yn barod - hefyd wedi'u cyhoeddi.

Ddydd Sadwrn, roedd rhannau o Gaerfyrddin dan ddŵr ar ôl i Afon Tywi orlifo ac roedd tirlithriad yn Aberllechau yn Rhondda Cynon Taf yn dilyn glaw trwm.

Rhybuddiodd y Swyddfa Dywydd y byddai gwyntoedd cryfion hefyd nos Fercher a dros nos.

"Mae siawns fach y gallai cartrefi a busnesau gael eu gorlifo, gan achosi difrod i rai adeiladau," meddai.

Pynciau cysylltiedig