Tomen lo yn y Rhondda'n symud o ganlyniad i law trwm

  • Cyhoeddwyd
Tirlithriad AberllechauFfynhonnell y llun, Chris Bryant AS/Twitter
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd yr olygfa gyferbyn â phentref Aberllechau yn Rhondda Cynon Taf fore Sadwrn

Mae 'na alw am gymorth gan lywodraethau Cymru a'r DU, ar ôl i domen o wastraff glofa'r Cwtsh, ger pentref Aberllechau yn y Rhondda symud dros nos

Yn ôl arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, Andrew Morgan, mae darn 40-50m o led o domen lo wedi llithro'n rhannol i lawr ochr y mynydd.

Dywedodd fod peirianwyr y cyngor yn ymchwilio i'r digwyddiad ger Aberllechau, ac nad oedd yn credu ei fod yn peri risg i ffordd osgoi Rhondda gerllaw.

Daw'r tirlithriad wedi glaw trwm dros y dyddiau diwethaf, ac yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) mae nifer o rybuddion tywydd a llifogydd yn parhau mewn grym.

Mewn rhannau o Sir Gaerfyrddin mae afon Tywi wedi gorlifo'i glannau hefyd.

Yn ôl CNC mae'n rhaid i bobl "gymryd gofal ychwanegol a chadw pellter diogel" o lannau afonydd.

Dyma'r ail dirlithriad yn Rhondda Cynon Taf eleni ar ôl i un arall ddigwydd ym Mhendyrys yn dilyn storm Dennis ym mis Chwefror.

Dywedodd Mr Morgan fod safle Aberllechau wedi bod yn ganolbwynt i wiriadau drôn bob pythefnos i fonitro'r ddaear.

"Mae'n edrych yn llawer gwaeth nag y mae ond dyma'r ail dirlithriad eleni," meddai.

Dywedodd ei fod wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru ynglŷn â'r digwyddiad diweddaraf, ac fe alwodd eto ar Lywodraethau Cymru a'r DU i fynd i'r afael â "materion etifeddiaeth" y pyllau glo.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod eisoes yn datblygu opsiynau ar gyfer safle Aberllechau, ac y byddan nhw'n parhau i roi cefnogaeth i'r cyngor.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tasglu ei sefydlu gan y Prif Weinidog yn dilyn y tirlithriad yma ym Mhendyrys ym mis Chwefror

"Yn ystod y 24 awr ddiwethaf, mae Rhondda Cynon Taf wedi profi cyfnodau hir o law trwm, gyda rhybudd tywydd Ambr y Swyddfa Dywydd mewn grym", meddai'r Cyngor mewn datganiad.

"O ganlyniad, bu symudiad yn nhomen Aberllechau yn y Rhondda, tomen sydd mewn perchnogaeth breifat ac wedi'i lleoli ar dir preifat, y mae Cyngor Taf Rhondda Cynon, ar y cyd â'r Awdurdod Glo, wedi bod yn ei fonitro'n agos eleni.

"Yn ystod y misoedd diwethaf, mae trefniadau monitro wedi cael eu cynyddu oherwydd y risg uchel, gyda pheirianwyr yn ymweld â'r safle bob pythefnos.

"Mae gwerthusiad llawn o'r sefyllfa yn cael ei gynnal ar hyn o bryd, ond mae'r adborth cychwynnol yn dangos bod y slip yn fas ac o fewn y paramedrau symud a ragwelir."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni wedi bod yn cyfathrebu'n uniongyrchol gyda'r awdurdod lleol a'r Awdurdod Glo ynglŷn â'r sefyllfa Aberllechau yn y Rhondda.

"Mae'r digwyddiad hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd archwiliadau rheolaidd o domenni rwbel, yn ogystal â gwaith y tasglu a sefydlwyd gan y Prif Weinidog yn gynharach eleni.

"Rydym eisoes wedi comisiynu gwaith i ddatblygu opsiynau ar gyfer safle Aberllechau a byddwn yn parhau i weithio gyda RhCT a'r Awdurdod Glo i ddarparu'r gefnogaeth angenrheidiol."

Ffynhonnell y llun, Dafydd Williams
Disgrifiad o’r llun,

Afon Tywi wedi gorlifo'i glannau yng Nghaerfyrddin ddydd Sadwrn

Yn y cyfamser mae afon Tywi wedi gorlifo mewn sawl man yn Sir Gaerfyrddin, gan effeithio ar nifer o fusnesau lleol,

Dywedodd Dafydd Williams, o Langynnwr: " Roedd y llanw uchel yn 09:30 y bore yma ac mae un arall yn dod i yn y prynhawn yma.

"Mae busnesau eisoes wedi cael eu taro'n wael gan Covid ac yn gorfod cau am 18:00 bob dydd, nawr maen nhw'n clirio stoc o'r lle maen nhw wedi dioddef llifogydd."

Mae rhybuddion llifogydd CNC yn cynnwys Afon Teifi yng Nghastell Newydd Emlyn, Llandysul, Llechryd a Cenarth; Afon Gwy yn Nhrefynwy; Afon Cothi ym Mhontargothi a phont Ynyswen; yr Afon Tywi yng Nghei Caerfyrddin, Llandeilo ac Abergwili; Afon Cynin yn San Clêr; ac Afon Rhydeg yn Ninbych-y-pysgod.

Yng ngogledd Cymru, mae rhybuddion am lifogydd posib yn Nyffryn Dyfrdwy Isaf.

Rhybuddiodd CNC y bydd "llawer o afonydd yn llifo'n gyflym ac yn beryglus".

Pynciau cysylltiedig