Cyfnod clo newydd: Staff ysbyty'n teimlo 'rhyddhad'
- Cyhoeddwyd
Mae staff meddygol un o ysbytai mwyaf Cymru yn dweud nad yw'r adran achosion brys wedi bod yn lle diogel i ofalu am bobl ar brydiau oherwydd cynnydd sydyn mewn cleifion coronafeirws.
Yn ôl Andrew McNab, ymgynghorydd yn Adran Ddamweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Treforys, teimlodd staff "rhyddhad" bod cyfyngiadau newydd wedi dod i rym dros y Nadolig gan fod y sefyllfa yn datblygu yn "fwy a mwy peryglus."
Dywedodd Mr McNab fod yr ysbyty'n gweld cynnydd mewn cleifion iau sy'n treulio "misoedd" yn yr ysbyty, gan achosi prinder gwelyau.
"Rydyn ni'n gwybod trwy edrych ar y cleifion sy'n dod trwy'r drysau ein bod ni'n mynd i gael ein gorlethu.
'Ddim yn le diogel'
"Roedden ni'n cael diwrnodau yma, efallai pedwar allan o'r 10 diwrnod diwethaf, pan oedden ni'n teimlo nad oedd yr adran bellach yn lle diogel i edrych ar ôl pobl, ond doedd yna unman arall i ofalu amdanyn nhw."
Rhybuddiodd y byddai safon y gofal yn anochel yn dioddef pe bai'r pwysau yn parhau i gynyddu.
"Nid ydym yn hoffi gostwng safon y gofal, ond yn y pen draw pan fydd yn rhaid i chi wneud penderfyniadau ynghylch pwy all ffitio i mewn a phwy sy ddim, mae pobl yn aros yn hirach nag y bydden nhw'n ei wneud ac weithiau nid yw'r gofal a gawn nhw mor dda ag yr hoffech chi ei roi."
Fe rybuddiodd Mr McNab fod effaith y feirws ar staff hefyd yn dod i'r amlwg.
"Mae gennym ni gydweithwyr a oedd wedi dioddef gyda Covid yn y don gyntaf sydd dal ddim i fod yn ôl i'r arfer, a phobl sydd wedi'i gael yn gynnar yn yr ail don nad ydyn nhw wedi dod yn ôl i'r gwaith o hyd oherwydd nad ydyn nhw'n gallu cerdded mwy na 15 llath oherwydd eu bod yn brin o anadl."
Roedd cleifion sy'n cael eu trin ar un o wardiau Covid yr ysbyty hefyd wedi siarad â BBC Cymru.
Mae Margaret Powell o Townhill yn cael ei thrin ar ward ar gyfer rhai o'r cleifion mwyaf sâl.
Dywedodd Margaret nad yw hi "erioed wedi bod mor sâl".
"Sa i'n gallu cael unrhyw orffwys o gwbl," meddai rhwng peswch, "rwy'n gobeithio weithiau fy mod i'n marw, ond na, fe fydda i yn ei ymladd, byddaf."
Yn ôl Brian Pritchard Lyn-nedd, a dderbyniwyd i'r ward wythnos a hanner yn ôl, dyma brofiad gwaethaf ei fywyd. Ond roedd yn llawn canmoliaeth i'r staff meddygol "anhygoel".
"Oherwydd roeddwn i'n gweithio ro'n i bob amser yn cymryd rhagofalon mawr, ond gallwch ddal y feirws yn unrhyw le," meddai.
"Dyw pobl ddim yn sylweddoli beth sy'n digwydd yma. Dyw rhai pobl ddim yn cymryd hyn o ddifrif, ond os oedden nhw'n dod i mewn yma a chael golwg o gwmpas byddan nhw yn ei gymryd o ddifrif. "
Dywed Eleri D'Arcy, sy'n gweithio fel therapydd galwedigaethol yn yr uned gofal dwys, ei bod wedi synnu pa mor ifanc yw rhai o'r cleifion y mae'n delio â nhw.
"Y sioc fwyaf i mi oedd oedran y cleifion. Dydyn ni ddim yn siarad am hen bobl fach eiddil yma, rydyn ni'n siarad am bobl yn eu 40au a'u 50au oedd yn gwbl annibynnol. Mamau, tadau, brodyr, chwiorydd."
Yn ôl Ms D'Arcy, mae'r broses o wella o Covid-19 yn un hir, gyda gadael yr ysbyty "dim ond yn ddechrau'r daith".
"Hyd yn oed i'r bobl fwyaf ffit sydd ddim wedi dioddef yn ddigon gwael i gyrraedd yr Uned Gofal Dwys, mae aelodau o fy nhîm sydd wedi cael Covid nad oedd hyd yn oed wedi cael eu derbyn i'r ysbyty yn dal i ddioddef wythnosau a misoedd yn ddiweddarach, ac mae hynny'n effeithio eu gwaith ac yn amlwg mae'n effeithio ar y gweithlu cyfan hefyd.
"Mae dwyster yr adsefydlu sydd ei angen i gael pobl yn ôl i ryw lefel o weithredu wedi bod yn syfrdanol."
Effaith ar forâl
Dywedodd Ms D'Arcy hefyd fod y pandemig yn cael effaith sylweddol ar morâl hefyd.
"Mae'n ddi-baid. Yn enwedig y tîm rydw i wedi mynd i weithio gyda nhw yn yr uned gofal dwys, maen nhw'n hollol anhygoel, ond dim ond hyd yn hyn y mae pobl yn gallu mynd ac mae hon wedi bod yn flwyddyn hir iawn.
"A phan welwch chi bobl yn torri'r rheolau a chael partïon a mae'n ymddangos nad oes ganddo unrhyw afael ar realiti'r sefyllfa, mae'n peri gofid, mae'n rhwystredig.
"Mae'n anodd parhau i wneud y gwaith hwnnw bob dydd gan wybod nad yw'n cael ei barchu."
Fe ddywedodd Anthony Williams, ymgynghorydd gofal lliniarol yn yr ysbyty fod nifer y bobl sy'n marw yn "sylweddol" ac yn teimlo "yn wahanol iawn i'r arfer".
"Fy ngwaith i yw i ofalu am bobl ar ddiwedd eu hoes, ond y gwir amdani yw, gyda llawer o bobl i ffwrdd o'r gwaith, mae llawer o bobl yn cael eu defnyddio i wahanol feysydd gwaith, ac mae yna lawer o bobl sy'n gofalu am bobl sydd yn marw y gallai hyn fod yn brofiad cymharol newydd iddo, ac mae'r baich y mae llawer o staff yn ei wynebu yn wirioneddol uchel."
Ychwanegodd Mr Williams fodd bynnag, ei fod yn falch iawn o waith caled staff yr ysbyty.
"Yr hyn sy'n glir i weld yn yr ysbyty ar hyn o bryd yw tîm sydd wir wedi ymrwymo i ofalu, hyd yn oed os yw hyn y tu allan i'w gwaith arferol, maen nhw yno ac yn gofalu am gleifion, dim ots pa mor anodd yw'r sefyllfa.
"Mae'n fraint bod yn rhan o dîm yn yr ysbyty sy'n gofalu am bobl mor ddifrifol sâl."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2020
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2020