11,000 o brofion Covid positif ychwanegol heb eu cofnodi

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
LabFfynhonnell y llun, Andrew Milligan/Getty Images

Mae swyddogion iechyd wedi cyfaddef bod 11,000 o brofion Covid positif ychwanegol ddim wedi eu cynnwys mewn ffigyrau swyddogol ar hyn o bryd.

Mae'n golygu y gallai achosion o'r feirws fod yn sylweddol uwch na'r hyn sydd eisoes wedi'i adrodd.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru, oherwydd "gwaith cynnal a chadw" rhai systemau, bod "tan-adrodd sylweddol" ar brofion positif.

Mae'r broblem yn ymwneud â phrofion sy'n cael eu prosesu mewn Labordai Goleudy, sy'n cael eu rheoli gan Lywodraeth y DU a'u rhedeg gan gwmnïau preifat.

Pryd gafodd y profion eu cymryd?

Cafodd yr 11,000 o brofion cadarnhaol ychwanegol eu cymryd yn bennaf rhwng 9 a 15 Rhagfyr.

Mae 102,568 o bobl wedi profi'n bositif yng Nghymru ers i'r pandemig ddechrau, gan olygu bod yr 11,000 o achosion newydd yn cynrychioli mwy na 10% o'r cyfanswm newydd.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru: "Ledled Cymru, yfory [dydd Iau], byddwn yn adrodd oddeutu 11,000 o achosion positif newydd.

"Mae dadansoddiad llawn yn ôl rhanbarthau lleol yn cael ei ddadansoddi ar hyn o bryd a bydd ar gael yn y diweddariad yfory."

Beth ddywedodd y prif weinidog?

Yn siarad fore Iau, dywedodd y prif weinidog nad problem gyfrifiadurol oedd hon, ac nad oedd achosion positif wedi eu methu.

Dywedodd Mark Drakeford bod rhybudd am welliannau i'r system wedi eu cyhoeddi ddydd Gwener.

"Nid stori am ddata coll neu broblemau cyfrifiadurol sydd yma, ond am ddifrifoldeb y sefyllfa", meddai.

"Does dim problem gyfrifiadurol a does dim achosion wedi eu methu. Mae pawb gafodd brawf positif wedi cael gwybod am hynny."

Disgrifiad o’r llun,

Mae canfod mwy o achosion positif yn "newyddion da" meddai Mark Drakeford

Dywedodd: "Doedd y data ddim ar goll, roedd e yna drwy'r amser, yn aros i gael ei fwydo i'r system.

"Roeddech chi'n gwybod nad oedd y system yn mynd i allu adrodd yr holl achosion yma."

Ychwanegodd ei fod wedi disgwyl niferoedd uchel, gan fod swyddogion Cymru wedi cynnal y nifer uchaf o brofion yr wythnos ddiwethaf.

"Os ydych chi'n profi mwy o bobl byddwch chi'n canfod mwy o achosion, sy'n newyddion da."

Beth ydy ymateb y gwrthbleidiau?

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth: "Gydag achosion cadarnhaol yng Nghymru yn codi i'r lefelau uchaf erioed mae'n hanfodol bod adrodd ar ddata yn amserol ac yn gadarn.

"Mae angen darlun cyflawn a chyfredol ar y cyhoedd o'r sefyllfa i sylweddoli difrifoldeb yr hyn sy'n ein hwynebu.

"Mae angen sicrwydd brys arnom fod y methiannau wedi cael sylw."

Mae'r Ceidwadwr Andrew RT Davies yn galw am ymchwiliad i'r digwyddiad.

"Dyma gamgymeriad data syfrdanol arall yn ystod rheolaeth y Gweinidog Iechyd ar argyfwng Covid, i ychwanegu at y 13,000 o lythyrau cysgodi a anfonwyd trwy gamgymeriad, a'r camgymeriad casglu data ym mis Medi a welodd fanylion 18,000 o ganlyniadau profion positif yn cael eu rhoi ar fan cyhoeddus ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

"Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n yn galw'r llanast diweddaraf hwn yn' dan-adrodd sylweddol'. Rwyf yn ei alw yn 'dan-ddatganiad sylweddol' sy'n bychanu gwir raddfa'r broblem."

"Mae'n amlwg bod Llafur Cymru a'u gweinidog iechyd wedi colli rheolaeth ar y feirws yng Nghymru... a dylid lansio ymchwiliad i'r fiasco hwn."

Ddydd Mercher, cafodd 30 o farwolaethau yn rhagor yn gysylltiedig â'r coronafeirws eu cofnodi yng Nghymru.

Cafodd 530 o achosion newydd hefyd eu cofnodi yn y data ddiweddaraf, ond fe wnaeth ICC gydnabod ar y pryd nad oedd y niferoedd yn "adlewyrchiad llawn" o'r sefyllfa oherwydd newid i'r system o gofnodi data.

Roedd wyth o'r marwolaethau diweddaraf yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, saith yng Nghaerdydd a'r Fro, a chwech yn ardal Aneurin Bevan.

Roedd tair yn ardal Hywel Dda, a dwy yr un yn ardaloedd Betsi Cadwaladr, Powys a Bae Abertawe.

Sefyllfa Abertawe yn 'ddifrifol iawn'

Daw wrth i Fwrdd Iechyd Bae Abertawe ddweud bod nifer y marwolaethau yn eu hysbytai ymysg pobl sydd wedi profi'n bositif am Covid-19 wedi cyrraedd lefelau trychinebus.

Roedd yna 26 o farwolaethau yn eu hysbytai dros y penwythnos, ac 14 o farwolaethau yn Ysbyty Treforys yn unig yn y 48 awr ddiwethaf.

Mae cyfarwyddwr meddygol y bwrdd, Dr Richard Evans, wedi rhybuddio bod y sefyllfa'n "ddifrifol iawn".

"Ers canol Tachwedd rydyn ni wedi gweld 30 i 40 o farwolaethau yr wythnos mewn ysbytai, ond mae hynny'n cynyddu."

"Mae'r rhan fwyaf o bobl sydd wedi marw wedi bod yn hŷn, ond yn anffodus mae cleifion yn eu 40au, 50au a 60au wedi marw hefyd."

Pynciau cysylltiedig