'Hanner staff rhai gwasanaethau iechyd yn absennol'

  • Cyhoeddwyd
Pynciau cysylltiedig
YsbytyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae 8-9% o staff GIG Cymru i ffwrdd o'u gwaith ar hyn o bryd

Mae hyd at hanner staff rhai gwasanaethau iechyd i ffwrdd o'r gwaith yn sâl neu'n hunan-ynysu ar hyn o bryd.

Rhybuddiodd Conffederasiwn GIG Cymru bod problemau staffio yn cael "effaith enfawr".

Dywedodd bod 8-9% o staff GIG Cymru i ffwrdd o'u gwaith ar hyn o bryd, ond bod hyd at hanner staff rhai gwasanaethau yn absennol.

Mae tua 5-6% o staff yn absennol mewn mis Rhagfyr arferol.

Mae byrddau iechyd Betsi Cadwaladr, Cwm Taf Morgannwg ac Aneurin Bevan oll wedi dweud bod tua 10% o'u staff yn absennol ar hyn o bryd.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Darren Hughes bod lefelau heintio yn cael "effaith sylweddol" ar allu'r GIG i ddarparu gwasanaethau

"Rydyn ni'n gweld staff yn gorfod hunan-ynysu oherwydd bod gan aelod o'r teulu Covid, neu am eu bod yn gofalu am rywun sy'n hunan-ynysu," meddai cyfarwyddwr Conffederasiwn GIG Cymru, Darren Hughes.

"Mae'n cael effaith fawr ar wasanaethau rheng flaen os ydy un ym mhob 10 o staff i ffwrdd, ond mewn rhai gwasanaethau mae traean neu hanner y staff yn absennol.

Ychwanegodd bod hynny'n cael "effaith enfawr" ar weithgaredd y gwasanaeth iechyd, a'i fod yn effeithio ar allu staff i gysylltu gyda theuluoedd cleifion.

"Fe fyddai'r staff yn hoffi gwneud mwy na'r hyn maen nhw'n ei wneud, ond mae darparu gwasanaethau yn ystod cyfnod Covid yn her enfawr," meddai Mr Hughes.

'Storm berffaith'

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething ddydd Llun bod 1,800 o gleifion Covid-19 yn cael eu trin yn ysbytai Cymru - y nifer uchaf ers dechrau'r pandemig.

Bu'n rhaid i ysbyty cymunedol yn Llanymddyfri gau yr wythnos ddiwethaf wedi i glystyrau o achosion olygu bod yn rhaid i nifer o staff hunan-ynysu.

Rhybuddiodd staff yn Ysbyty Treforys ddydd Mawrth bod "storm berffaith" yn datblygu, wrth i nifer y cleifion gynyddu tra bod nifer y staff yn gostwng.

Ffynhonnell y llun, Ceri Hayles
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dr Ceri Hayles bod staff ysbytai "wedi ymlâdd"

Dywedodd Dr Ceri Hayles, sy'n gweithio yn ysbyty newydd Y Faenor yng Nghwmbrân, bod lefelau staffio yn "deneuach" oherwydd salwch a'r angen i hunan-ynysu.

"Mae'r gwasanaeth yn dal i gael ei ddarparu ond mae 'na ychydig yn llai o amser i wneud yr holl bethau ychwanegol y byddech chi eisiau eu gwneud i bobl," meddai.

Ychwanegodd ei bod yn caru'r swydd, ond bod y staff dan straen.

"Rydyn ni oll wedi ymlâdd," meddai.

Ychwanegodd Mr Hughes wrth raglen Wales Live: "Ry'n ni'n gweld cyfraddau heintio yn codi, ac mae hyn am gael effaith ddifrifol ar ein gallu i ofalu am eich teulu.

"Ond mae hefyd yn cael effaith fawr ar les y staff, sydd wedi bod yn gweithio'n ddiflino am dros wyth mis yn gofalu am bobl ar draws Cymru."

Wales Live, BBC One Wales am 22:35 nos Fercher.