Cartrefi a busnesau'n deffro Noswyl Nadolig i ddifrod llifogydd

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Llifogydd rhwng Penarth a Dinas Powys ym Mro Morgannwg

Mae cartrefi a busnesau yn deffro Noswyl Nadolig i ddifrod sydd wedi'i achosi gan lifogydd.

Yn ystod dydd Mercher, dywed Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi delio â 500 o alwadau mewn ychydig oriau.

Galwyd diffoddwyr tân i lifogydd mewn eiddo yng Nghaerdydd, Casnewydd, Sir Fynwy a Bro Morgannwg.

Dywedodd Huw Williams o Adnoddau Naturiol Cymru fod afonydd yn dal i godi fore Iau.

Ar un cyfnod fore Iau, roedd naw rhybudd am lifogydd ac 19 o rybuddion ychydig yn llai difrifol yn mewn grym, yn bennaf yn y de a'r dwyrain, yn ôl Cyfoeth Naturiol Cymru., dolen allanol

Yn y de fe wnaeth diffoddwyr ymateb i 40 o achosion o lifogydd ddydd Mercher.

Ffynhonnell y llun, Craig James
Disgrifiad o’r llun,

Difrod i dŷ o ganlyniad i lifogydd yn Sili

Mae Lian James wedi canmol ymateb y gymuned wedi i lifogydd ddifrodi cartref ei mam ym mhentref Sili, ym Mro Morgannwg.

Dywedodd bod "pawb wedi troi lan gyda dehumidifiers, bwcedi" wedi apêl am help ar wefan gymunedol. "Roedd pawb yn anhygoel - stori drist ond ymateb rhyfeddol," ychwanegodd.

Cafodd cartrefi Lauren Torjesen ddifrod oherwydd y llifogydd yng Nghasnewydd.

"Os nad ydw i'n chwerthin, fe wnai lefen," meddai.

"Roedd rhaid diffodd y trydan, felly 'sa i'n gwybod be wnawn ni gyda'r holl fwy da 'na."

Yng Nghasnewydd hefyd mae gwasanaeth sy'n darparu beiciau ail law ar gyfer plant rhieni na all fforddio i'w prynu wedi cyhoeddi neges ar Twitter yn cynnig beiciau a sgwteri i unrhyw un sydd wedi colli anrhegion Nadolig yn y llifogydd.

Trafferthion teithio

Fe effeithiodd tywydd ddydd Mercher ar deithiau trên sawl lein, gan gynnwys rhwng Caerdydd a Phen-y-bont, Casnewydd a Henffordd.

Amharodd ar ran o'r lein yng Nghrehafod, rhwng Pontypridd a Threherbert, ac roedd trafferthion yn Eastbrook wedi atal gwasanaethau rhwng Caerdydd a'r Barri.

Ar yr A470, roedd un lôn ar gau yn Coryton, Ffordd Greenway Road ar gau'n gyfan gwbl yn Nhredelerch ac mae bysiau'n gorfod osgoi Ffordd Lecwydd am y tro.

Roedd dŵr ar Ffordd Merthyr Road yn Yr Eglwys Newydd a Ffordd y Bont, yn Llandaf hefyd yn achosi trafferthion i yrwyr.

Mae'r sefyllfa ddiweddaraf i deithwyr yma, dolen allanol, gyda darogan bod disgwyl rhagor o dywydd garw ddydd Sadwrn yn sgil Storm Bella.

Ffynhonnell y llun, @FramingWales
Disgrifiad o’r llun,

Gyrwyr ar Heol y Bont-faen yng Nghaerdydd

Dywedodd Cyngor Caerdydd ddydd Mercher fod swyddogion wedi ymateb i lifogydd ar draws y ddinas, ac roedd yna apêl i drigolion helpu clirio dail a sbwriel o gwteri.

"Mae'r glaw wedi llenwi'r nentydd," meddai llefarydd. "Mae'n golygu na all y gwteri wagio ac mae dŵr yn gorlifo o ganlyniad."

Bu'n rhaid cau'r lôn ddwyreiniol yr M48 yng Nhil-y-coed ynghyd â'r A48 yn ardal Crug, yn Sir Fynwy.

Pynciau cysylltiedig